Canllaw Y DRINDOD DEWI SANT i Rieni
Goleuo’r ffordd i’r Brifysgol ydds.ac.uk/cy | 1
Croeso
Er mai Canllaw i Rieni yw enw’r cyhoeddiad hwn, mae ar gyfer pawb sy’n chwarae rôl gefnogol wrth i unigolyn symud i addysg uwch. Pwy bynnag ydych chi – yn fam, yn dad, yn fam-gu neu’n dad-cu, yn warcheidwad, yn rhiant maeth, yn athro neu’n fentor – dylai fod rhywbeth yn y tudalennau hyn i’ch helpu. Nod y cyhoeddiad hwn yw eich helpu i gefnogi eich darpar fyfyrwyr graddedig wrth iddynt wneud cais am brifysgol, gan ateb rhai cwestiynau a thawelu eich nerfau. Os nad oes gennych unrhyw bryderon, gan eu bod yn brysur yn bwrw ymlaen â phethau, mae’n bosibl o hyd y bydd y wybodaeth ar y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi oherwydd gallech ddysgu rhywbeth nad oeddech chi’n ei wybod. Beth bynnag, gobeithiwn y bydd hyn o help i chi.
2 | University of Wales Trinity Saint David
CYNNWYS CYFLWYNIAD I’R DRINDOD DEWI SANT
4
BETH YW ADDYSG UWCH?
8
ESBONIO JARGON
10
PAM PRIFYSGOL?
12
CAMAU CYNTAF – EU TYWYS AR EU TAITH
14
PARATOI AR GYFER PRIFYSGOL
16
DIWRNODAU AGORED
18
PAM Y DRINDOD DEWI SANT?
20
CYMORTH WRTH LAW – LLES, LLESIANT A CHYMORTH I FYFYRWYR
22
FFIOEDD A CHYLLID MYFYRWYR
24
HWYL A SBRI A CHYMORTH CYMHEIRIAID 26 GYRFAOEDD A CHYFLOGADWYEDD
28
ASTUDIAETHAU ACHOS GRADDEDIGION
29
GWNEUD CAIS TRWY UCAS
32
DYDDIADAU ALLWEDDOL AC ADEGAU BRIG AM GYMORTH
36
RHESTR WIRIO
38
MAN CYCHWYN ADDYSG UWCH YNG NGHYMRU MAE’R BRIFYSGOL YN EDRYCH YMLAEN AT DDATHLU 200 MLYNEDD O ADDYSG UWCH YNG NGHYMRU YN 2022 A’I RÔL WRTH SIAPIO CENEDL. Bydd dathliadau’r deucanmlwyddiant yn coffáu sefydlu Coleg Dewi Sant, Llambed yn 1822 ac yn nodi mai dyna oedd man geni addysg uwch yng Nghymru. Siarter Frenhinol 1828 y Brifysgol yw’r hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.
Llambed, Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd yn caniatáu i ni gael effaith sylweddol ar ein cymunedau yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ein hanes a’n cyswllt ag ef, yn enwedig gan ei fod wedi rhoi’r penderfyniad a’r hyder i ni siapio ein dyfodol ein hunain am genedlaethau i ddod. Bydd 2022 yn rhoi cyfle i ni ddathlu cyflawniadau ein staff, myfyrwyr a graddedigion trwy’r Celfyddydau, Addysg, y Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Bydd dathliadau’r deucanmlwyddiant yn rhoi’r cyfle i ni ddathlu llwyddiannau a chyraeddiadau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’i sefydliadau gwreiddiol dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Mae ein presenoldeb yn
Ymunwch â ni a rhannwch yn y dathlu! 4 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
ydds.ac.uk/cy | 5
YNG NG LLAMBED CAERFYRDDIN ABERTAWE Caerdydd Birmingham Llundain
6 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
MAE EIN GWREIDDIAU...
GHYMRU ...ac rydym yn ymestyn ein canghennau Mae gan y Drindod Dewi Sant dri phrif gampws yn ne-orllewin Cymru – Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe - yn ogystal â champysau yn Llundain a chanolfannau dysgu yng Nghaerdydd a Birmingham. Gan gynnig profiad dysgu gwirioneddol fyd-eang, rydym yn croesawu myfyrwyr rhyngwladol i’n campysau a’n canolfannau dysgu yn y DU, ac mae cyfleoedd i fyfyrwyr astudio dramor.
Rydym hefyd yn cynnig rhaglenni astudio a ddarperir trwy bartneriaethau cydweithredol gyda sefydliadau eraill yn y DU a thramor.
DARGANFOD MWY uwtsd.ac.uk/cy/ lleoliad ydds.ac.uk/cy | 7
BETH YW ADDYSG UWCH? Parhau i astudio ar ôl cyrraedd 18 oed yw Addysg Uwch, neu Addysg Brifysgol, ac mae’n gam naturiol i nifer sy’n symud ymlaen o addysg ysgol neu goleg.
Mae cwrs israddedig, a elwir hefyd yn radd baglor neu’n radd gyntaf, fel arfer yn cymryd tair i bedair blynedd i’w chwblhau, ac fe’i haddysgir trwy gymysgedd o ddarlithoedd a seminarau. Mae myfyrwyr yn canolbwyntio ar un pwnc neu’n astudio gradd gydanrhydedd. Mae Addysg Uwch yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu rhagor am bwnc maen nhw wrth ei fodd yn ei astudio. Gall gradd agor drysau i amrywiaeth o gyfleoedd, gan gynnwys y potensial i ennill cyflog uwch a gwell gobeithion gyrfaol. Mae myfyrwyr yn meithrin sgiliau
8 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
amhrisiadwy a fydd yn ddefnyddiol ym mhob agwedd ar fywyd, o reoli amser, meddwl yn ddadansoddol a chyllidebu, i hunanhyder ac annibyniaeth. Mae’r Brifysgol yn brofiad rhagorol yn gymdeithasol a diwylliannol. Mae’n gyfle i gwrdd â phobl o’r un anian a gwneud ffrindiau ar gyrsiau gwahanol ac o wahanol rannau o’r byd. Mae profiad prifysgol yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu fel unigolion ac yn rhoi iddynt sgiliau cyflogadwyedd hanfodol a gwybodaeth bwnc-benodol i’w helpu i greu dyfodol llwyddiannus.
Gall gradd agor drysau i amrywiaeth o gyfleoedd, gan gynnwys y potensial i ennill cyflog uwch a gwell gobeithion gyrfaol.
ydds.ac.uk/cy | 9
ESBONIO JARGON
Wrth i chi ymchwilio i’r broses o ymgeisio i’r brifysgol, efallai y byddwch o bryd i’w gilydd yn dod ar draws rhai termau ac acronymau anghyfarwydd. Deallwn y gall hyn fod ychydig yn ddryslyd, felly rydym wedi llunio rhestr o dermau cyffredin a all helpu pawb i ddeall yr iaith a ddefnyddir yn y sector Addysg Uwch. Prosbectws
Datganiad Personol
Prosbectws yw’r llyfryn sy’n cynnwys manylion am gyrsiau, gweithgareddau a bywyd myfyrwyr mewn prifysgol. Mae gan bron bob prifysgol brosbectws wedi’i gyhoeddi neu gopi electronig y gellir ei lawrlwytho ar wefannau prifysgolion.
Dyma’r rhan o gais UCAS lle bydd yr ymgeisydd yn dweud wrth brifysgolion pam eu bod yn addas ar gyfer y cwrs/cyrsiau y maent yn gobeithio eu hastudio. Mae mwy o fanylion am hyn ar dudalen 33.
Diwrnod Agored
Pwyntiau Tariff UCAS
Cyfle i ddarpar fyfyrwyr a’u rhieni ymweld â champws prifysgol a siarad â staff a myfyrwyr cyfredol. Mae Diwrnodau Agored yn gyfle gwych i ddarganfod sut brofiad yw astudio mewn prifysgol. Darllenwch ragor am Ddiwrnodau Agored ar dudalen 18.
Caiff y pwyntiau hyn eu rhoi i fyfyrwyr trwy gyfrifo eu cymwysterau ôl-16. Po uchaf yw’r radd a gyflawnir, yr uchaf yw nifer y pwyntiau y maent yn eu hennill. Mae nifer o brifysgolion yn gwneud cynigion ar sail Pwyntiau Tariff UCAS.
UCAS Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau yw UCAS. Gwneir ceisiadau am gyrsiau israddedig amser llawn trwy UCAS ac maen nhw’n gyswllt rhwng yr ymgeisydd a phrifysgolion. Darganfyddwch ragor am UCAS ar dudalen 32.
