FFIOEDD A CHYMORTH ARIANNOL Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael problemau ariannol ar ryw adeg yn ystod eu bywydau ac, fel rhiant, mae’n bosibl y byddwch yn pryderu y gallai eich plentyn gael trafferthion yn y brifysgol. Gadewch i ni helpu lleddfu rhai o’r pryderon hynny... Beth yw cost astudio? Mae cost cwrs yn dibynnu ar nifer o bethau - yn bennaf pa gwrs mae’r myfyriwr yn ei ddewis a ble mae’n byw adeg gwneud cais am y cwrs. Ond y ffaith allweddol yw nad yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn talu dim ymlaen llaw. Yn Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, £9,000* sydd wedi’i bennu fel swm y ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr amser llawn o’r Deyrnas Unedig a gellir talu am y rhain drwy gael benthyciad ffioedd dysgu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Yn ogystal mae gennym amrywiaeth eang o fwrsarïau ac ysgoloriaethau sy’n darparu cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr.
24 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
O bryd i’w gilydd, gall myfyrwyr hefyd wynebu rhai costau astudio ychwanegol, na ellir eu hosgoi, ar ben y ffioedd dysgu.Er enghraifft, costau teithio yn ôl ac ymlaen i leoliadau, teithiau astudio, argraffu, a phrynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain. Mae’n bosibl hefyd y bydd angen Gwiriad Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer rhai cyrsiau. Er mwyn darganfod a allai’r costau ychwanegol hyn fod yn berthnasol iddyn nhw, dylai myfyrwyr siarad â pherson cyswllt y disgyblaethau academaidd yn y brifysgol. Gallai bwrsarïau fod ar gael hefyd i helpu talu peth o’r costau ychwanegol hyn.
* Ymwadiad: Roedd y wybodaeth hon yn gywir adeg cyhoeddi ac mae’n bosibl y gallai newid. Ewch i’n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf: uwtsd.ac.uk