1 minute read
HWYL A SBRI A CHYMORTH CYMHEIRIAID
Undeb y Myfyrwyr
Mae’r Brifysgol ei hun yn gwneud llawer i gefnogi myfyrwyr, ond nid dyma yw’r unig ffynhonnell gymorth sydd ar gael iddynt pan fyddant yn astudio yn y Drindod Dewi Sant. Mae Undeb y Myfyrwyr yn fwy na dim ond lle i gymdeithasu, mae’n trefnu nifer o ddigwyddiadau, ac mae ar gael hefyd i’r myfyrwyr os bydd ganddynt broblem. Mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu: digwyddiadau; cymdeithasau; chwaraeon; cymorth academaidd; cyngor lles; ymgyrchoedd; cynrychiolwyr cyrsiau a chyfadrannau; llais ar Gyngor y Myfyrwyr; cyfleoedd cyflogaeth; ‘Cynrychiolwyr Y Glas; a lle diogel.
Y Glas
Gelwir pythefnos cyntaf y tymor yn bythefnos ‘Y Glas’ neu’n Wythnos Groesawu. Mae’n gyfnod lle bydd myfyrwyr newydd yn ymgartrefu ym mywyd y brifysgol. Mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu digwyddiadau ddydd a nos er mwyn helpu’r Glas i ddod i adnabod ei gilydd a’r ardal lle byddant yn byw ac yn astudio.
Mae gan Undeb y Myfyrwyr gynrychiolwyr yn y digwyddiadau hyn. Mae’r myfyrwyr hyn wedi’u hyfforddi gan Undeb y Myfyrwyr, ac maent yn symud myfyrwyr newydd i’r neuaddau, yn mynd â hwy allan i’r dref a sicrhau eu bod yn ddiogel. Yn ogystal, gall myfyrwyr newydd siarad â nhw unrhyw bryd am unrhyw bryderon sydd ganddynt.
Cynhelir digwyddiadau wythnosol lle gall myfyrwyr gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd. Mae yna nifer o dimau chwaraeon sy’n cystadlu’n broffesiynol ym mhencampwriaethau BUCS (Pencampwriaethau Prifysgolion Prydain). P’un a yw eich plentyn yn ddibrofiad neu’n arbenigwr ar y maes chwarae, mae rhywbeth ar gael at ddant pawb.
Os nad oes ganddynt ddiddordeb mewn chwaraeon, mae gan Undeb y Myfyrwyr nifer o gymdeithasau eraill i bobl o’r un anian gymryd rhan ynddynt. Os nad oes un yn apelio atynt yna mae’n hawdd iawn sefydlu eu cymdeithas eu hunain.