10 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Gofynion Mynediad Amodau y mae’n rhaid i ymgeiswyr eu bodloni er mwyn cael eu derbyn ar gwrs prifysgol. O gymwysterau a graddau mewn pynciau penodol i gyfweliadau, clyweliadau, neu hyd yn oed ofynion meddygol, mae’r gofynion mynediad yn wahanol ar gyfer pob cwrs a phrifysgol, ac mae’n ddefnyddiol i fyfyrwyr gael gwybod cyn gynted â phosibl beth yw’r rhain ar gyfer y cyrsiau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt.
Y Glas
Undeb y Myfyrwyr
Enw a roddir ar fyfyrwyr sy’n dechrau ar eu cyfnod yn y Brifysgol ac mae Wythnos (neu bythefnos) y Glas yn cael ei threfnu fel arfer, i’w cyflwyno i fywyd y brifysgol. Gall hyn gynnwys digwyddiadau cymdeithasol, yn ogystal â chyflwyniad i lyfrgelloedd ac adnoddau.
Bydd gan bob prifysgol Undeb Myfyrwyr (sy’n debygol o fod yn rhan o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr). Bydd yr Undeb yn cynrychioli buddiannau myfyrwyr, ac yn gweithio er eu lles ar nifer o faterion gwahanol. Gall yr Undeb hefyd fod yn ganolbwynt i weithgareddau myfyrwyr.
Gwasanaethau Myfyrwyr Adran yn y brifysgol sy’n darparu nifer o wasanaethau cymorth gwahanol i fyfyrwyr, gan gynnwys cyngor ariannol, llety, cymorth anabledd, cyngor ar yrfaoedd, arweiniad addysgol, cwnsela ac yn y blaen. Darllenwch am yr hyn sydd gan dîm Gwasanaethau Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant i’w gynnig ar dudalen 22.
Cyllid Myfyrwyr Mae hyn yn cyfeirio at grantiau neu fenthyciadau sydd ar gael i fyfyrwyr i helpu i dalu am eu hastudiaethau prifysgol. Gweler rhagor o wybodaeth am Ffioedd a Chymorth Ariannol ar dudalen 24.
Bwrsari Grant ariannol nad oes angen ei ad-dalu, a roddir i fyfyriwr ar gais os yw’n bodloni meini prawf penodol.
Ysgoloriaeth Yn debyg i fwrsari, grant ariannol nad oes angen ei ad-dalu yw hwn a roddir i fyfyrwyr, ond yn hytrach na bod yn seiliedig ar anghenion ariannol, dyfernir y rhain ar sail teilyngdod a rhagoriaeth academaidd.
Clirio System a weithredir gan UCAS sy’n galluogi myfyrwyr i ddod o hyd i gyrsiau sydd â lleoedd gwag o hyd yn dilyn cyhoeddi’r canlyniadau Safon Uwch. Fel arfer, mae’n system ar gyfer myfyrwyr nad ydynt wedi llwyddo i gael y graddau sydd eu hangen ar gyfer eu dewis cyntaf o gwrs, ond mae hefyd yn gallu caniatáu ceisiadau munud olaf i sefydliadau newydd i’r rheiny a oedd yn hwyr yn ymgeisio neu sy’n llwyddo i gael canlyniadau gwell na’r disgwyl.
ydds.ac.uk/cy | 11
PAM PRIFYSGOL? Gyda chynifer o opsiynau ar gael i fyfyrwyr ar ôl iddynt adael yr ysgol neu’r coleg, mae’n bosibl y byddan nhw a chi’n meddwl tybed ai prifysgol yw’r llwybr cywir.
Mae mynd i brifysgol yn fuddsoddiad mawr ond mae llawer i’w ennill o ddewis y profiad hwn sy’n newid bywyd, gan gynnwys manteision ariannol, addysgol, cymdeithasol a phersonol.
CYFLE I DDOD YN ANNIBYNNOL A DATBLYGU FEL UNIGOLYN
DYSGU AM RYWBETH MAEN NHW WIR YN EI FWYNHAU; DOD YN ARBENIGWYR YN EU MAES A CHAEL EFFAITH GADARNHAOL AR GYMDEITHAS DRWY DDEFNYDDIO EU HARBENIGEDD A’U GWYBODAETH.
BYDD PRIFYSGOL YN EHANGU EU GORWELION. MAE’N GYFLE I BROFI LLEOEDD NEWYDD A DIWYLLIANNAU AMRYWIOL A GWNEUD FFRINDIAU OES.
CYFRADD CYFLOGAETH O
12 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
87.5%
AR GYFER GRADDEDIGION O OEDRAN GWEITHIO YN 2019 FFYNHONNELL: YSTADEGAU’R FARCHNAD LAFUR RADDEDIG 2019, GOV.UK
CANFU
81%
O GYFLOGWYR FOD GRADDEDIGION PRIFYSGOL WEDI’U PARATOI’N DDA AR GYFER GWAITH, TRA CANFU 50% O GYFLOGWYR FOD Y RHAI SY’N YMADAEL Â’R YSGOL WEDI’U PARATOI’N DDA AR GYFER GWAITH. FFYNHONNELL: AROLWG SAFBWYNTIAU CYFLOGWYR 2014, UKCES
DYWEDIR BOD GAN RADDEDIGION FWY O WYDNWCH YN YSTOD CYFNODAU O ARGYFWNG ECONOMAIDD, OHERWYDD Y SGILIAU MAENT YN EU MEITHRIN YN Y BRIFYSGOL, AC FELLY MAENT YN LLAI TEBYGOL O FOD YN DDI-WAITH O’U CYMHARU Â’R RHAI NAD OES GANDDYNT RADD. FFYNHONNELL: “GRADUATE LABOUR MARKET OUTCOMES DURING THE CORONAVIRUS (COVID-19) PANDEMIC: OCCUPATIONAL SWITCHES AND SKILL MISMATCH”, Y SWYDDFA YSTADEGAU GWLADOL.
MAE’N FUDDSODDIAD GWYCH. SIWRNAU MAE GRADDEDIGION YN DEBYGOL O DDECHRAU AR GYFLOG GWELL NA’R RHAI SYDD HEB RADD – O LEIAF £9,000 A DWEUD Y GWIR. YN 2019, CYFLOG CANOLRIFOL GRADDEDIGION O OEDRAN GWEITHIO OEDD £34,000 TRA BOD CYFLOGAU’R RHAI NAD OEDDENT Â GRADD YN £25,000. FFYNHONNELL: YSTADEGAU’R FARCHNAD LAFUR RADDEDIG 2019, GOV.UK
RHAI O’R CYFLOGAU UCHAF A GYHOEDDWYD AR GYFER GRADDEDIGION YN 2020 OEDD £48,000 (CWMNÏAU CYFREITHIOL), £45,000. (CWMNI TECHNOLEG) A £44,000 (ALDI). FFYNHONNELL: ‘THE GRADUATE MARKET IN 2020’, HIGH FLIERS RESEARCH.
ydds.ac.uk/cy | 13
CAMAU CYNTAF –
Eu tywys ar eu taith Mae cymryd y camau cyntaf i Addysg Uwch yn gallu bod yn gyfnod cyffrous ond brawychus hefyd. Mae’n syniad da cymryd cam yn ôl ac ystyried beth yw’r pethau pwysicaf.
14 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae’n bosibl bod gennych brofiad o fywyd prifysgol eich hun, neu efallai ei fod yn rhywbeth hollol newydd i chi. Efallai eich bod yn ystyried gwneud cais eich hun. P’un a ydych wedi gwneud gradd ai peidio, mae’r sector AU yn newid yn barhaus, ac efallai y gwelwch fod pethau’n wahanol iawn yn awr.
Dewis cwrs Gyda dros 50,000 o gyrsiau i ddewis ohonynt yn y Deyrnas Unedig, mae dewis y cwrs cywir i’w astudio yn gallu bod yn benderfyniad anodd ond pwysig iawn. Rhowch gymorth iddynt ganfod beth yw eu diddordebau oherwydd byddant yn astudio eu pwnc am gryn amser. Efallai bod ganddyn nhw yrfa mewn golwg eisoes, ac os felly, helpwch nhw i ddarganfod a oes angen gradd benodol i ymuno â’r maes gwaith hwnnw. Oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn mwy nag un pwnc? Ystyriwch radd gydanrhydedd. Bydd hyn yn caniatáu iddynt astudio dau gwrs ochr yn ochr - heb ddwbl y llwyth gwaith. Bydd ymchwilio i gynnwys cyrsiau yn eu helpu i wneud y dewis cywir. Er y gall rhaglenni fod â’r un teitl, nid yw hynny’n golygu bod y meysydd a’r pwyslais yr un fath. Mae gwybodaeth am gynnwys y rhaglenni ar gael ym mhrosbectws y brifysgol, ar ei gwefan a thrwy gysylltu â’r brifysgol. Gall dulliau addysgu ac asesu amrywio o un brifysgol i’r llall, ac o gwrs i gwrs. Mae’n fuddiol gofyn am wybodaeth am ddarlithoedd a dosbarthiadau tiwtorial. A fydd cefnogaeth un-i-un ar gael? A yw popeth yn ddibynnol ar ganlyniadau’r arholiadau terfynol? Helpwch nhw wrth iddynt ddewis eu cwrs drwy ofyn y cwestiynau canlynol: Pa bynciau wyt ti’n eu mwynhau yn yr ysgol/ coleg? Beth yw dy ddiddordebau? Oes gen ti yrfa mewn golwg? Wyt ti am barhau ag un o dy bynciau cyfredol neu am ddysgu rhywbeth hollol newydd? Pa arddull dysgu sy’n gweithio orau i ti? Wyt ti’n berson academaidd neu ymarferol?
