2 minute read
PAM Y DRINDOD DEWI SANT?
Mwy na gradd
Nid yn unig y mae myfyrwyr yn y brifysgol hon yn dysgu am eu pwnc academaidd, maent hefyd yn cael y cyfle i ennill y sgiliau eraill y mae ar gyflogwyr eu hangen. Mae ein cyrsiau yn cynnig mwy na dim ond theori gan eu bod yn cael eu datblygu gyda chyflogadwyedd yn greiddiol iddynt. Hefyd, mae’r gwasanaeth gyrfaoedd ar gael i gynnig cyngor a chymorth sy’n parhau ar ôl graddio.
Cymunedau Campws Cyfeillgar a Diogel
O ganlyniad i’r cymunedau clòs ar y campysau gall myfyrwyr ymgynefino a theimlo’n gartrefol yn gyflym iawn. Ac mae ein gwasanaeth diogelwch 24 awr ar y campws, ynghyd â chymorth iechyd a lles, yn golygu y byddant yn derbyn gofal da pan fyddant yn astudio gyda ni.
Yno i Chi
Mae’r dosbarthiadau bach yn golygu bod tiwtoriaid yn dod i adnabod eu myfyrwyr fel unigolion - maent yn fwy na wyneb yn y dorf. Yn ogystal â’r cymorth academaidd, mae cymorth ar gael trwy’r Gwasanaethau Myfyrwyr sydd yno i ofalu, gan ddarparu popeth o help gyda materion ariannol i gwnsela.
Cyrsiau’r Unfed Ganrif Ar Hugain
Dysgu ac Addysgu yw ein prif ffocws fel Prifysgol, ac rydym yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod ein cyrsiau’n berthnasol i yrfaoedd y myfyrwyr yn y dyfodol.
Addysg Gynhwysol
Dylai Addysg Uwch fod ar gael i bawb a fyddai’n elwa ohono, felly mae’r Drindod Dewi Sant yn croesawu myfyrwyr o bob math o gefndiroedd ac amgylchiadau gwahanol. Yn ogystal mae Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau ar gael, sy’n golygu bod llai o rwystrau ariannol i ymuno ag AU.
Mae astudio gyda ni yng Nghymru’n galluogi myfyrwyr i brofi’r gorau o ddiwylliant Cymru a’n hamgylchedd naturiol eithriadol. Mae lleoedd gwych y gallwch ymweld â hwy ger ein campysau dinesig, arfordirol a gwledig.
Yma yn y Drindod Dewi Sant, rydym yn cynnig cyrsiau yn y meysydd pwnc canlynol:
Anthropoleg a Datblygu Rhyngwladol Astudiaethau Addysg, Blynyddoedd Cynnar ac Addysg Athrawon Astudiaethau Amgylcheddol Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth Astudiaethau Cymdeithasol Astudiaethau Tsieineaidd Athroniaeth a’r Dyniaethau Busnes a Rheoli Celf a Dylunio Celfyddydau Perfformio Cyfrifiadura ac Electroneg Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored Ffilm, Ffotograffiaeth a Cherddoriaeth Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol Hanes, y Clasuron ac Archaeoleg Nyrsio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Peirianneg Pensaernïaeth ac Adeiladu Rheolaeth Chwaraeon Seicoleg a Chwnsela Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Twristiaeth, Digwyddiadau a Lletygarwch Y Gyfraith, Gwasanaethau Cyhoeddus, Plismona a Throseddeg
Gradd-brentisiaethau
Mae’r math newydd hwn o ddyfarniad yn cynnig llwybr at gymwysterau cydnabyddedig a chymhwysedd proffesiynol, ar y cyd â phrofiad ymarferol mewn gwaith. Mae prentisiaethau’n cynnig cyfle i fyfyrwyr ennill arian wrth iddyn nhw ddysgu. I ddilyn rhaglen brentisiaeth, bydd angen i fyfyrwyr fod mewn swydd. Efallai y byddwn yn gallu sôn wrthynt am gyflogwyr sy’n dymuno recriwtio ond byddem hefyd yn eu cynghori i wneud cais i gyflogwyr eraill yn eu dewis faes. Dysgwch ragor: www.ydds.ac.uk/cy/prentisiaethau