West Wales welsh

Page 1

Gwybodaeth i berthnasau a ffrindiau Llyfryn cymorth adeg profedigaeth Bwriad y llyfryn hwn yw darparu cymorth ymarferol i bobl sy’n galaru.
Cyhoeddwyd gan RNS Publications © Ffôn: 01253 832400 R10

Cynnwys

Ymdopi â’r pethau ymarferol yn dilyn profedigaeth 1

Pan fydd rhywun yn marw yn yr ysbyty .............................................................. 2

Pan fydd rhywun yn marw yn y gymuned 3

Talu’r deyrnged olaf 3

Dillad a phethau gwerthfawr................................................................................................ 4

Rhoi meinwe’r corff 4

Cysylltu â threfnwr angladdau 5 Y Crwner 6

Post mortem ysbyty ................................................................................................................................ 7

Os oes angen cynnal cwêst 8

Cofrestru’r farwolaeth 8

Map sy’n dangos lleoliadau’r Swyddfeydd Cofrestru 9

Ar ôl yr angladd 13

Pan fydd rhywun yn marw 14

Atal post sothach sy’n dod yn enw’r un a fu farw 19

Beth gall ffrindiau a theulu ei wneud i helpu 20

Siarad â phlant am farwolaeth 21 Y dyfodol 22

Ymdopi â’r pethau ymarferol yn dilyn profedigaeth

Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i chi a’ch teulu ar yr adeg hon.

Pan fydd rhywun yn marw, bydd yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol. Beth bynnag fo’r amgylchiadau, bydd angen gwneud rhai trefniadau a phenderfyniadau ymarferol.

Mae dwy adran i’r llyfryn hwn. Mae’r adran gyntaf yn ymdrin â chymorth a chyngor ymarferol ynghylch y pethau y bydd angen eu gwneud yn ystod diwrnodau cyntaf eich profedigaeth, ac mae’r ail adran yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau a all gynnig cysur a chymorth personol i chi ar yr adeg hon.

Efallai na fyddwch yn teimlo y gallwch ei ddarllen i gyd yn awr ond ewch ag ef gyda chi rhag ofn y bydd angen arnoch yn y dyfodol.

Am gefnogaeth cysylltwch â’r swyddfa profedigaeth.

1

Pan fydd rhywun yn marw yn yr ysbyty

Darperir Tystysgrif Feddygol o Achos Farwolaeth (TFAF) gan yr ysbyty, sydd ei angen gan y Cofrestrydd. Mewn rhai achosion bydd angen cyfranogiad y Cwrner, a gall hyn oedi cyhoeddiad y TFAF. Mae’r dystysgrif yn cymryd amser i’w pharatoi, a chaiff ei anfon yn electronig i’r Cofrestrydd gan yr ysbyty. Mewn rhan fwyaf o achosion bydd y dystysgrif yn barod erbyn y diwrnod canlynol.

Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin

Ffoniwch y switsfwrdd ar: 01267 235151 a gofynnwch am estyniad 161, y Swyddog

Profedigaeth, 11yb – 3:30yh Dydd Llun i Ddydd Gwener.

Os yw eich perthynas wedi marw yn yr Uned Gofal Critigol yng Nglangwili, gwnewch gysylltiad uniongyrchol gyda’r adran ar: 01267 248691

Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli Ffoniwch y switsfwrdd ar: 01554 756567 a gofynnwch am estyniad 754, y Swyddog

Profedigaeth, 11yb – 3:30yh Dydd Llun i Ddydd Gwener.

Os yw’n bosib, sicrhewch fod y wybodaeth ganlynol yn barod:

• Eich rhif ffôn fel y gellir cysylltu â chi pan fydd y dystysgrif wedi cael ei anfon i’r cofrestrydd.

• Ai claddedigaeth neu amlosgiad bydd yn cael ei gynnal fel y gellir paratoi’r gwaith papur perthnasol i’r cyfarwyddwr angladd

• Os penderfynir, enw’r cyfarwyddwr angladdau y dymunwch ei defnyddio.

2

Pan fydd rhywun yn marw yn y gymuned

Os buodd eich perthynas farw gartref, mewn cartref gofal neu mewn ysbyty cymunedol, y meddyg teulu fydd yn gyfrifol am lofnodi’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth. Bydd eich meddyg teulu’n gallu rhoi cyngor penodol i chi.

Bydd angen y dystysgrif hon arnoch i gofrestru’r farwolaeth yn y Swyddfa Gofrestru. Gan amlaf, bydd y dystysgrif ar gael o feddygfa eich meddyg teulu y diwrnod gwaith canlynol.

Talu’r deyrnged olaf

Bydd yn well gan y rhan fwyaf o bobl weld eu hanwyliaid yng nghapel y trefnwr angladdau, a bydd eich trefnwr angladdau’n gallu trefnu hynny. Fodd bynnag, os yw’n well gennych dalu’r deyrnged olaf yn yr ysbyty, dylech drafod hynny gyda’r swyddog profedigaeth. Dim ond drwy apwyntiad o ddydd Llun i ddydd Gwener y mae Marwdy’r Ysbyty ar agor. Gellir trefnu ymweliad ar adegau eraill mewn amgylchiadau eithriadol.

3

Dillad a phethau gwerthfawr

Dylech drefnu gyda’r ward neu’r swyddog profedigaeth eich bod yn casglu unrhyw eiddo a phethau gwerthfawr nad ydych eisoes wedi mynd â nhw.

Rhoi meinwe’r corff

Bydd llawer o bobl yn cael cysur o roi meinwe’r corff, ac yn ei ystyried yn rhywbeth cadarnhaol sy’n gallu deillio o sefyllfa drist. Caiff rhoddion o’r fath eu defnyddio i achub a gwella bywydau pobl sydd â chlefydau gwanychol neu gyflyrau sy’n peryglu eu bywyd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: nhsbt.nhs.uk/what-we-do/transplantation-services

Os hoffech gael trafodaeth fwy manwl am roi meinwe, gallwch gysylltu â nyrs o’r Ganolfan Atgyfeirio Genedlaethol ar: 0800 432 0559 (rhadffôn).

4

Cysylltu â threfnwr angladdau

Wedi i rywun farw, gallwch gysylltu â threfnwr angladdau o’ch dewis cyn gynted ag y bydd modd i chi wneud hynny, er mwyn iddo allu dechrau gwneud trefniadau cychwynnol ar eich rhan. Gallwch wneud hynny cyn i’r Dystysgrif Feddygol sy’n nodi achos y farwolaeth gael ei rhoi i chi. Ni fydd y trefnwr angladdau’n gwneud unrhyw drefniadau terfynol nes y bydd wedi cael cadarnhad bod y farwolaeth wedi’i chofrestru a bod y gwaith papur perthnasol wedi dod i law. Bydd y trefnwr angladdau’n gallu rhoi cymorth a chyngor ynghylch llawer o’r pethau y bydd angen i chi feddwl amdanynt.

Mae’n bosibl y byddwch am wneud hynny eich hun neu mae’n bosibl y byddwch am ystyried cael help gan berthnasau neu ffrind yr ydych yn ymddiried ynddo. Yn aml, bydd perthnasau a ffrindiau am wneud unrhyw beth posibl i’ch helpu a’ch cynorthwyo.

Mae’r rhan fwyaf o drefnwyr angladdau ar gael saith diwrnod yr wythnos. Os ydych yn dymuno, byddant yn fodlon ymweld â chi yn eich cartref i roi cymorth a chyngor i chi ynghylch y trefniadau angenrheidiol. Mae gwybodaeth am rai trefnwyr angladdau ar gael yn y llyfryn hwn, neu mae’n bosibl y byddwch am edrych ar restr lawn sydd ar gael ar www.yell.com

Mae costau angladdau’n amrywio, ac mae’n bosibl y byddwch am weld llyfryn a rhestr brisiau cyn gwneud penderfyniad.

Os ydych yn cael cymhorthdal incwm, budd-dal tai neu gredyd teulu, gallwch wneud cais am gymorth i dalu am gostau’r angladd. Bydd y trefnwr angladdau’n gallu eich helpu, neu gallwch gael taflen SF200 (Help pan fydd rhywun yn marw) o swyddfa leol yr Adran Nawdd Cymdeithasol. Darllenwch y manylion hyn yn ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn deall pa gostau y bydd yr Adran Nawdd Cymdeithasol yn fodlon eu talu. Os oes angen cymorth ariannol arnoch yn syth, er enghraifft ar gyfer costau’r angladd, mae cyngor ar gael trwy ffonio rhif y Gronfa Gymdeithasol: 08001690140

5

Y Crwner

Mewn rhai amgylchiadau, ni fydd yn bosibl i feddyg ymdrin â’r achos roi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth.

Ceir llawer o resymau am hynny, ond yn gyffredinol ni fydd yn bosibl os bu farw’r unigolyn yn sydyn, yn annisgwyl neu o ganlyniad i ddamwain. Mae’r Crwner yn gyfrifol am ymchwilio i farwolaethau o’r fath. Bydd y meddyg/ Swyddog Profedigaethau yn gallu trafod hynny â chi. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd yr ysbyty’n rhoi gwybod i Swyddfa’r Crwner.

Gall y Crwner (yn ôl y gyfraith) orchymyn bod archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal heb ganiatâd y perthnasau, er mwyn gallu canfod achos y farwolaeth. Mewn achosion lle bydd y Crwner yn cynnal post-mortem, bydd Swyddfa’r Crwner yn cysylltu â’r perthynas agosaf ac yn egluro’r drefn.

Y Crwner fydd yn rhoi’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth, a bydd rhywun o Swyddfa’r Crwner yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd y gallwch fwrw ymlaen â’r angladd.

6

Post-mortem ysbyty

Er na fydd y Crwner efallai’n gofyn am archwiliad post mortem, gallai’r meddyg ofyn am gael cynnal post mortem ysbyty er mwyn helpu i drin cleifion eraill yn y dyfodol. Fel rheol, bydd meddyg yn trafod y post mortem hwn gydâ chi.

Gofynnir i chi roi caniatâd i gynnal archwiliad post mortem, a fydd yn golygu llenwi ffurflen ganiatâd. Bydd aelod o’r staff clinigol yn eich helpu i lenwi’r ffurflen os byddwch yn cytuno i roi caniatâd.

Ceir taflen fach hefyd sy’n dod gyda’r ffurflen ganiatâd ac sy’n rhoi mwy o fanylion. Mae’r ysbyty yn sensitif iawn i unrhyw anghenion diwylliannol neu grefyddol penodol y mae’n rhaid eu parchu. Byddwch yn cael eich holi ynghylch y rhain yn ystod y broses rhoi caniatâd.

Ar ôl y post mortem, byddwch yn gallu siarad â’r meddyg perthnasol er mwyn cael gwybod beth oedd canlyniad yr archwiliad.

P’un a fyddwch yn dewis rhoi caniatâd ai peidio i gynnal yr archwiliad post mortem, dylai’r meddyg fod mewn sefyllfa i roi’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth.

7

Os oes angen cynnal cwêst

Cwêst yw ymchwiliad i achos meddygol ac amgylchiadau’r farwolaeth os oes ansicrwydd o hyd ynghylch achos y farwolaeth ar ôl cynnal archwiliad post-mortem.

Cofrestru’r farwolaeth

Wedi i chi gael gwybod bod y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth ar gael, dylech gysylltu â’r Swyddfa Gofrestru leol i wneud apwyntiad i gofrestru’r farwolaeth yn swyddogol.

Dylech nodi bod y gyfraith yn mynnu bod yn rhaid cofrestru’r farwolaeth cyn pen 5 diwrnod. Mae angen i chi gofrestru’r farwolaeth yn yr un sir ag y digwyddodd y farwolaeth. Os oedd yr un a fu farw’n ymwelydd â’r ardal neu os nad ydych yn byw’n lleol, mae modd cofrestru’r farwolaeth drwy ddatganiad yn eich Swyddfa Gofrestru leol. Fodd bynnag, bydd angen prosesu’r gwaith papur o hyd, a gall hynny achosi oedi. Gall eich trefnwr angladdau roi mwy o gyngor i chi.

Swyddfa Gofrestru Caerfyrddin: 01267 228210 Swyddfa Gofrestru Llanelli: 01554 744202

Swyddfa Gofrestru Rhydaman: 01269 598300

Mae lleoliadau’r Swyddfeydd Cofrestru i’w gweld ar y map ar y dudalen nesaf.

8

Dolgwili Road, Town Centre, Carmarthen SA31 2AF

and Prince
Ammanford Registration Office 3b Wind Street, Ammanford, Dyfed SA18 3DN Nort h PARKSTREET WINDSTREET COLLEGESTREETA483 MARGARET STREET UNION STREET PEN-Y-BANCROAD A483 HIGHSTREET HALLSTREETHEOLWALLASEYFOUNDRYROAD FOUNDRYROAD A474 HIGHSTREET WALTERROAD PENTWYNROAD PENTWYNROAD RISE STREET RiverAmman River Loughor A483 H A L L STREET HEOL-LASA474FFORDDWILLIAMWALKER A474 CARREGAMMAN NEW ROAD ISCENNENROAD T I RYD A I L LANE Betws Park FFYNONNLAS © Copyright RNS Publications 2022 North H Prince Phillip Hospital A476 B4303 COLES H I L L T E RRACE A484 WEND TOWN HALLSQ Town Hall Square Church Street, Llanelli SA15 3AH Llanelli Register Office DAFENROAD FELINFOEL ROAD A476
8QF A484 A484 A484 AfonDefen FARMERS ROW RD LLETHR HEDLEY CAPEL-NEWYDDTERRACE LN ARFRYN AVE GLASFRYN TERR HALLST FELINFOELROAD GORING ROAD © Copyright RNS Publications 2022 A40 Nort h
A40 A40 BARN STREET DOLGWILIROAD BRONWYDD NASHAVEHAFODCWNIN AELYBRYN O E H L SOFFNALNEP G L YNDER I RESERVOIRROAD PARK HALL BELVEDEREAVENUE SPRINGFIELDROAD PENLANROAD PE N L A N ROAD WELLFIELDROAD LONG ACREROAD ROSS AVENUE PARCYRONEN LLWYNMEREDYD D EVAN ROAD CAPE L SPRINGF I E L D R O A D LLYSCAERMED I
Route in from Glangwili General Hospital
Phillip Hospital
Bryngwyn Mawr Dafen Road, Llanelli, Carmarthenshire SA14
Glangwili General Hospital
H © Copyright RNS Publications 2022 LANE
A484 A484 ABBEYMEAD TANERDY RICHMONDTERR PRIORYST OLDOAK 9
Parc Myrddin Richmond Terrace Carmarthen SA31 1HQ Carmarthen Register Office

Y sawl a all gofrestru’r farwolaeth:

Perthynas ddylai gofrestru’r farwolaeth.

Os nad oes modd i berthynas gofrestru’r farwolaeth, mae modd iddi gael ei chofrestru gan:

• Rywun a oedd yn bresennol adeg y farwolaeth

• Swyddog o’r ysbyty lle bu’r unigolyn farw

• Y sawl sy’n trefnu’r angladd.

Pan fyddwch yn mynd i’r Swyddfa Gofrestru, bydd angen i chi fynd â’r canlynol gyda chi:

• Y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth

• Tystysgrif geni

• Cerdyn meddygol neu rif GIG a fydd ar gael gan yr ysbyty neu’r feddygfa

• Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil os yw’n berthnasol.

Os na allwch ddod o hyd i’r rhain, dylech siarad â rhywun yn y Swyddfa Gofrestru cyn mynd yno.

Bydd angen i’r sawl sy’n dod i gofrestru’r farwolaeth ddod â dogfennau adnabod, e.e. trwydded yrru, pasport neu fil gan gwmni cyfleustodau, sy’n cynnig prawf o’i gyfeiriad.

10

Bydd angen y wybodaeth ganlynol ar y Confrestrydd:

• Enw llawn yr ymadawedig (ac unrhyw enwau blaenorol)

• Dyddiad a man geni’r ymadawedig (tref, neu’r wlad os cafodd ei eni y tu allan i Gymru neu Loegr)

• Cyfeiriad cartref arferol a chod post

• Os oedd yr ymadawedig yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd angen dyddiad geni’r gwr neu’r wraig weddw/partner sifil sy’n fyw o hyd

• Galwedigaeth a math o ddiwydiant (Os oedd yr ymadawedig yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd angen enw llawn a galwedigaeth y gwr neu’r wraig weddw/partner sifil sy’n fyw o hyd)

• Enw’r trefnwr angladdau, ac ai amlosgi neu gladdu fydd yn digwydd

11

Wedi i’r farwolaeth gael ei chofrestru, bydd y Cofrestrydd yn rhoi’r canlynol i chi:

• Copïau wedi’u hardystio o’r dystysgrif o achos marwolaeth – bydd angen y rhain yn aml ar gyfer materion megis yswiriant, cyfrifon banc, bondiau premiwm, hawliadau pensiwn, cyfreithwyr ac ati

• Ffurflen Werdd – i’w rhoi i’ch trefnwr angladdau fel bod modd bwrw ymlaen â threfniadau’r angladd

• Tystysgrif cofrestru’r farwolaeth (Tystysgrif Wen)– at ddibenion nawdd cymdeithasol yn unig. Atebwch y cwestiynau sydd ar gefn y ffurflen ac anfonwch y ffurflen i’r swyddfa bensiynau neu’r swyddfa nawdd cymdeithasol berthnasol.

Codir ffi am gopïau o’r dystysgrif, a bydd y Cofrestrydd yn rhoi cyngor i chi ynghylch faint o gopïau sydd eu hangen arnoch. Ni fydd y Cofrestrydd yn rhoi tystysgrif marwolaeth i chi fel mater o drefn. Os oes angen copïau arnoch, gallwch brynu cynifer ag y mae angen arnoch.

Mae ‘Dywedwch wrthym unwaith’ yn wasanaeth sy’n eich galluogi i sôn unwaith am farwolaeth wrth y rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth. Pan fyddwch yn cofrestru’r farwolaeth, bydd y Cofrestrydd yn rhoi gwybod i chi a yw’r Swyddfa Gofrestru leol yn cynnig y gwasanaeth hwn.

12

Ar ôl yr angladd

Gall rhoi trefn ar ystâd yr ymadawedig fod yn ddryslyd, gall gymryd amser a gall achosi gofid. Os ydych wedi cael eich enwi’n ysgutor mewn ewyllys, eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod dymuniadau’r unigolyn, fel yr ydych yn eu deall, yn cael eu gwireddu. Bydd hynny’n cynnwys talu costau’r angladd, dyledion a threthi yn ogystal â gwaredu eiddo’r unigolyn ac unrhyw asedau eraill. Os bydd rhywun yn marw heb adael ewyllys ddilys, bydd angen cael ‘Grant gweinyddu’ gan y Swyddfa Brofiant er mwyn gallu gweinyddu’r ystâd. Dyma sut y gallwch gysylltu â Swyddfa Brofiant Cymru: Caerdydd: 029 2047 4373 Caerfyrddin: 01267 245057 Mae mwy o gyngor a gwybodaeth ar gael gan Cyngor ar Bopeth www.citizensadvice.org.uk

13

Pan fydd rhywun yn marw

Mae profedigaeth yn brofiad unigryw a phersonol iawn. Bydd gan bob un ohonom ein ffordd ein hunain o alaru. Bydd yn dibynnu ar y berthynas a oedd gennych â’r person sydd wedi marw, yn ogystal ag amgylchiadau’r farwolaeth. Hyd yn oed os oeddem yn gwybod bod ein hanwylyd yn marw, bydd y farwolaeth yn dal yn sioc.

Ar ryw adeg neu’i gilydd, bydd pob un ohonom yn wynebu colli rhywun yr ydym yn ei garu. Mae’n siŵr mai profedigaeth yw’r golled fwyaf difrifol y bydd yn rhaid i ni ymdopi â hi ac eto, yn aml, mae’n rhywbeth na fyddwn yn barod ar ei gyfer o gwbl.

Galar yw’r ymateb normal i golli rhywun yr ydym yn ei garu. Mae’n broses sy’n ein helpu i ddod i delerau â’r golled honno. Nid oes ffordd gywir neu anghywir o alaru, ac yn anffodus mae’n broses sy’n cymryd amser.

Mae’r teimladau y bydd rhai pobl yn eu profi yn cynnwys teimlo’n oer, yn ddideimlad ac yn wag a theimlo bod pethau’n afreal am gyfnod. Wedi hynny, mae’n bosibl y byddwch yn teimlo emosiynau megis dicter, panig, euogrwydd a thristwch. Mae’n bosibl y daw’r emosiynau hynny ag aflonyddwch yn eu sgîl, yn enwedig yn ystod y nos pan fyddwch efallai’n ei chael yn anodd cysgu.

Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn ymateb trwy fod yn bigog neu’n feirniadol ohonoch eich hun ac o bobl eraill, sy’n gallu arwain at deimladau o anobaith.

Nid arwydd eich bod yn methu ag ymdopi mwyach yw’r pethau hyn; yn hytrach maent i gyd yn ymateb naturiol i brofedigaeth.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bosibl y bydd angen cymorth pobl eraill arnoch. Peidiwch ag ofni siarad â rhywun am eich teimladau. Yn aml, bydd hwn yn gyfnod anodd i deulu a ffrindiau hefyd. Mae’n bosibl y byddant yn ofni sôn am eich anwylyd, rhag ofn y byddant yn eich ypsetio. Efallai y bydd angen i chi gymryd y cam cyntaf a rhoi gwybod iddynt eich bod yn awyddus i siarad a’ch bod am gael eu cymorth.

14

Mae galar yn broses sy’n amrywio yn ôl yr unigolyn, a bydd pob un ohonom yn ymateb yn wahanol. Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn rhoi amser i chi eich hun alaru a dod i delerau â’ch profedigaeth ym mha bynnag ffordd sy’n iawn i chi. Mae’r Tîm Caplaniaeth yn yr ysbyty ar gael i ddarparu cymorth cyfrinachol heb farnu. Bydd caplaniaid yn helpu trwy roi amser i bobl a gwrando arnynt, p’un a oes ganddynt ffydd ai peidio. Mae capel/ystafell dawel ar gael 24 awr y dydd yn yr ysbyty lleol, a gallant helpu i gysylltu â chynrychiolwyr gwahanol draddodiadau ffydd.

Os hoffech gysylltu â’r tîm, gofynnwch am aelod o’r tîm Caplaniaeth pan fyddwch yn cysylltu â switsfwrdd Ysbyty Glangwili ar 01267 235151.

Mae siarad yn helpu

Bydd angen i ni fynegi ein poen a’n galar er mwyn gwella. Mae’n bosibl y byddwch yn gweld bod angen i chi siarad dro ar ôl tro am y digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth eich anwylyd, ac am y farwolaeth ei hun.

Mae hynny’n eithaf naturiol ac mae’n un o’r ffyrdd y byddwn yn gwneud synnwyr yn raddol o’r hyn sydd wedi digwydd. Mae siarad â ffrindiau a theulu yn beth da.

Ceisiwch osgoi gwneud pethau ar frys

Yn ystod y misoedd cyntaf wedi’r brofedigaeth, gall ein hemosiynau amrywio’n fawr. Does dim yn ymddangos yn bwysig, a gall fod yn anodd iawn gwneud penderfyniadau. Nid yw’n syniad da rhuthro i wneud penderfyniadau mawr megis gwaredu eiddo eich anwylyd, gwerthu eich cartref, newid gyrfa ac ati, nes y bydd y teimladau o alar a cholled yn llai dwys. O roi amser i chi eich hun, byddwch yn llai tebygol o wneud penderfyniad y gallech ei ddifaru yn ddiweddarach.

15

Ceisiwch osgoi bod ar wahân i bobl eraill

Gall galar fod yn brofiad unig tu hwnt sy’n gwneud i chi deimlo ar wahân i bobl eraill. Gall bod yng nghwmni pobl eraill, ffrindiau neu grŵp cymorth, sydd hefyd wedi colli anwylyd, fod yn gymorth mawr.

Derbyniwch na fyddwch yn gallu bod mor effeithiol ag arfer am gyfnod. Mae cael anhawster canolbwyntio a chofio pethau’n hollol normal. Gofynnwch i ffrindiau eich helpu, a cheisiwch beidio â gosod nodau afrealistig i chi eich hun bob dydd. Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo nad oes gennych reolaeth ar ddim. Mae rhoi ychydig o drefn ar y dydd yn gallu helpu’n aml, megis cynllunio eich bod yn gwneud ychydig o waith tŷ yn y bore ac ychydig o ymarfer corff ysgafn yn y prynhawn. Mae ein galar i’w deimlo yn ein cyrff, felly gall mynd am dro bach neu wneud math arall o ymarfer corff ryddhau tensiwn. Trefnwch eich bod yn gwneud ambell beth neis hefyd er mwyn cael hoe rhag y poen. Mae mynd i weld ffilm yr ydych yn ei mwynhau neu ymweld â ffrind yn bwysig, ac ni fydd yn golygu eich bod wedi anghofio am eich anwylyd mewn unrhyw ffordd.

Dychwelyd i’r gwaith

Pan fyddwch yn mynd yn ôl i’r gwaith, ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd o’ch cynorthwyo eich hun. Efallai y byddwch am i gydweithiwr fynd i mewn i’r gwaith gyda chi ar y diwrnod cyntaf. Rhowch wybod i bobl a ydych am iddynt siarad ai peidio am yr hyn sydd wedi digwydd. Gallwch bob amser newid eich meddwl pan fyddwch wedi bod yn ôl yn y gwaith am gyfnod. Os yw’n bosibl, ceisiwch ddychwelyd i’r gwaith yn raddol, gan weithio llai o oriau neu ambell ddiwrnod yn unig am yr ychydig wythnosau cyntaf.

Cofiwch, ni fyddwch eto’n gallu gweithio fel yr oeddech yn arfer gwneud. Byddwch yn amyneddgar gyda chi eich hun, a cheisiwch sicrhau bod eich diwrnod yn cynnwys cyfnodau pan allwch adael eich desg i gael ychydig o lonydd neu gyfle i golli deigryn.

16

Nid oes unrhyw reolau i’w dilyn pan fyddwch yn galaru. Mae pob unigolyn yn unigryw a byddwn yn galaru yn ein ffordd ein hunain ac yn ein hamser ein hunain. Efallai y byddwch yn gweld bod y canllawiau hyn o gymorth i chi, neu fel arall. Dysgwch wrando arnoch chi eich hun er mwyn gweld beth sy’n gweithio i chi. Derbyniwch na fydd yr hyn sy’n helpu ar y dechrau efallai’n helpu gymaint yn ddiweddarach. Beth bynnag sy’n digwydd, byddwch yn garedig tuag atoch eich hun. Fe fyddwch yn gallu cario ymlaen. Fe fydd bywyd yn dda unwaith eto. Waeth sut yr ydych yn teimlo ar hyn o bryd, gallwch fod yn ffyddiog bod goleuni ar ddiwedd y twnnel.

Mae’n bosibl y byddwch am gael cymorth pellach i’ch helpu yn eich galar. Efallai y bydd eich meddyg teulu’n gallu eich helpu, ac ato ef/ati hi y dylech droi yn y lle cyntaf. Os oes angen mwy o gymorth arnoch, efallai y bydd yn gallu argymell cwnselydd neu grŵp cymorth lleol. Dyma rai sefydliadau eraill a allai eich helpu:

• Gwasanaethau Cymorth Hywel Dda Adeg Profedigaeth Rhif ffôn: 01267 227639 neu 01554 783564

• Gofal mewn Galar CRUSE

Mae’n cynnig gwasanaeth cwnsela, cyngor, gwybodaeth a chyswllt cymdeithasol i’r sawl sydd wedi cael profedigaeth. Llinell gymorth genedlaethol y DU: 0808 808 1677 Ebost: helpline@cruse.org.uk

• Y Samariaid Gellir cysylltu â’r Samariaid unrhyw awr o’r dydd neu’r nos, a bydd rhywun ar gael i wrando a chynnig cymorth emosiynol cyfrinachol heb farnu.

Ffôn: 0808 164 0123 (Cymraeg) neu 116 123 (Saesneg) Testun: 07725 909090

Cofiwch
17

Gwasanaeth Cwnsela Sir Benfro

Ffôn: 01437 768708

• Gwasanaethau Cymorth i Blant Adeg Profedigaeth Ffôn: 01267 227639

• Child Bereavement UK Gwybodaeth a llinell gymorth. Ffôn: 0800 028 8840

• SANDS Mae SANDS yn darparu cymorth i rieni a’u teuluoedd pan fydd baban yn marw adeg ei eni neu’n fuan wedi hynny. Ffôn: 0808 164 3332

• 2 Wish Upon a Star Mae’n cynnig cymorth pan fydd plant ac oedolion ifanc yn marw’n sydyn.

18

Atal post sothach sy’n dod yn enw’r un a fu farw

Os oes rhywun yr ydych yn ei adnabod wedi marw, mae modd lleihau’n fawr y post marchnata diangen sy’n cael ei anfon ato/ati. Bydd hynny’n helpu i osgoi sefyllfaoedd poenus lle cewch eich atgoffa’n ddyddiol am y farwolaeth.

Trwy gofrestru gyda’r gwasanaeth www.stopmail.co.uk, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, caiff enwau a chyfeiriadau’r sawl sydd wedi marw eu tynnu oddi ar restrau postio, sy’n golygu y bydd post marchnata’n cael ei atal ymhen cyn lleied â chwe wythnos. Os nad oes modd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd, gallwch ffonio 0808 168 9607 lle bydd gofyn i chi dreulio munud neu ddwy’n darparu ychydig o wybodaeth syml iawn. Fel arall, gofynnwch i’r tîm profedigaethau am daflen y gellir ei dychwelyd drwy’r post.

Bydd y gwasanaeth hwn, sydd ar gael yn rhad ac am ddim gan y Rhwydwaith Cymorth Adeg Profedigaeth, yn lleihau’r deunydd marchnata diangen a fydd yn cael ei anfon ac yn gallu helpu hefyd i leihau’r tebygolrwydd y bydd hunaniaeth anwylyd sydd wedi marw’n cael ei dwyn. Ni fydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall, a dim ond unwaith y bydd angen i chi ei darparu. Yn ogystal â gwasanaeth Stop Mail, mae modd cael gwasanaeth tebyg gan y Gofrestr Profedigaethau neu’r Gwasanaeth Atal Post i Bobl Ymadawedig, os yw’n well gennych ddefnyddio’r rheiny.

19

Beth gall ffrindiau a theulu ei wneud i helpu

• Treulio amser gyda’r sawl sy’n galaru – mae bod yn agos at bobl eraill yn gallu bod yn gysur mawr

• Bod yna i’r sawl sy’n galaru – weithiau does dim angen siarad

• Rhoi cyfle i’r sawl sy’n galaru siarad a llefain, heb fod rhywun yn dweud wrtho am godi ei galon

• Helpu gyda’r gwaith tŷ

• Gofalu am y plant

• Rhoi cymorth ar adegau penodol o’r flwyddyn, megis adeg y Nadolig a phen-blwyddi.

Gall fod yn anodd i bobl ddeall pam y mae’r sawl sy’n galaru yn mynd dros yr un hen dir o hyd efallai, gan siarad am yr un pethau ac ypsetio dro ar ôl tro. Mae gwneud hynny’n rhan bwysig o’r broses wella ac yn rhywbeth y dylid ei annog. Mae peidio â sôn am y sawl sydd wedi marw’n gallu gwneud i’r un sy’n galaru deimlo ar wahân i bobl eraill, a gall ychwanegu at y galar.

20

Siarad â phlant am farwolaeth

Fel oedolion, byddwn yn teimlo bod angen i ni amddiffyn ein plant rhag pethau sy’n gallu bod yn anodd i ni. Byddwn yn rhagdybio na fydd plant yn deall marwolaeth a phrofedigaeth, neu y byddant yn eu hypsetio ormod.

Yn aml, byddwn yn camfarnu gallu plant i ymdopi. Yn yr un modd ag oedolion, bydd plant yn ei chael yn fwy anodd ymdopi os na fyddant yn cael gwybod y gwir am beth sy’n digwydd, a gall yr hyn y byddant yn dychmygu sy’n digwydd godi mwy o ofn arnynt.

Bydd rhai plant yn hoffi tynnu lluniau neu ysgrifennu straeon fel ffordd o ffarwelio. Mae’n bwysig dweud wrthynt beth sy’n digwydd mewn iaith sy’n briodol i’w hoed. Rhowch gyfle iddynt ofyn cwestiynau a llefain, a chynigiwch ddigon o gariad a chysur.

Efallai y byddwch am ystyried rhoi dewis i blant ynghylch a fyddent yn hoffi dod i’r angladd ai peidio.

21

Y dyfodol

Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i rywun alaru’n amrywio o’r naill berson i’r llall. Efallai na fydd rhai teimladau byth yn diflannu’n llwyr, megis y tristwch oherwydd y farwolaeth a’r hiraeth am yr ymadawedig, ond bydd amser yn lleddfu’r poen. Er na fydd bywyd byth yr un fath, bydd llawer o bobl yn gweld bod amser yn dod pan fyddant yn gallu dechrau mwynhau byw unwaith eto.

22

RHOI ER COF

Mae coffáu rhywun annwyl gyda rhodd yn ffordd hyfryd o anrhydeddu person arbennig yn ystod cyfnod anodd.

Trwy ddewis cefnogi eich elusen GIG leol, bydd y cof am eich anwylyn yn ein helpu i wella gwasanaethau GIG lleol.

Casgliadau mewn angladdau

Mae gofyn i ffrindiau a theulu roi rhodd yn lle blodau mewn angladd neu wasanaeth coffa yn ffordd ystyrlon o gofio am eich anwylyn. Os hoffech ofyn am roddion i gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda, cysylltwch â ni i ofyn am amlenni casglu i’w defnyddio yn y gwasanaeth. Cronfeydd teyrnged

Mae cronfa deyrnged Elusennau Iechyd Hywel Dda yn gofeb ar-lein y gallwch ei chreu a’i phersonoli er cof am anwylyn; mae’n lle i chi gofio am rywun sy’n arbennig i chi, a dathlu ei fywyd. Gallwch sefydlu eich cronfa deyrnged yn www.muchloved.com

Cymryd rhan mewn digwyddiad

Mae codi arian er cof yn ddull anhygoel o arbennig ac unigryw o anrhydeddu rhywun agos atoch. Pa un ai gwerthiant cacennau neu nenblymio fydd y digwyddiad, mae yna sawl dewis yn bodoli ar gyfer codi arian er cof am anwylyn.

Rhoi rhodd

Os hoffech ddathlu bywyd rhywun annwyl trwy roi rhodd unwaith ac am byth i Elusennau Iechyd Hywel Dda, gallwch gyfrannu’n hawdd yn www.hywelddahealthcharities.org.uk

Os byddai’n well gennych gyfrannu trwy’r post, gwnewch sieciau’n daladwy i ‘Elusennau Iechyd Hywel Dda’ a’u hanfon i Elusennau Iechyd Hywel Dda, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Ffordd Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB. Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt, a pheidiwch ag anfon arian parod yn y post. Trwy ba ddull bynnag y byddwch yn dewis ein cefnogi er cof am rywun arbennig – diolch i chi.

@ElusenHywelDda ElusennauIechydHywelDda Rhif elusen gofrestredig 1147863 elusennauIechydhyweldda.org.uk | #EichElusenGIG E: codiarian.HywelDda@wales.nhs.uk | Ff: 01267 239 815
Elusennau Iechyd Hywel Dda yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac rydym yn bodoli i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a staff y GIG.

Roedd y wybodaeth sydd yn y llyfryn hwn yn gyfredol adeg ei gyhoeddi. Hoffem ddiolch i’n noddwyr, oherwydd ni fyddai’r llyfryn wedi bod yn bosibl heb eu cymorth nhw. Fodd bynnag, ni allwn gymeradwyo’r gwasanaethau sy’n cael eu hysbysebu ynddo.

Cyfeirnod: Llyfryn Profedigaeth Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac Ysbyty’r Tywysog Philip Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2022

Dyddiad adolygu: Rhagfyr 2024

The Health Board would like to thank RNS Publications for publishing this information and the following pages contain some features from local services o ering their help at this time.

Whilst the Health Board is grateful of their support it does not endorse or recommend any of the services that they provide.

�\\ bereavement ,�port network

stopping mail

STOPPING JUNK MAIL

It is distressing to deal with a bereavement and unsolicited mail can be insensitive and destructive during a grieving process.

By scanning the below QR code on your phone or visiting www.stopmail.co.uk, we are able to securely share this information with mailing organisations and under the Data Protection Act the information will not be used for any other purpose.

Other benefits reduce the possibility of identity fraud, such as assumed identity and you will only have to supply the information once.

www.stopmail.co.uk 0808 168 9607 from a landline 0333 006 8114 from a mobile © Bereavement Support Network Ltd 2022

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.