9 minute read

Rhys Gwynfor

“’Di o ddim yn dod yn naturiol i mi o gwbl ond mae o’n fater o raid.”

Heddiw fues i... mewn gardd ’fo

Advertisement

Gan wybod bod albwm ar y gweill, mae Y Selar wedi bod yn holi Rhys Gwynfor am gyfweliad ers... sbel. Pan glywsom ni felly ei fod wedi bod yn ôl i’r stiwdio’n ddiweddar a bod pethau’n dechrau symud eto, penderfynom fynd am sgwrs i weld os fyddai siarad am y peth yn rhoi’r hwb olaf hwnnw iddo!

Geiriau: Gwilym Dwyfor

Diwrnod braf o Fedi a oedd hi pan dderbyniais wahoddiad, cymdeithasol bell, i ardd gefn Rhys yn ei gartref ef a Lisa (Angharad) yn Grangetown, Caerdydd. (Oes, mae ‘gardd ar ei eiddo’!) Derbyniais y gwahoddiad am gan o lager hefyd felly dyna lle’r oeddan ni’n dau yn yfed ar bnawn dydd Llun fel dau ecstra yn y Deri Arms, a rhaid oedd dechrau gyda’r cyfarchiad newydd, “Sut locdown?”

“Dwi’n gweithio o adre pryn bynnag felly wnaeth dim llawer o ddim byd newid i mi,” eglurodd y canwr sy’n wreiddiol o Glan-yr-afon ger Corwen.

“Dwi wedi bod yn lwcus. Dwi wedi gwneud lot o waith ar y tŷ ac wedi cyfansoddi un gân. Dydw i ddim yn gynhyrchiol iawn pryn bynnag. Mae’r ratio wedi aros yr un fath! Ond mae’r un gân dwi wedi ei sgwennu, ‘Adar y Nos’ yn bum munud a hanner. Dwi newydd ei recordio hi yn Sain efo Osian [Williams] ac Ifan [Emlyn], a Carwyn Williams ar y drwms.”

Roedd Rhys yn ffodus i wneud un peth a oedd yn ddigalon o brin yn ystod y cyfnod clo hefyd, sef chwarae set fyw, a hynny yn Tafwyl.

“Fe wnaeth hynny dorri ar yr haf a golygu ein bod ni wedi cael mynd allan o’r tŷ. [Oherwydd y cyfyngiadau teithio] fe wnaeth Ifan Prys [Cledrau] chwarae gitâr i ni felly roedd o’n stripped back, fi’n canu, Lisa ar y piano ac Ifan ar gitâr. Gawsom ni ymarfer socially distanced ac wedyn chwarae.

“Un peth braf amdano fo, nid fod yn well gen i chwarae i gamera na chynulleidfa o gwbl, ond pan dwi’n chwarae dwi’n dechre zone-io i mewn ar bobl sydd wedi colli diddordeb! A ti’n dechrau colli hyder yn dy hun wedyn, so do’dd hynny ddim yn digwydd, jyst

sbio i mewn i’r lens a mwynhau dy hun, ac fe wnaethon ni fwynhau hefyd. Roedd o’n braf, mor broffesiynol, o’dd pawb yn gwbod be’ oeddan nhw’n ei wneud, oeddat ti i mewn ac allan yn sydyn ac yn ôl adra o fewn hanner awr yn gwylio’r band nesa.”

Y terfyn o fewn golwg

Mae Rhys eisoes wedi rhyddhau pedair sengl fydd ar yr albwm, y diweddaraf o’r rheiny, ‘Esgyrn Eira’, nôl ym mis Ionawr.

“Mae hynny wedi cymryd tua dwy flynedd. Mae ’na flwyddyn ers ‘Bydd Wych’ ac roedd ‘Capten’ a ‘Canolfan Arddio’ wedi bod cyn hynny. Mae’r amserlen yn wallgo, dio’m yn wych, ond fel’na mae o’n dod ar hyn o bryd. Dwi’n wael am drefnu’n amser stiwdio, ond pan dwi wedi bod yn mynd dwi wedi bod yn recordio sengl a thrac i’r albwm hefyd. Ella fysa’r pwysau o fwcio pythefnos cyfan yn helpu ond dwi’m yn gwbod pa mor organig fysa’r caneuon wedyn. Dwi’n eithaf hapus efo’r drefn yma o weithio ar ganeuon dros gyfnod hir.”

Y bwriad yw paratoi ychydig o ganeuon newydd erbyn ei ymweliad nesaf â’r stiwdio ac fe ddylai’r llinell derfyn fod o fewn golwg wedyn.

“’Da ni’n bendant yn agosáu. Dwi ddim eisiau rhyddhau albwm sy’n llawn senglau. Dwi angen ambell drac albwm hefyd. Geith y gynulleidfa a’r radio benderfynu wedyn. Wrth i ti ddechrau llunio cân, ti’n dechrau meddwl, ydi hon yn mynd i fod yn sengl? Ydi hi ddigon catchy, ddigon difyr neu ydi hi am fod yn album track? Ti’n gwbod bod ti’n licio’i hi ond ti’n colli pob persbectif achos ti’n ei nabod hi mor dda. Mae ‘Adar y Nos’ yn gân hir self-indulgent ofnadwy ond erbyn hyd dwi’n licio hi ac yn meddwl ei bod hi’n sengl! Ma’ rhai pobl yn cytuno a lleill yn deud ceith hi fynd i chwarae!”

Bu rhaid gohirio un sesiwn stiwdio o’r gwanwyn tan fis Awst oherwydd y pandemig ac mae hynny wedi gosod popeth yn ôl un cam. Er nad yw’n rhoi gormod o bwysau arno’i hun, mae’n amlwg fod Rhys yn awyddus i symud pethau ymlaen erbyn hyn a rhyddhau rhywbeth swmpus. Eglura ei fod yn gweithio’n well gyda ded-lein felly lle’n well i ymroi i ddyddiad nag mewn print rhwng cloriau’r Selar?!

“Iawn,” chwardda, cyn mentro’n betrusgar... “1af... o Fedi... 2021! Na... nawn ni jyst deud flwyddyn nesaf. Dwi’n meddwl ’bydd pobl yn dechre cal llond bol o’r sengle ma’n dod allan o hyd efo hanner blwyddyn a mwy rhyngddyn nhw. Dwi’n meddwl, er mwyn pawb, ’mod i angen sortio fo rŵan!”

Canfod y steil

Alawon cryf y piano sy’n rhoi hunaniaeth i ganeuon Rhys wrth i’w eiriau cofiadwy amrywio’n annisgwyl o’r dwys i’r doniol o un gân i’r llall. A mwy o hynny a fydd ar y record hir.

“Mae’r sengl nesaf yn gân o’r enw ‘Freddie’ am ein cath fach ni, Freddie! Ma’ honne’n dri munud a hanner poppy. Mae ‘Adar y Nos’ wedyn yn debycach i ‘Capten’, sŵn mwy trydanol, electric piano a drum pads, autotune ar y lleisiau, cychwyn a gorffen efo roc eitha’ trwm. Dwi’n licio caneuon pop ond dwi hefyd yn licio’r caneuon hirach mwy indulgent felly cymysgedd o’r ddau fydd o. O’n i’n arfer deud ’mod i’n gneud ’chydig o steils gwahanol ond roedd hynny pan o’n i ddim yn gwbod be’ odd fy steil i.”

Rhan fawr o ganfod y steil hwnnw oedd perthynas dda gydag Ifan ac Osian Drwm.

“Dwi’n gneud demos eitha’ gorffenedig o ran sŵn ond ddim o ran y chwarae. Dwi’m yn chwarae gitâr felly mae gitâr y demos i gyd yn gordie ar MIDI sydd ddim yn swnio’n dda iawn. Ond ma’n ddigon i roi syniad i Ifan, rhwng hynny a’i fod o’n gwbod be’ dwi’n ei licio mae o’n gallu gneud be’ dwi isho heb i mi ofyn bron. ’Da ni wedi gweithio lot dros y blynyddoedd felly ma’ ’na system dda o weithio yna. Mae Carwyn yn wych hefyd achos dwi’n gwbod llai am ddryms nag ydw i am gitârs!”

Does dim syndod fod y berthynas gystal o ystyried fod Rhys yn adnabod Ifan ers Ysgol Feithrin ac Osian ers blwyddyn 7 Ysgol y Berwyn!

“Mae o’n gneud pethe’n haws,” meddai.

“Pan ’da ni’n mynd i’r stiwdio ’da ni’n gwbod be’ ’di diwedd y daith heb orfod gofyn gormod o gwestiyne, jyst neud o. A dwi’n meddwl ein bod ni gyd yn joio’r broses, dwi bendant yn, cael mynd i recordio’r caneuon bach gwirion ’ma dwi’n eu gneud ar keyboard MIDI yn stiwdio Sain efo’r cerddorion gwych ’ma. Er mod i’n ffrindie efo nhw ers erioed, dwi byth yn anghofio eu bod nhw’n gerddorion talentog ac yn gynhyrchwyr sy’n gwybod be’ ma’ nhw’n ei wneud.

“Dwi’n lwcus iawn ohonyn nhw. Ac efo Carwyn a Lisa hefyd, dwi’n lwcus fod y band i gyd yn gerddorion proffesiynol. Fi ydi’r unig un sydd ddim yn gweithio fel cerddor proffesiynol.”

Y Perfformiwr

Efallai nad canu yw bara menyn Rhys ond mae un peth yn sicr, mae’n berfformiwr heb ei ail! Roeddwn i’n feirniad Cân i Gymru yn 2013 pan enillodd Jessop a’r Sgweiri gyda ‘Mynd i Gorwen hefo Alys’ a dwi’n cofio meddwl yn union yr un peth bryd hynny ag y gwnes i saith mlynedd yn ddiweddarach wrth ei wylio yn y Dafwyl rithiol eleni. Am ffryntman. Mae o’n edrych fel ei fod yn wirioneddol mwynhau ei hun ar lwyfan.

“Ydw, dwi yn mwynhau perfformio. ’Di o ddim yn dod yn naturiol i mi o gwbl ond mae o’n fater o raid achos ’mod i ddim yn chwarae offeryn ar y llwyfan. Dwi wedi gwneud gigs lle dwi wedi siomi pobl achos bod gen i ddim mo’r hyder yna i ymgolli yn y perfformiad. Mae o’n edrych yn waeth os ti ddim, dyna dwi’n gorfod ei gofio. Mae o’n help fod Osian, Ifan, Lisa a Carwyn efo fi, sy’n bedwar cyfforddus a hyderus iawn ar lwyfan. Yn enwedig Osian, sydd yn un o’r ffryntmans gorau mae Cymru erioed wedi ei gael. ’Da ni wedi treulio amser yn trafod y grefft ac mi fydd o’n fy coachio i, neu yn fy nghanmol i nes dwi’n teimlo ddigon da! Ma’r ego yna yn hiwj yndda’i ond dwi angen rhywun i’w bwydo hi! Ma’ be’ dwi’n ei wisgo yn helpu lot hefyd. Os dwi’n teimlo’n hyderus a chyfforddus yn sut dwi’n edrych mae o’n helpu lot.

“Efo rywun sy’n canu caneuon am ei gath, dwi’n meddwl bod yn rhaid i mi gymryd fy hun yn ysgafn, ar y llwyfan mewn sodle uchel. Ma’ hiwmor yn bwysig i mi, fyse jyst sefyll yno yn shoegazing yn canu am Freddie ddim yn gweithio.

“Cân i Gymru oedd y tro cyntaf erioed i mi ganu ar set deledu a dwi’n cofio cael ymarfer a sylwi lle oedd y camera a meddwl mai’r camera sydd yn mynd i fod yn fôtio, nid y cant o bobl yn yr ystafell. Dwi’n cofio trafod fel band bod rhaid cael y cydbwysedd rhwng perfformio i’r gynulleidfa yn y lle ond canolbwyntio ar edrych i fyw llygaid y bobl adre hefyd. Dilyn y gole coch ’ne.”

Er cystal perfformiwr ydyw, cymharol brin yw’r cyfleodd i ffans Rhys Gwynfor i brofi hynny.

“Dwi’m yn gneud cymaint â hynny o gigs. Mae pethe fel Tafwyl a Steddfod yn gigs mawr neis. Hyd yn oed am 3 o’r gloch ar bnawn dydd Llun yn Steddfod Llanrwst, ma’ ’na dal ddigon o bobl yno. ’Da ni heb wneud lot o gigs bach ar y circuit fel petai ond dwi’n meddwl, os ydan ni’n rhyddhau albwm, fydd yn rhaid i ni. Dwi isho gneud gig lansio mewn rhywle cyfforddus efo cynulleidfa dda ac wedyn gigs llai ar lawr gwlad.”

“Pan ddoth Yws Gwynedd o Côsh ata’i gynta odd gen i’r holl ganeuon yma yn fy mhen felly o’n i’n meddwl, reit, fe ga’i rhain allan a fydda i’n done, ga’i stopio boche efo’r busnes plant ifinc ’ma. Dwi’n hŷn erbyn hyn wrth gwrs a dwi’n ddigon hapus efo’r pace dwi’n ei osod.

Ond, dwi’m yn meddwl ei fod o’n ffordd o ennyn parch na diddordeb hir dymor gan gynulleidfa.

Alli di ddim jyst gneud pethe pan ti awydd, ar ryw bwynt mae’n rhaid i ti feddwl bod gen ti ddyled i’r ychydig o bobl sydd wedi dangos diddordeb yn dy ganeuon di. Amser i wneud rhywbeth. “Ond ar ôl yr albwm yma, ydw i am dreulio pum mlynedd arall yn gwneud albwm hir arall? Dwi’m yn gwbod!”

“Ma’r ego yna yn hiwj yndda’i ond dwi angen rhywun i’w bwydo hi!”

This article is from: