EICH CARTREF
AWGRYMIADAU
ARBENNIG AR GYFER UWCHGYLCHU EIN CYDLYNYDD YMWNEUD GYDA DEFNYDDWYR GWASANAETH, JO LLOYD YN RHANNU YCHYDIG O AWGRYMIADAU Y MAE HI WEDI’U DEFNYDDIO EISOES GYDAG EIN PRESWYLWY 1 Cyn ichi daflu hen ddodrefnyn, ystyriwch oes modd ichi ei uwchgylchu. Ewch ati i greu rhywbeth anhygoel yn defnyddio rhywbeth y buasech chi wedi’i daflu fel arall! 2 Defnyddiwch eich dychymyg pan fyddwch yn gweld hen ddodrefn. Mae hen ysgolion yn ddefnyddiol iawn i arddangos planhigion ac mae hen ddrymiau peiriannau golchi dillad yn gwneud potiau planhigion tu allan gwych. 3 Os welwch chi hen ddodrefn ar werth ar y stryd fawr rydych yn hoff ohono, mae’n bosib y gallwch chi ddod o hyd i rywbeth tebyg iawn ar Facebook Marketplace –mae’n bosib hefyd y gallwch chi gytuno ar bris isel iawn neu efallai dderbyn rhywbeth AM DDIM!! 4 Casglwch hen sanau (rhai glân wrth gwrs) gan eu bod yn wych i daenu cwyr ar ddodrefn, ar yr amod nad ydyn nhw’n rhy fflwffi (gallai ffibrau rhydd amharu ar edrychiad y dodrefn) 5 Ewch ati i gael hwyl a rhoi cynnig ar dechnegau newydd. Does dim rhaid ichi gadw at arddull dodrefn ar y stryd fawr. Dewiswch liwiau sy’n gweddu ichi a’ch cynlluniau lliwiau.
22
6 Does dim rhaid ichi ddefnyddio paent sialc drud. Defnyddiwch hen baent di-sglein. Os wnewch chi gofio taenu farnis neu gwyr ar ôl peintio, bydd yn edrych yn wych! 7 Unwaith ichi orffen eich dodrefn, gofalwch eich bod yn amddiffyn eich holl waith caled drwy daenu farnis neu gwyr drosto i sicrhau ei fod yn para. 8 Argraffwch luniau oddi ar y we – gallwch eu defnyddio ar gyfer gosod ‘Decoupage’ (gair Ffrangeg am ludo lluniau!) ar eich dodrefn ar ei newydd wedd. Edrychwch mewn cylchgronau neu hen lyfrau comics. Defnyddiwch lud PVA i osod y rhain ar eich dodrefn cyn eu gorchuddio gyda farnis neu gwyr. 9 Yn bwysicaf oll, gofalwch eich bod yn cael hwyl a byddwch yn greadigol. Gallwch fynd ati i greu pob math o bethau ac os ydych chi’n gynnil ac yn hoff o chwilio am fargeinion, gallwch uwchgylchu dodrefn yn rhad iawn!
AWGRYM
UWCHGYLCHU
ARBENNIG
LAURA Mae’n bosib eich bod yn cofio yn rhifyn yr haf imi rannu un o’r bargeinion Facebook wnes i ei uwchgylchu; wel… Rydw i wedi dod o hyd i fargen arall. Roedd y drych hyfryd hwn ond yn £10 ar Facebook marketplace. Unwaith imi ei lanhau’n sydyn, ei sandio a gosod ychydig o dâp masgio i amddiffyn y drych, dim ond 20 munud gymrodd imi ei beintio. Wnes i ddefnyddio paent coed du oedd dros ben yn dilyn fy mhrosiect uwchgylchu blaenorol. Rydw i wrth fy modd gyda’r drych ar ei newydd wedd!
Os oes gennych chi unrhyw ddodrefn wedi’i uwchgylchu yr hoffech chi eu rhannu, anfonwch nhw at Communications@Clwydalyn.co.uk ac mae’n bosib y byddwn ni’n eu cynnwys yn un o’n rhifynnau yn y dyfodol.