6 minute read
Mared
by Y Selar
Mae Y Selar wedi bod yn dilyn gyrfa Mared Williams ers y dyddiau cynnar gyda’r Trwbz a theg dweud ein bod ni, fel pawb arall, wedi gwirioni gyda llais aruthrol y gantores o Lannefydd. Y Drefn, heb os, oedd albwm yr haf a Lois Gwenllian a fu’n holi Mared am ei champwaith.
Dwi’n cofio sefyll yn nhywyllwch Clwb Ifor Bach ym mis Hydref llynedd yn geg agored pan glywais i Mared yn perfformio. Dyna’r tro cyntaf i mi ei chlywed yn fyw a chefais fy syfrdanu ganddi. Mared oedd yn cefnogi Blodau Papur ar eu taith yn hyrwyddo eu halbwm nhw. Yr hyn a’m trawodd i amdani oedd y gwir angerdd yn ei chân, rhywbeth sy’n gallu bod yn brin mewn perfformiadau gan lawer o artistiaid sy’n perfformio’r un set o noson i noson ar daith. Efallai bod hyn yn sgil sydd ganddi fel perfformwraig West End lle mae’n rhaid teimlo’r gân bob dydd, weithiau ddwywaith y dydd a hynny am fisoedd ar y tro. Roedd ei hemosiwn yn ddiffuant, doedd dim yn artiffisial amdano, roedd hi’n gwbl wefreiddiol.
Advertisement
Ychydig dros fis yn ddiweddarach cefais ei gweld yn perfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Pontio mewn cyngerdd yn dathlu 50 mlynedd o Sain. Yno benthycodd ei llais i rai o’n caneuon Cymraeg mwyaf poblogaidd fel ‘Môr O Gariad’, ‘Dŵr’, ‘Mistar Duw’, ‘Gyda Gwên’ a chlasur Anweledig ‘Chwarae Dy Gêm’. Cododd groen gŵydd arnaf i a’r gynulleidfa gyda’i dehongliadau unigryw o’r clasuron hyn.
Ond rŵan, mae Mared yn cyflawni carreg filltir bwysig i unrhyw artist sef rhyddhau ei halbwm cyntaf. Cafodd Y Drefn ei ryddhau ym mis Awst gyda’r sengl ‘Pontydd’ yn arwain yr ymgyrch. Cefais sgwrs gyda Mared am fynd ati i greu’r albwm. “Nes i orffen recordio ym mis Hydref llynedd. Mae’n gasgliad o ganeuon sy’ wedi’u cyfansoddi dros gyfnod o chwe blynedd. Rhai pan o’n i dal yn ’rysgol. Wedyn pan ddaeth lockdown do’n i ddim yn siŵr pryd i’w rhyddhau hi. A’r gwir ydy does ’na ddim amser iawn achos mae pobl adre wastad yn barod i wrando ar fiwsig, lockdown neu ddim.”
Rhyddhawyd yr albwm gydag I KA CHING ar ôl gweithio yn y stiwdio gyda’r “dream-team” roc-pop a gwerin, Branwen Williams, Osian Huw Williams ac Aled Hughes.
“O’n i ddim yn siŵr sut sŵn oedd gen i felly roedd y profiad o drefnu’r caneuon ar gyfer band yn ffordd dda o wneud i mi feddwl am hynny. Roedd o’n brofiad newydd i mi ond nes i ei fwynhau a dysgu llawer o’r profiad.”
Mae ei sŵn yn cyfuno dylanwadau jazz a roc piano. Ar adegau, mae’n f’atgoffa i o gerddoriaeth Sara Bareilles, artist sydd hefyd â’i throed ym myd y sioeau cerdd. Holais Mared pwy yw ei dylanwadau hi pan mae’n dod i gyfansoddi a chanu?
“O ran cantorion, bendant pobl fel Ella Fitzgerald ac Eva Cassidy. Wedyn o ran pobl sy’n sgwennu, yn fwy diweddar ’wrach, dwi wrth fy modd efo rhywun o’r enw Madison Cunningham, mae hi’n gwneud stwff lot mwy country. Dwi’n licio pobl fath â Emily King a Lianne La Havas. Mae ’na gymaint o bobl. Fyswn i ddim yn dweud fod ’na un teip o fiwsig. Dwi jest yn constantly gwrando ar gymaint o range, rili.”
Benthyg diwylliant
Mae’r dylanwad jazz i’w glywed yn gryf ar y sengl ‘Pontydd’ sydd wedi bod yn ganolog yn yr ymgyrch i hyrwyddo’r albwm. Mae’r ymateb iddi wedi bod yn gadarnhaol iawn. Efallai bod hynny i wneud efo llawer o’r problemau cymdeithasol a gwleidyddol sy’n llethu’r newyddion ar hyn o bryd a phobl yn uniaethu.
“Mae’r gân, basically, am godi pontydd rhwng diwyllianne a chymunede a’r celfyddydau gwahanol sy’n fwy pwysig nag erioed rŵan. Am ryw reswm, mae’r gân wedi gwneud lot mwy o synnwyr i mi yn lockdown na wnaeth hi pan nes i ei sgwennu haf diwetha’. Mae hi’n gân jazz a dwi’n meddwl ei bod hi mor bwysig ein bod ni’n cydnabod ein bod ni’n benthyg diwyllianne pobl eraill a bod pobl eraill yn benthyg ein diwylliant ni. Ac mae’n bwysig cofio o le mae hynny wedi dod, am hynny mae’r gân basically.
“Yn y fideo oeddan ni eisiau rhywbeth oedd yn creu pont rhwng celfyddydau i ddechrau efo fo, so dyna pam mae’r dawnsio yne. Ac oedden ni eisiau i’r dawnswyr fod yn based yng Nghymru hefyd. Felly mae’r ddwy ddawnswraig yn byw yng Nghaerdydd.”
Cafodd y fideo i ‘Pontydd’ ei ryddhau ochr yn ochr â’r sengl ac ynddo mae dwy ddawnswraig, Faye Tan ac Aisha Naamani yn llafnrolio a dawnsio ar gwrt pêlfasged mewn parc dinesig.
“’Naeth Branwen a fi ofyn am advice Griff Lynch, sy’n ffilmio stwff anyway, ac mi oedd o’n digwydd ’nabod Faye, un o’r dawnswyr. Wedyn aethon ni ati i greu naratif a ffeindio lleoliadau. Felly o’n i’n sbïo am leoliadau yng Nghaerdydd, parcie lle fysen nhw’n gallu rollerblade-io. Cafodd Parc Lydstep yn ardal Gabalfa ei ddewis ar gyfer ffiilmio. Wedyn ’naethon ni gael galwad Zoom fel bod pawb yn dallt be’ oedd y gân am a rhoi ein syniade at ei gilydd.
“Wedyn, wnaeth Griff a’r dawnswyr drefnu diwrnod a jest mynd a ffilmio fo. Ar y pryd, roedd y rheol pum milltir dal yn bodoli felly do’n i’m yn cael mynd lawr i Gaerdydd. Cwbl o’n i’n gallu gwneud oedd cael cyfarfoddydd a chael reference videos at ei gilydd i ddangos y math o beth o’n i isio. Oedd hi’n broses rili neis cael cyd-weithio efo rhywun do’n i ddim yn ’nabod cynt yn ystod lockdown. Felly, mewn ffordd, dwi ddim yn meddwl y bysa hynna wedi digwydd heb law am lockdown.”
Cyfleodd Cyfnod Clo
Mae’r cyfnod clo wedi gorfodi pawb, ond yn enwedig y diwydiannau creadigol, i feddwl am ffyrdd amgen o greu. Ro’n i’n awyddus i wybod a oedd Mared yn teimlo fod y cyfnod clo wedi dod â chyfleoedd newydd ac nid dim ond rhwystredigaethau a phroblemau.
“Yn bendant mae ’na ddwy ochr iddo fo, ond mae’r ochrau ’bach yn imbalanced. Ond o ran edrych ar ochr bositif i bethau dwi wedi dysgu pethau newydd, dwi wedi sgwennu caneuon newydd a fyswn i ddim wedi cael yr amser i wneud hynny fel arall achos fyswn i yn Llundain.” Mae Mared yn aelod o gast Les Misérables yn y West End.
“Dwi wedi cael canolbwyntio ar hyrwyddo a rhyddhau’r albwm hefyd ac wedi cael mwy o amser i feddwl mwy am hynny a chael gweithio efo I KA CHING. Maen nhw wedi gwneud gymaint. Mae Branwen, Elin a finna wedi bod yn casglu syniadau trwy gydol y cyfnod, ac mae o wedi bod yn brofiad rili neis.”
Anfonodd I KA CHING gopi o albwm Mared i ferched blaenllaw eraill y sin er mwyn cael eu hymateb nhw i’r record. Ac fe ddaeth y clod yn fynych. O Siân James i Ani Glass i Lisa Angharad roedd yr ymateb yn unfrydol ganmoliaethus.
“Trefniannau celfydd… didwylledd yn treiddio’r cwbl lot.” Siân James
“Gwefreiddiol a naturiol. Fel tase’i ’di bodoli erioed.” Marged, Y Cledrau “Fel lapio’ch clustiau mewn blanced felfed cynnes” Elin, Thallo “Mae [ei llais] yn gallu mynd i rwla a ti’n trystio eith o byth i’r lle rong.” Lisa Jên, 9Bach
Pan welais i’r dyfyniadau hyn wedi’u gwasgaru yma ac acw ar gyfrifon Instagram Mared ac I KA CHING gwnaethant argraff arna’ i ond ar yr un pryd roeddwn i’n bryderus y byddai fy nisgwyliadau o’r albwm yn rhy uchel o’u herwydd.
Ond, diolch i’r Drefn (winc winc) maen nhw’n wir bob un. Ffiw!
Ei llais hi yw seren y sioe, mae’n ddigyfaddawd yn ei rym emosiynol. Gall fynd o bwnsh yn eich perfedd i goflaid gynnes, feddal mewn mater o eiliadau. Mae’r casgliad o ganeuon yn amrywiol ac yn arddangos gymnasteg lleisiol Mared yn rheolaidd a hynny heb amharu ar naws hamddenol y cyfanwaith.
Dyma obeithio, felly, y ca’ i fynd yn ôl i dywyllwch Clwb Ifor Bach yn fuan ond y tro hwn i’w gwylio yn hedleinio.