Lleoliad Yn dibynnu ar y cwrs y byddant yn dewis ei ddilyn, efallai y bydd angen i’ch plentyn symud yn bell i ffwrdd felly mae’n bwysig ymweld â’r brifysgol o flaen llaw er mwyn sicrhau bod y lleoliad yn addas iddyn nhw. A fyddent yn ffynnu mewn dinas fawr neu’n ymgartrefu’n well mewn tref llai o faint? A fyddant yn gallu mynd â char? A yw cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da yn ffactor allweddol iddynt?
Mae campysau prifysgol yn amrywio o ran maint a chynllun. Mae llety, ystafelloedd dosbarth a llyfrgelloedd rhai prifysgolion wedi’u gwasgaru o amgylch y ddinas tra bydd gan brifysgolion eraill bopeth mewn un man. Efallai y bydd gan rai prifysgolion garfan o fwy na 150,000 o fyfyrwyr tra bydd gan eraill gyn lleied â 10,000. Mae’n bwysig ystyried manteision ac anfanteision y ddwy ochr. Mae dewis astudio mewn prifysgol sydd yn agos at gartref hefyd yn opsiwn poblogaidd i nifer o fyfyrwyr. Yn yr achos hwn, a fyddent am gymudo a byw gartref drwy gydol eu hastudiaethau neu fyw yn llety’r brifysgol? Eto, sicrhewch eich bod yn eu helpu i bwyso a mesur manteision ac anfanteision pob senario.
Tablau cynghrair a gwefannau cymharu Yn union fel eich hoff westai a bwytai, mae gwefannau ar gael sy’n gallu helpu ymgeiswyr i gymharu prifysgolion a chyrsiau. Fel arfer mae’r gwefannau hyn yn cynnwys adborth gan fyfyrwyr cyfredol sy’n rhoi mewnwelediad gwerthfawr i foddhad a phrofiad myfyrwyr. Mae tablau cynghrair hefyd yn lle naturiol i ddechrau wrth ymchwilio i brifysgolion. Gellir eu defnyddio i gymharu ansawdd ymchwil, cyfraddau cyflogadwyedd a pherfformiad cyffredinol prifysgol. Rhaid ystyried y darlun cyflawn fodd bynnag, a chofio nad yw’r prifysgolion sy’n perfformio orau yn dod i’r brig bob tro ym mhob maes cwrs. Mae’n bwysig cofio hefyd er bod prifysgol yn derbyn canmoliaeth uchel, na ddylid tybio’n awtomatig mai dyma fydd y brifysgol fwyaf addas. Rhaid ystyried y ffeithiau hyn ochr yn ochr â phethau eraill megis ansawdd yr addysgu, oriau cyswllt, cymarebau staff/myfyrwyr, ac ati. Ni ddylid seilio penderfyniad ar dablau cynghrair a gwefannau cymharu yn unig. Weithiau, efallai nad y lle yr ydych chi’n credu fyddai orau yw’r lle gorau. Dylech gadw meddwl agored. Ewch i ddiwrnodau agored er mwyn cael ymdeimlad o’r hyn mae’r gwahanol brifysgolion yn ei gynnig. ydds.ac.uk/cy | 15
PARATOI AR GYFER PRIFYSGOL Awgrymiadau i rieni a myfyrwyr Beth mae rhieni a myfyrwyr eraill yn ei feddwl ynglŷn â pharatoi ar gyfer y brifysgol? Gofynnon ni i Courtney Mitchell, myfyrwraig BA Dylunio Cynnyrch, a’i rhieni, Victoria a Harvey, sut oedden nhw’n teimlo y dylai rhieni a gwarcheidwaid gyfrannu at y broses ymgeisio a pha gyngor y bydden nhw’n ei gynnig.
16 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Sut gwnaethoch chi ymchwilio i gyrsiau a phrifysgolion? Courtney: Defnyddiais i’r prosbectysau i ddarllen am gyrsiau oedd o ddiddordeb i mi cyn penderfynu a oeddwn i eisiau ymweld ar ddiwrnod agored. Yn ogystal siaradais i â rhai o’m hathrawon yn y chweched dosbarth a gofyn iddyn nhw beth oedden nhw’n ei feddwl am rai lleoedd, er enghraifft os oedden nhw’n adnabod yr ardal (er na wnes i ddibynnu ar hyn). Victoria a Harvey: Gall eistedd gyda’ch plentyn a phentwr o brosbectysau fod yn ddigon i godi ofn arnoch, yn enwedig gan na fues i na’i thad yn y brifysgol. Gyda’n gilydd fe lunion ni restr o bwyntiau o blaid ac yn erbyn, gan ei chwtogi yn y pen draw i bum cwrs posibl. I ni, roedd mynychu diwrnodau agored yn broses bwysig iawn. Gwyddai Courtney beth oedd hi eisiau ei wneud a’r hyn roedd hi’n chwilio amdano. Gan fod ei chwrs yn eithaf arbenigol, roedd gweld y gweithdai a’r mannau astudio yn bwysig iawn iddi. Fel rhiant, roedd cael golwg ar yr ardal y gallai eich plentyn fod yn symud iddi yn bwysig. Fodd bynnag, yn y pen draw eich plentyn fydd yn astudio yno am dair blynedd ac mae angen i’r lle fod yn iawn i’r unigolyn.
Faint o ran ddylai rhieni ei chwarae yn y broses ymgeisio i brifysgol? Courtney: Yn fy marn i, dylai rhieni chwarae rhan eithaf mawr, ond yn y pen draw y myfyrwyr ddylai gael y gair olaf, gan mai nhw fydd yn aros ac yn astudio yn y brifysgol. Byddwn i’n argymell eich bod yn siarad â’ch rhieni am eich dewisiadau gan y byddan nhw’n teimlo’n hapusach o gael gwybod, a mwy na thebyg yn teimlo’n fwy hamddenol amdanoch chi’n symud i ffwrdd.
Beth gall rhieni ei wneud i fod yn gefnogol wrth i fyfyriwr baratoi i fynd i’r brifysgol? Courtney: Y prif beth y gall rhieni ei wneud yw cefnogi ac annog. Gall paratoi i adael cartref ymddangos fel peth brawychus, ond os yw’r rhieni’n gefnogol, yna nid yw mor wael. Gall rhieni helpu hefyd â’r gwaith pacio, a gallai’r teulu roi eitemau mwy anghyffredin, fel offer cegin, yn anrhegion i helpu myfyrwyr i deimlo’n fwy parod.
Pa gyngor sydd gennych i rieni y bydd eu plant yn symud o gartref am y tro cyntaf i fynd i brifysgol? Victoria a Harvey: Fel rhiant, dyna’r peth anoddaf o bosib. Mae Courtney wastad wedi bod yn annibynnol ac wedi bod i ffwrdd o gartref gyda’r ysgol ar deithiau preswyl dramor a gyda’r Geidiaid, ond mae gadael eich plentyn mewn dinas ddieithr, mewn gwlad wahanol dros 300 o filltiroedd o gartref yn hollol wahanol. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi ymgartrefu gyda lluniau a chardiau, cysuron cartref, ac oergell a chypyrddau llawn. Pan ddaw hi’n amser gadael, peidiwch ag ymestyn pethau yn fwy nag sydd raid, byddwch yn hyderus a gadewch â gwên. Cyn i chi wybod, byddant wedi gwneud ffrindiau. Awgrym da gawsom ni oedd mynd â bocs mawr o losin i’r gegin / ardal gymdeithasol a rennir, a rhoi nodyn arno gyda’r geiriau: ‘Helo, fy enw i yw Courtney, dwi yn ystafell 310, cymerwch losinen a galwch heibio i ddweud helo’. Mae’n ffordd berffaith o dorri’r garw ac yn ffordd wych o wneud ffrindiau.
ydds.ac.uk/cy | 17
DEWCH I YMWELD Â NI MEWN
DIWRNOD AGORED A MWYNHAU DYSGU RHAGOR AM BRIFYSGOL CYMRU Y DRINDOD DEWI SANT Cwestiynau i’w gofyn mewn Diwrnod Agored Sut beth yw’r addysgu a’r cymorth i fyfyrwyr? Beth all helpu i sicrhau bod fy nghais yn sefyll allan? Os na fyddaf yn bodloni’r gofynion mynediad, a oes siawns o hyd y gallwn gael cynnig lle? Beth yw’r peth gorau am y Brifysgol hon yn eich barn chi? Sut beth yw’r llety a pha mor hawdd oedd hi i gael lle? Sut beth yw’r bywyd cymdeithasol? Pa fathau o glybiau a chymdeithasau sydd ar gael?
18 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae Diwrnodau Agored yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn ar gampysau prifysgolion, gan gynnig cyfle gwych i weld y cyfleusterau, cwrdd a siarad â darlithwyr a myfyrwyr presennol, a chael blas ar fywyd academaidd. Gall mynychu un o‘r digwyddiadau hyn helpu myfyrwyr i wneud penderfyniad gwybodus am brifysgol – gallai fod yn allweddol wrth benderfynu’n derfynol. Dyma i chi awgrymiadau ar sut i wneud yn fawr o Ddiwrnod Agored. Dechreuwch gan wneud rhestr o’r prifysgolion yr hoffech ymweld â nhw a dyddiadau’r Diwrnodau Agored. Os yw‘r dyddiadau‘n gwrthdaro, peidiwch â phoeni bydd cyfleoedd eraill i ymweld. Cofiwch ei bod hi‘n bwysig mynd i ddigon ohonynt er mwyn cymharu pob profiad. Cynlluniwch y diwrnod. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd mewn da bryd i osgoi colli allan ar ran o’r diwrnod. Dylai’r Brifysgol anfon amserlen atoch ymlaen llaw os ydych wedi cofrestru. Mae’n syniad da hefyd caniatáu amser ar eich taith i grwydro‘r ardal leol. Unwaith y byddwch chi yno, nodwch sut rydych chi‘n teimlo. Sut mae‘r awyrgylch yno? A oedd y staff yn gyfeillgar ac yn barod i helpu? Sut oedd y cyfleusterau? Bydd y nodiadau hyn yn ddefnyddiol wrth i chi adfyfyrio ar eich profiadau yn ddiweddarach. Siaradwch â llysgenhadon myfyrwyr. Bydd myfyrwyr yn rhoi barn wahanol ac onest i chi am y brifysgol a’r cwrs maen nhw’n ei astudio. Dewch o hyd i’r adran Gwasanaethau Myfyrwyr – gyrfaoedd, llety a swyddogion anabledd - mae‘n bwysig gwybod pa gymorth sydd ar gael i‘ch plentyn tra bydd yn y brifysgol. Byddwch yno i fod yn gefn iddynt. Mae‘n wych cael ail farn ond nid ydych chi eisiau diystyru chwaith yr hyn y mae eich plentyn yn ei feddwl. Gadewch iddyn nhw lunio‘u barn annibynnol eu hunain. Gofynnwch lawer o gwestiynau. Er y bydd cyfleoedd i gysylltu â‘r brifysgol ar ôl i chi adael, gwnewch yn siŵr eich bod chi‘n cael ateb i gymaint â phosibl o‘ch cwestiynau ar y diwrnod.
Rhith-ddiwrnodau agored a sesiynau blasu Y dyddiau hyn mae nifer o brifysgolion yn cynnig rhith-ddiwrnodau agored, sesiynau blasu a digwyddiadau eraill ar-lein yn ychwanegol at neu yn lle diwrnodau agored ar gampws. Gallwch fel arfer drefnu i ymuno â’r digwyddiadau hyn drwy wefan y brifysgol. Maent yn aml yn cynnwys rhith-deithiau o amgylch y campysau, cyfleoedd i glywed gan staff am y gwasanaethau a gynigir a chyfle i sgwrsio â darlithwyr a myfyrwyr. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwrnodau agored rhithwir neu ar gampws, sesiynau blasu, cyflwyniadau cyrsiau neu gyfleoedd eraill i ddysgu rhagor am astudio yn y Drindod Dewi Sant, ar gael ar ein gwefan: www.uwtsd.ac.uk/cy/ymweld
ydds.ac.uk/cy | 19
PAM Y DRINDOD DEWI SANT? Mwy na gradd Nid yn unig y mae myfyrwyr yn y brifysgol hon yn dysgu am eu pwnc academaidd, maent hefyd yn cael y cyfle i ennill y sgiliau eraill y mae ar gyflogwyr eu hangen. Mae ein cyrsiau yn cynnig mwy na dim ond theori gan eu bod yn cael eu datblygu gyda chyflogadwyedd yn greiddiol iddynt. Hefyd, mae’r gwasanaeth gyrfaoedd ar gael i gynnig cyngor a chymorth sy’n parhau ar ôl graddio.
Cymunedau Campws Cyfeillgar a Diogel
Cyrsiau’r Unfed Ganrif Ar Hugain
O ganlyniad i’r cymunedau clòs ar y campysau gall myfyrwyr ymgynefino a theimlo’n gartrefol yn gyflym iawn. Ac mae ein gwasanaeth diogelwch 24 awr ar y campws, ynghyd â chymorth iechyd a lles, yn golygu y byddant yn derbyn gofal da pan fyddant yn astudio gyda ni.
Dysgu ac Addysgu yw ein prif ffocws fel Prifysgol, ac rydym yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod ein cyrsiau’n berthnasol i yrfaoedd y myfyrwyr yn y dyfodol.
Yno i Chi
Dylai Addysg Uwch fod ar gael i bawb a fyddai’n elwa ohono, felly mae’r Drindod Dewi Sant yn croesawu myfyrwyr o bob math o gefndiroedd ac amgylchiadau gwahanol. Yn ogystal mae Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau ar gael, sy’n golygu bod llai o rwystrau ariannol i ymuno ag AU.
Mae’r dosbarthiadau bach yn golygu bod tiwtoriaid yn dod i adnabod eu myfyrwyr fel unigolion - maent yn fwy na wyneb yn y dorf. Yn ogystal â’r cymorth academaidd, mae cymorth ar gael trwy’r Gwasanaethau Myfyrwyr sydd yno i ofalu, gan ddarparu popeth o help gyda materion ariannol i gwnsela.
20 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Addysg Gynhwysol
Lleoliadau Gwych Mae astudio gyda ni yng Nghymru’n galluogi myfyrwyr i brofi’r gorau o ddiwylliant Cymru a’n hamgylchedd naturiol eithriadol. Mae lleoedd gwych y gallwch ymweld â hwy ger ein campysau dinesig, arfordirol a gwledig.
Yma yn y Drindod Dewi Sant, rydym yn cynnig cyrsiau yn y meysydd pwnc canlynol: Anthropoleg a Datblygu Rhyngwladol Astudiaethau Addysg, Blynyddoedd Cynnar ac Addysg Athrawon Astudiaethau Amgylcheddol Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth Astudiaethau Cymdeithasol Astudiaethau Tsieineaidd Athroniaeth a’r Dyniaethau Busnes a Rheoli Celf a Dylunio Celfyddydau Perfformio Cyfrifiadura ac Electroneg Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored Ffilm, Ffotograffiaeth a Cherddoriaeth Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol Hanes, y Clasuron ac Archaeoleg Nyrsio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Peirianneg Pensaernïaeth ac Adeiladu Rheolaeth Chwaraeon Seicoleg a Chwnsela Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Twristiaeth, Digwyddiadau a Lletygarwch Y Gyfraith, Gwasanaethau Cyhoeddus, Plismona a Throseddeg
Gradd-brentisiaethau Mae’r math newydd hwn o ddyfarniad yn cynnig llwybr at gymwysterau cydnabyddedig a chymhwysedd proffesiynol, ar y cyd â phrofiad ymarferol mewn gwaith. Mae prentisiaethau’n cynnig cyfle i fyfyrwyr ennill arian wrth iddyn nhw ddysgu. I ddilyn rhaglen brentisiaeth, bydd angen i fyfyrwyr fod mewn swydd. Efallai y byddwn yn gallu sôn wrthynt am gyflogwyr sy’n dymuno recriwtio ond byddem hefyd yn eu cynghori i wneud cais i gyflogwyr eraill yn eu dewis faes. Dysgwch ragor: www.ydds.ac.uk/cy/prentisiaethau ydds.ac.uk/cy | 21
CYMORTH WRTH LAW Lles, Llesiant a Chymorth i Fyfyrwyr Weithiau gall cydbwyso astudiaethau academaidd a pharatoi ar gyfer cyflogaeth lethu rhywun. Mae o les i ni i gyd i gael cymorth o bryd i’w gilydd, felly gall myfyrwyr elwa o amrywiaeth o wasanaethau tra byddant yn y brifysgol.
Gall timau Gwasanaethau Myfyrwyr gynnig cymorth a chyngor ar yrfaoedd, llety, cyllid a chyllido, iechyd meddwl a materion dysgu. Os na all Gwasanaethau Myfyrwyr ddarparu’r hyn sydd ei angen arnynt, gallant eu cyfeirio at unigolion eraill o fewn y Brifysgol, neu at sefydliadau allanol, a fydd yn gallu helpu.
Hybiau Myfyrwyr (Hwb) Mae Hybiau Myfyrwyr (Hwb) y Drindod Dewi Sant yn dod ag ystod o wasanaethau at ei gilydd i ddarparu ‘siop un stop’ i ymdrin ag ymholiadau a phroblemau. Yn yr Hybiau Myfyrwyr gall myfyrwyr gael mynediad i’r holl wybodaeth a chymorth y bydd eu hangen arnynt i wneud yn fawr o’u hamser yn y brifysgol. 22 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Cymorth Dysgu
Llety
Yn y Drindod Dewi Sant, cynigir cymorth i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu penodol, megis dyslecsia, dyspracsia, ADD neu Aspergers, wrth iddynt wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl, yn ogystal â thiwtora unigol, cymorth a chyngor priodol, ac arweiniad ynghylch consesiynau mewn arholiadau. Yn ogystal mae gan y Brifysgol ei Chanolfan Asesu ei hun sy’n sicrhau bod yr holl ddarpar fyfyrwyr yn gallu cael mynediad at aseswyr â gwybodaeth gynhwysfawr o’r rhwydwaith cymorth a’r rhaglenni rydym ni’n eu cynnig. Ein nod yw rhoi i fyfyrwyr sydd angen cymorth yr offer i’w galluogi i weithio hyd eithaf eu potensial a dangos gwir lefel eu medrau.
Mae ein swyddogion Llety, y mae ein myfyrwyr yn cyfeirio atynt fel eu ‘rhieni prifysgol’, yn gallu helpu eich plentyn i benderfynu ble i fyw, yn ogystal â gwneud yn siŵr eu bod yn hapus â ble maen nhw’n byw pan fyddant yn cyrraedd. Pa un a ydynt am fyw mewn neuadd breswyl neu ddod o hyd i rywle i’w rentu yn y sector preifat, mae cyngor a chymorth ar gael i ddod o hyd i le diogel ond annibynnol i fyw ynddo. Mae Wardeniaid Neuadd sy’n fyfyrwyr eu hunain yn byw yn ein neuaddau preswyl ac maent yno i helpu myfyrwyr i ymgartrefu, teimlo’n gysurus yn eu cartref newydd a darparu cymorth parhaus yn ystod eu harhosiad.
Cyngor ar Yrfaoedd
Myfyrwyr sy’n Gadael Gofal
Gall myfyrwyr gael help gyda’u cynlluniau gyrfa tymor hir yn ogystal â gwybodaeth am gyfleoedd i weithio tra maent yn astudio. Darllenwch ragor am yr hyn mae Gwasanaeth Gyrfaoedd y Drindod Dewi Sant yn ei gynnig ar dudalen 28.
Cynigiwn ofal a chymorth o safon uchel i bobl sy’n gadael gofal wrth iddynt ystyried beth a ble i astudio a chyflwyno cais, a thrwy gydol eu hastudiaethau academaidd. Dyfarnwyd i ni Nod Ansawdd Buttle UK i gydnabod ein hymrwymiad i bobl sy’n gadael gofal mewn Addysg Uwch.
Cwnsela
Diogelwch
Weithiau mewn bywyd mae pethau’n gallu mynd yn ormod i rywun ymdopi â nhw ar ei ben ei hun. Gall myfyrwyr ofyn am gymorth gan Wasanaeth Cwnsela y Drindod Dewi Sant os oes angen rhywun i siarad arnynt am bob math o faterion. Mae gan y Brifysgol wasanaeth cwnsela sefydledig, proffesiynol. Mae pob un o’r Cwnselwyr yn gweithio yn unol â fframwaith moesegol Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain.
Mae staff y safle ar y campws bob awr o’r dydd a’r nos, 365 diwrnod y flwyddyn, i gynorthwyo gyda digwyddiadau diogelwch a chymorth cyntaf, yn ogystal â helpu myfyrwyr i wneud eu ffordd o amgylch y campws. O archwilio diogelwch adeiladau i wneud yn siŵr bod yr offer mewn ardaloedd a rennir yn ddiogel i’w defnyddio, gall myfyrwyr gysylltu â’r tîm hwn unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.
Sgiliau Astudio O adnoddau defnyddiol ar-lein i gyfarfodydd un-i-un gyda’n cynghorwyr arbenigol, gall myfyrwyr gael mynediad at gymorth sgiliau astudio i’w helpu gyda’u gwaith academaidd. Mae hyn yn cynnwys cymorth gydag ysgrifennu traethodau, cymryd nodiadau, adolygu ar gyfer arholiadau, cymorth TG, a sgiliau llyfrgell ac ymchwilio.
ydds.ac.uk/cy | 23
FFIOEDD A CHYMORTH ARIANNOL Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael problemau ariannol ar ryw adeg yn ystod eu bywydau ac, fel rhiant, mae’n bosibl y byddwch yn pryderu y gallai eich plentyn gael trafferthion yn y brifysgol. Gadewch i ni helpu lleddfu rhai o’r pryderon hynny... Beth yw cost astudio? Mae cost cwrs yn dibynnu ar nifer o bethau - yn bennaf pa gwrs mae’r myfyriwr yn ei ddewis a ble mae’n byw adeg gwneud cais am y cwrs. Ond y ffaith allweddol yw nad yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn talu dim ymlaen llaw. Yn Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, £9,000* sydd wedi’i bennu fel swm y ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr amser llawn o’r Deyrnas Unedig a gellir talu am y rhain drwy gael benthyciad ffioedd dysgu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Yn ogystal mae gennym amrywiaeth eang o fwrsarïau ac ysgoloriaethau sy’n darparu cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr.
24 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
O bryd i’w gilydd, gall myfyrwyr hefyd wynebu rhai costau astudio ychwanegol, na ellir eu hosgoi, ar ben y ffioedd dysgu.Er enghraifft, costau teithio yn ôl ac ymlaen i leoliadau, teithiau astudio, argraffu, a phrynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain. Mae’n bosibl hefyd y bydd angen Gwiriad Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer rhai cyrsiau. Er mwyn darganfod a allai’r costau ychwanegol hyn fod yn berthnasol iddyn nhw, dylai myfyrwyr siarad â pherson cyswllt y disgyblaethau academaidd yn y brifysgol. Gallai bwrsarïau fod ar gael hefyd i helpu talu peth o’r costau ychwanegol hyn.
* Ymwadiad: Roedd y wybodaeth hon yn gywir adeg cyhoeddi ac mae’n bosibl y gallai newid. Ewch i’n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf: uwtsd.ac.uk
Costau byw I helpu gyda chostau byw o ddydd i ddydd, megis bwyd, teithio a llety, gall myfyrwyr wneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth, a delir fel arfer mewn tri rhandaliad. Bydd yn ddibynnol ar ble maen nhw’n byw tra maent yn astudio, yn ogystal ag incwm y cartref. Gall myfyrwyr o Gymru hefyd wneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru.
Ad-dalu benthyciadau Os yw eich plentyn yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr yn y DU, ni fydd yn ad-dalu ei fenthyciad myfyriwr tan y bydd yn ennill £27,295 y flwyddyn fel myfyriwr graddedig. Pan fydd hynny’n digwydd, bydd y taliad yn dod allan o’u cyflog os ydynt yn gweithio yn y DU ar ôl gorffen eu cwrs, yn union fel treth ac yswiriant gwladol.
Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau Mae gan y Drindod Dewi Sant enw da am ehangu mynediad i addysg uwch a chyda hyn mewn golwg, rydym yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsarïau i gefnogi myfyrwyr o bob cefndir. Rydyn ni am sicrhau cyfle i unrhyw un astudio yma, beth bynnag yw eu hamgylchiadau ariannol. Gellir gweld gwybodaeth fanwl, lawn am bob bwrsari ac ysgoloriaeth sydd ar gael, gan gynnwys dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau, ar ein gwefan: uwtsd.ac.uk/cy/bwrsariaethau
Arweiniad a chymorth ariannol Mae cadw i fyny â biliau a chadw at gyllideb yn gallu bod yn anodd. Nid ydym am i fyfyrwyr fynd i drafferthion a phryderu am arian pan ddylent fod yn canolbwyntio ar eu hastudiaethau, felly mae ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig arweiniad diduedd ar reoli arian. Mae swyddogion Cyllid Myfyrwyr ar gael bob wythnos yn ystod y tymor a gallant ddarparu cymorth a gwybodaeth un-i-un ynglŷn â grantiau, benthyciadau myfyrwyr, ac unrhyw gymorth ariannol arall y gallai myfyrwyr fod
yn gymwys i’w dderbyn. Maent yno hefyd i helpu egluro unrhyw jargon anghyfarwydd a gallant drefnu cyfarfodydd i helpu gyda sgiliau cyllidebu a rheoli arian myfyrwyr. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig Cronfa Galedi sydd yn ffynhonnell ychwanegol o gymorth ariannol i unrhyw fyfyriwr sydd wedi cael Benthyciad Myfyriwr (os yw’n gymwys) ac sy’n dioddef caledi ariannol annisgwyl. Dyma ychydig o gyngor cyllidebu y gallech ei rannu gyda’ch plentyn i’w helpu i fod yn ddoeth a darbodus gyda’u benthyciadau myfyrwyr tra byddant yn y brifysgol. Wedi i chi gael eich llythyr Cyllid Myfyrwyr yn dangos eich hawl, gweithiwch allan faint fydd ei angen arnoch i chi dalu am lety, a phethau eraill, a faint fydd gennych yn weddill bob wythnos. Mae’n bwysig eich bod yn gwneud hyn cyn i chi ddod i’r brifysgol, os gallwch. Cadwch lygad yn rheolaidd ar eich balans yn y banc fel eich bod yn gwybod i ble mae’ch arian yn mynd! Ystyriwch eich cyfrif banc yn ofalus – mae cyfrifon ar gael sy’n benodol ar gyfer myfyrwyr ond peidiwch â chael eich temtio gan y nwyddau am ddim – chwiliwch am orddrafft di-log. Ystyriwch swydd ran amser i wneud ychydig o arian poced – er eich bod yn fyfyriwr llawn amser, efallai y gallech ddod o hyd i swydd sy’n cyd-fynd yn dda â’ch amserlen. Manteisiwch ar y gostyngiadau i fyfyrwyr – o ffasiwn, technoleg, prydau tecawê a theithio, ni fydd unrhyw beth mor rhad â hyn byth eto felly gwnewch yn siŵr eich bod yn lawrlwytho’r apiau perthnasol neu mynnwch gerdyn TOTUM. Prynwch bethau ail law. O lyfrau i ddillad, siopau elusen ac apiau ar-lein, mae bargeinion gwych ar gael. Siopwch yn gall yn yr archfarchnad. Prynwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig a pheidiwch â chael eich denu gan frandiau – mae brandiau’r archfarchnadoedd eu hunain yn ddewisiadau amgen gwych a byddant yn arbed ceiniog neu ddwy i chi. Gofynnwch am gyngor – peidiwch â gadael i bryderon ariannol eich llethu. Mae help ar gael gan y brifysgol ac asiantaethau eraill.
HWYL A SBRI A CHYMORTH CYMHEIRIAID Undeb y Myfyrwyr
Y Glas
Mae’r Brifysgol ei hun yn gwneud llawer i gefnogi myfyrwyr, ond nid dyma yw’r unig ffynhonnell gymorth sydd ar gael iddynt pan fyddant yn astudio yn y Drindod Dewi Sant. Mae Undeb y Myfyrwyr yn fwy na dim ond lle i gymdeithasu, mae’n trefnu nifer o ddigwyddiadau, ac mae ar gael hefyd i’r myfyrwyr os bydd ganddynt broblem. Mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu: digwyddiadau; cymdeithasau; chwaraeon; cymorth academaidd; cyngor lles; ymgyrchoedd; cynrychiolwyr cyrsiau a chyfadrannau; llais ar Gyngor y Myfyrwyr; cyfleoedd cyflogaeth; ‘Cynrychiolwyr Y Glas; a lle diogel.
Gelwir pythefnos cyntaf y tymor yn bythefnos ‘Y Glas’ neu’n Wythnos Groesawu. Mae’n gyfnod lle bydd myfyrwyr newydd yn ymgartrefu ym mywyd y brifysgol. Mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu digwyddiadau ddydd a nos er mwyn helpu’r Glas i ddod i adnabod ei gilydd a’r ardal lle byddant yn byw ac yn astudio. Mae gan Undeb y Myfyrwyr gynrychiolwyr yn y digwyddiadau hyn. Mae’r myfyrwyr hyn wedi’u hyfforddi gan Undeb y Myfyrwyr, ac maent yn symud myfyrwyr newydd i’r neuaddau, yn mynd â hwy allan i’r dref a sicrhau eu bod yn ddiogel. Yn ogystal, gall myfyrwyr newydd siarad â nhw unrhyw bryd am unrhyw bryderon sydd ganddynt. Cynhelir digwyddiadau wythnosol lle gall myfyrwyr gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd. Mae yna nifer o dimau chwaraeon sy’n cystadlu’n broffesiynol ym mhencampwriaethau BUCS (Pencampwriaethau Prifysgolion Prydain). P’un a yw eich plentyn yn ddibrofiad neu’n arbenigwr ar y maes chwarae, mae rhywbeth ar gael at ddant pawb. Os nad oes ganddynt ddiddordeb mewn chwaraeon, mae gan Undeb y Myfyrwyr nifer o gymdeithasau eraill i bobl o’r un anian gymryd rhan ynddynt. Os nad oes un yn apelio atynt yna mae’n hawdd iawn sefydlu eu cymdeithas eu hunain.
26 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
www.uwtsdunion.co.uk/cy
UWTSDUnion ydds.ac.uk/cy | 27
GYRFAOEDD A CHYFLOGADWYEDD Mae bod yn gyflogadwy yn cynnwys nifer o agweddau ar fywyd prifysgol, nid ennill gradd yn unig. Dyna pam mae’r Drindod Dewi Sant yn ymgorffori cyflogadwyedd o fewn ei chyrsiau ac yn darparu amrywiaeth o adnoddau, cymorth a chyfleoedd i helpu datgloi potensial myfyrwyr. Gall myfyrwyr gysylltu â chyflogwyr trwy interniaethau a chyfleoedd profiad gwaith, yn ogystal â chwrdd a rhwydweithio gyda busnesau yn ystod digwyddiadau menter a gyrfaoedd a gynllunnir gan y brifysgol. Mae prosiectau fel y Swigen Greadigol, siop a rhwydwaith i gefnogi gweithgareddau a arweinir gan fyfyrwyr, megis siopau dros dro, arddangosfeydd, perfformiadau, neu hyd yn oed ddangosiadau cyntaf ffilmiau, yn annog menter a meddwl entrepreneuraidd. Mae gweithdai Dylunio Bywyd yn helpu myfyrwyr i nodi beth yw eu gwerthoedd, pa sgiliau maent wedi’u datblygu a sut y gallant eu defnyddio, yn ogystal â’r hyn y byddent yn hoffi ei wneud yn y dyfodol. Wrth wrando ar uchelgeisiau ein myfyrwyr, mae’r Brifysgol wedi gweithio gyda chyflogwyr i adnabod y cymwyseddau craidd sy’n ofynnol gan weithwyr newydd a dadansoddi’r sgiliau sydd eu hangen ar entrepreneuriaid. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion sydd wedi’u hymgorffori yn nifer o’n rhaglenni a addysgir yn helpu myfyrwyr i ddatblygu’r rhinweddau sydd eu hangen ar fyfyrwyr ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol. Drwy gydol eu hamser gyda ni, bydd ein myfyrwyr yn datblygu’n ddysgwyr gydol oes hyblyg sy’n meddu ar y sgiliau cywir i ffynnu mewn gweithle digidol. 28 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Y Gwasanaeth Gyrfaoedd Mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd ar gael i fyfyrwyr bob cam o’r ffordd, hyd yn oed ar ôl graddio. Gall ein tîm Gyrfaoedd profiadol sydd â chymwysterau proffesiynol gynorthwyo myfyrwyr i fynd ati’n effeithiol i chwilio am swyddi, creu syniadau am yrfaoedd, cwblhau CVs, ceisiadau a Datganiadau Personol, ac ymarfer cyfweliadau. Hefyd gall myfyrwyr ofyn am gymorth i ddeall y dewisiadau ôl-raddedig sydd ar gael iddynt, cael profiad gwaith, lleoliadau â thâl, neu waith rhan amser tra maent yn y brifysgol, a hyd yn oed cael cyngor ar sefydlu eu busnes eu hunain. Yn ogystal â chael cymorth gan gynghorwyr gyrfaoedd, gall ein myfyrwyr ddefnyddio Abintegro, ein platfform gyrfaoedd ar-lein, lle gallant gael gafael ar wybodaeth o ansawdd uchel am yrfaoedd, offeryn hunanasesu, cynllunydd gyrfa, gwiriwr CV a rhagor. Rydym yn falch o lwyddiannau ein graddedigion ac yn rhannu eu straeon o dan yr hashnod #OAstudiaethiGyflogaeth.
ASTUDIAETHAU ACHOS MYFYRWYR Patrick Edem Glavee Un o’n Graddedigion Dylunio Graffig Dylunydd Iau gyda TBWA\Media Arts Lab, asiantaeth hysbysebu Apple.
“Roedd penderfynu mynd i’r brifysgol yn 17 oed yn benderfyniad bywyd enfawr, a’r gefnogaeth gan y brifysgol yw’r hyn a’m helpodd i drwyddi. Fe wnaeth symud allan mor ifanc a dod yn hunangynhaliol fy aeddfedu yn gyflym. Gwnaeth y cwrs ehangu fy meddwl creadigol, gan fy nghyflwyno i ffurfiau celf traddodiadol y gorffennol a chaniatáu rhyddid creadigol i mi archwilio a datblygu fy hun fel artist. Hoffwn ddiolch i’r adran graffeg yn y Drindod Dewi Sant a oedd bob amser yn caniatáu rhyddid i mi archwilio. I Donna, Gavin, Harry a Phil, a fyddai’n fy ngoddef i’n ailwampio prosiectau ar y funud olaf yn gyson ac a fyddai’n meithrin fy natblygiad creadigol. Ac eto, i Donna, am fod yn warcheidwad i mi tra oeddwn yn 17 ar hyd fy mlwyddyn gyntaf, ac yn ffrind.”
Jake Sawyers Un o’n graddedigion Actio Actor
“Ers graddio o’r Drindod Dewi Sant gyda gradd BA(Anrh) dosbarth cyntaf mewn Actio yn 2016, rwyf wedi bod yn gweithio’n gyson yn y diwydiant creadigol.” Rwy bellach yn byw a gweithio yng Nghaerdydd fel actor ar fy liwt fy hun. Mae’r diolch am hyn i’r cysylltiadau a’r sgiliau a ddatblygais yn ystod fy nghyfnod yn y Drindod Dewi Sant. Wrth ddewis lle i astudio, fy mlaenoriaethau oedd ansawdd y cwrs a nifer yr oriau addysgu. Gwnaeth y Drindod Dewi Sant yn bendant fodloni fy nisgwyliadau. Mae’r cwrs BA Actio yn ymarferol iawn ac yn darparu sgiliau y gallwch eu defnyddio go iawn ym myd perfformio.
Fel myfyriwr sydd wedi’i gofrestru’n ddall, roedd cael perthynas gadarn a deialog agored gyda darlithwyr yn hanfodol. Yn ystod fy amser yn y Drindod Dewi Sant, teimlwn fy mod yn cael fy nhrin fel unigolyn ac nid fy ystyried fel rhif yn unig. Cefais ddigon o amser cyswllt a chefnogaeth gyda’r holl staff, ac roedd fy anghenion yn flaenoriaeth bob tro. Ers graddio, rydw i wedi gweithio gyda chwmnïau megis UCAN Productions, a Chwmnïau Theatr Yellow Brick ac Elbow Room. Rwyf hefyd yn creu cynnwys ar gyfer BCC Cymru.”
Ken Pearce Un o’n graddedigion Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg Lunia 3D
“Fe wnes i fwynhau fy amser yn y Drindod Dewi Sant yn fawr iawn a byddwn yn gwneud y cyfan eto... Mae bod yn Ddylunydd Cynnyrch cymwysedig wedi bod o gymorth mawr i mi yn y modd rwy’n cysylltu â chleientiaid o fewn y busnes newydd hwn. Dwi’n teimlo’n hyderus y gallaf gynnig nifer o ddatrysiadau a rhoi cyngor yn unol â hynny.”
Peter Wilkins Un o’n graddedigion Dylunio Modurol Uwch Ddylunydd Allanol, McLaren Automotive Limited
“Roedd astudio Dylunio Modurol yn Abertawe yn brofiad gwych i mi. Roedd safon yr addysgu un-i-un gyda’r gorau sydd ar gael a gwnaeth y cyfleusterau o’r radd flaenaf ganiatáu i mi archwilio a datblygu fy sgiliau i safonau uchaf y diwydiant. Drwy gymryd rhan mewn prosiectau a noddwyd gan y diwydiant, cefais ymdeimlad a dealltwriaeth o’r diwydiant cystadleuol yr oeddwn am ymuno ag ef, ac fe wnaeth hyn helpu fy mowldio i’r dylunydd yr ydw i heddiw.” ydds.ac.uk/cy | 29
1
af
yng Nghymru AM EI CHYMUNED DDYSGU Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018
#1
Graddedigion Cyflogadwy:
ROEDD
O RADDEDIGION Y DRINDOD DEWI SANT MEWN GWAITH a/neu ASTUDIAETHAU PELLACH
15
MIS AR ÔL IDDYNT GWBLHAU EU HASTUDIAETHAU.
Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2017/18 30 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Effa i
94%
Ymchwil th
60%
CAFODD 60% O WAITH YMCHWIL Y BRIFYSGOL EI FARNU’N EITHRIADOL (23.3%) NEU’N SYLWEDDOL IAWN (36.7%) O RAN EI EFFAITH A’I ARWYDDOCÂD. Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014
2
ail
= ENILLYDD
CYRSIAU A DARLITHWYR
Myfyrwyr sydd wrth wraidd popeth a wnawn ni yn YDDS. Ni oedd yn gyntaf am gyrsiau a darlithwyr yng ngwobrau Whatuni Student Choice 2019 a 2020 – gwobr sydd wedi’i seilio ar bleidleisiau myfyrwyr.
yn y DU
AM FODDHAD AR YR ADBORTH Guardian League Table 2021
Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â’u pynciau: PROFIAD ACADEMAIDD ARDDERCHOG
7
fed
yn y DU
AM FODDHAD MYFYRWYR GYDAG ANSAWDD YR ADDYSGU
The Times and The Sunday Times Good University Guide 2021
CAFODD Y DRINDOD DEWI SANT WOBR FfRhA ARIAN YM MIS MEHEFIN 2019. Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (FfRhA) 2019
6 yn y DU
= ed
am staff parod eu cymwynas/ymroddedig
The Times Higher Education Student Experience Survey 2018
ydds.ac.uk/cy | 31
GWNEUD CAIS TRWY UCAS Er mai mater i’ch plentyn mewn gwirionedd yw’r cais ac y caiff y broses ei hesbonio iddynt gan eu hysgol neu goleg, wnaiff hi ddim drwg i wybod ychydig mwy am y modd mae’n gweithio eich hun, felly dyma rai ffeithiau i chi am UCAS. Mae pob cais yn cael ei gwblhau’n electronig trwy wefan UCAS. Mae saith adran i’r cais:
Manylion Personol Dewisiadau Addysg Cyflogaeth Datganiad Personol Manylion Terfynol Talu ac Anfon Yn yr adran Manylion Personol, gall ymgeiswyr nodi a oes ganddynt anghenion unigol megis cymorth am unrhyw anabledd. Bydd nodi eu hanghenion yn sicrhau bod y prifysgolion yn gallu gwneud trefniadau penodol i’w cynorthwyo pan fyddant yn cychwyn. 32 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Gellir cadw’r ffurflen fesul cam wrth ei llenwi felly does dim angen cwblhau’r cyfan ar yr un pryd. Mae’n bwysig bod myfyrwyr yn cymryd eu hamser gyda’r broses hon. Gall myfyrwyr gwblhau’r cais UCAS yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.
Y Datganiad Personol fydd elfen fwyaf y cais. Dyma hefyd yw rhan bwysicaf y cais. Mae gan fyfyrwyr uchafswm o bum dewis - gall y rhain fod yn bum cwrs mewn pum prifysgol wahanol neu gellir gwneud sawl cais i’r un brifysgol. Wrth wneud eu dewisiadau cwrs, nid oes angen iddynt eu rhestru yn nhrefn blaenoriaeth.
Bydd pob prifysgol ond yn gweld y cais a wnaed i’w prifysgol nhw ac ni fyddant yn gweld i ble arall mae’r myfyriwr wedi ymgeisio. Y dyddiad cau swyddogol ar gyfer ceisiadau UCAS yw 15 Ionawr (er bod rhai ym mis Hydref). Fodd bynnag, gall ysgolion a cholegau osod terfynau amser mewnol er mwyn sicrhau amser iddyn nhw ychwanegu geirda at gais pob myfyriwr.
Y Datganiad Personol
UCAS Track
Y datganiad personol yw cyfle’r myfyriwr i esbonio wrth brifysgolion pam eu bod eisiau astudio eu cwrs, a beth sy’n eu gwneud yn ymgeisydd addas.
Gall ymgeiswyr gadw llygad ar gynigion gan Brifysgolion ac ymateb iddynt ar UCAS Track.
Efallai y bydd cyrsiau sy’n cynnal cyfweliadau yn defnyddio’r datganiad personol fel sail ar gyfer cwestiynau’r cyfweliad, fodd bynnag ni fydd cyrsiau eraill yn cynnal cyfweliadau o gwbl, felly mae’r datganiad personol yn hollbwysig i’r broses ddewis.
Bydd rhai cyrsiau yn gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad/clyweliad neu’n gofyn am bortffolio o waith. Mae hyn yn helpu’r Brifysgol i ddod i benderfyniad ar addasrwydd yr ymgeisydd ar gyfer y cwrs.
Efallai mai hwn fydd unig gyfle myfyrwyr i berswadio prifysgolion i’w derbyn ar eu dewis raglen. Gall y datganiad personol fod yn 47 llinell o hyd (neu 4,000 o lythrennau – pa un bynnag sy’n dod gyntaf). Dylid sicrhau mai’r prif ffocws yw’r cwrs. Y nod yw pwysleisio eu diddordeb mewn astudio’r cwrs a dangos eu hymroddiad i’r pwnc. Dylid cynnwys profiad gwaith perthnasol, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy, a sgiliau eraill y maent wedi’u hennill drwy weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol a fydd o fudd iddynt wrth astudio eu gradd. Dim ond un datganiad personol y bydd myfyrwyr yn ei ysgrifennu, a fydd yn cael ei anfon at bob un o’u dewisiadau, felly mae’n rhaid iddo gwmpasu pob maes pwnc y maent yn gwneud cais i’w astudio yn y brifysgol.
Beth nesaf? Unwaith y bydd y cais wedi’i gwblhau, bydd UCAS yn anfon y cais at y prifysgolion ar ran y myfyriwr. Yna mater i’r prifysgolion yw ystyried a ddylid gwneud cynnig.
Cyfweliadau
Cynnig diamod Cynnig am le ar gwrs heb unrhyw amodau – mae’r lle yno iddyn nhw os ydyn nhw am ei gymryd.
Cynnig amodol Cynnig am le ar gwrs yn amodol ar amodau - fel arfer yn gysylltiedig â chanlyniadau arholiadau.
Gwneud Penderfyniad Wrth i gynigion gael eu gwneud, bydd rhaid i’r ymgeisydd benderfynu ar un dewis cadarn ac un dewis yswiriant, gan wrthod unrhyw gynigion eraill.
UCAS Extra Os yw myfyrwyr wedi defnyddio pob un o’r pum dewis ar ffurflen gais UCAS, ac nid ydynt wedi llwyddo i gael cynnig, mae ganddynt ail gyfle i wneud cais am le, gan ddefnyddio UCAS Extra. Mae’r gwasanaeth yn dechrau yng nghanol mis Mawrth a gellir ei ddefnyddio hyd at ddiwedd mis Mehefin. ydds.ac.uk/cy | 33
34 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
“Roeddwn yn llawn cyffro pan glywais fy mod wedi ennill gwobr Norah Isaac. Rwyf wedi cael profiadau gwych wrth astudio’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, a heb os, buaswn yn annog eraill i edrych ar y cyrsiau Cymraeg, yn ogystal â chymryd rhan yn y gweithgareddau Cymraeg yn y Brifysgol.”
Guto Morgans BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffitrwydd Awyr Agored)
ydds.ac.uk/cy | 35
DYDDIADAU ALLWEDDOL AC ADEGAU BRIG GORFFENNAF HYDREF
Amser i ddrafftio’r Datganiad Personol.
Rhaid cyflwyno ceisiadau i gyrsiau Rhydychen neu Gaergrawnt, a chyrsiau meddygaeth, deintyddiaeth neu filfeddygaeth, erbyn 15 Hydref.
Er ei bod yn gynnar, byddai nodi syniadau yn eu rhoi ar ben y ffordd. Gallech gynnig helpu trwy amlygu eu meysydd cryfder, a’u hannog i chwilio am waith â thâl neu wirfoddol yn ymwneud â’u meysydd diddordeb i lenwi unrhyw fylchau yn eu profiad.
MEHEFIN
IONAWR
Dylid dechrau ymchwilio drwy edrych ar brosbectysau, mynd i wefannau prifysgolion a dechrau mynychu Diwrnodau Agored neu Sesiynau Blasu.
15 Ionawr yw dyddiad cau ceisiadau UCAS am ystyriaeth gyfartal ond gallai ysgol neu goleg eich plentyn osod dyddiad cau mewnol cynharach. Gall myfyrwyr wneud cais hyd at 30 Mehefin ond byddant yn cael eu hystyried yn ymgeiswyr hwyr.
Anogwch nhw i siarad â’u hathrawon a’u cynghorwyr gyrfaoedd os nad ydyn nhw’n gwybod beth maen nhw am ei wneud. Wrth iddynt ddewis eu cwrs, mae’n bwysig cofio mai eu penderfyniad nhw yw e yn y pendraw. Byddwch yno i’w cefnogi.
MEDI Dyma ddechrau tymor UCAS. Dylent gofrestru gydag UCAS a chychwyn ar eu cais. Ydyn nhw wedi cwtogi eu dewisiadau cwrs eto? Sut mae’r datganiad personol yn dod ymlaen?
Wrth i’r dyddiad cau hwn agosáu, gwiriwch bod eich plentyn wedi penderfynu’n derfynol ar eu dewisiadau a bod eu datganiad personol mewn trefn. Allwch chi helpu gyda’r gwirio terfynol a’r prawfddarllen cyn ei gyflwyno?
CHWEFROR – MAWRTH Dylai cynigion ddechrau cyrraedd gan y Prifysgolion, ond os nad yw eich plentyn wedi clywed unrhyw beth eto, peidiwch â phoeni. Mae gan brifysgolion tan fis Mai i ymateb. Mae UCAS Extra yn agor i bawb sydd heb dderbyn cynigion. Yn ogystal gallai gwahoddiadau ddechrau cyrraedd ar gyfer cyfweliadau a phrofion mynediad ac mae’n amser gwneud cais am gyllid myfyrwyr.
MEHEFIN Dyddiad cau i fyfyrwyr ymateb i gynigion os daethant i law erbyn mis Mai.
MEDI
Mae ceisiadau ar ôl 30 Mehefin yn cael eu cynnwys yn awtomatig yn y broses Glirio.
Amser i’w hebrwng i’r Brifysgol ac iddyn nhw ddechrau siwrnai newydd yn eu haddysg.
Yn ogystal gallai gwahoddiadau ddechrau cyrraedd ar gyfer cyfweliadau a phrofion mynediad ac mae’n amser gwneud cais am gyllid myfyrwyr.
AWST
EBRILL - MAI Amser penderfynu: ydy eich plentyn wedi derbyn ac ymateb i gynigion? Bydd angen iddynt nodi eu dewisiadau Cadarn ac Yswiriant. Yn ogystal bydd angen iddynt fod yn barod i wneud cais am lety myfyrwyr oherwydd mae neuaddau preswyl fel arfer yn cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felyn.
Mae diwrnod canlyniadau wedi cyrraedd! Gallant wirio statws eu cais ar UCAS Track a chadarnhau eu lle. Os bydd pob cynnig wedi’i wrthod, mae’n bosibl y bydd angen cymorth emosiynol arnynt. Ond mae’n bosibl o hyd iddynt ddod o hyd i gwrs drwy’r broses Glirio. Mae gan brifysgolion linellau ffôn penodol ar gyfer Clirio neu ffurflenni cais ar eu gwefannau. Mae’n werth gwneud rhywfaint o ymchwil ymlaen llaw ar gyrsiau a dewisiadau posibl.
RHESTR WIRIO Cyn gwneud cais: Gofynnwch am brosbectws Ewch i’r wefan Ewch i ddiwrnodau agored
Yn ystod y broses ymgeisio: Cofrestrwch ar UCAS Cwtogwch y dewisiadau i 5 cwrs Ysgrifennwch ddatganiad personol Gwiriwch am ysgoloriaethau a phryd i wneud cais Penderfynwch ar eich dewis cyntaf a’ch dewis yswiriant Cyflwynwch y ffurflen gais Traciwch eich cais ar UCAS Gwnewch gais am Gyllid Myfyrwyr
38 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Wedi i chi gael ymatebion: Trefnwch lety Ar ddiwrnod eich canlyniadau, defnyddiwch UCAS Track Defnyddiwch y broses Glirio os oes angen
(peidiwch â phoeni, dyw e ddim mor frawychus â hynny!)
Barod i fynd? Dechreuwch bacio!
ydds.ac.uk/cy uwtsd.ac.uk | 39
AstudioYDDS
y_drindod_dewi_sant
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ydds.ac.uk/cy | 0300 323 1828 | gwybodaeth@pcydds.ac.uk 40 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant