16 minute read

Adolygiadau

Rhywbryd yn Rhywle - Lewys

Mae Rhywbryd yn Rhywle yn gampwaith ymysg y genhedlaeth goll o albyms a ddiflanodd i niwl y cyfnod clo. Er chwith oedd tyrchu drwy’r pentwr i ddadorchuddio albwm 6 mis oed, mae elfen o ffawd fod yr albwm newydd anedig wedi cropian i dymor y gaeaf gan ategu’r modd mae’n cydymffurfio â delweddau o natur.

Advertisement

Yn gyflwyniad i’r albwm a’n flas o’r band a’i ddatblygiad, mae’r trac dwbl ‘Rhywbryd’ a ‘Rhywle’ yn gosod stamp cryf o’r llwybr mae’r grŵp wedi’i gymryd. Mae datblygiad amlwg i’r sŵn, ond mae’r hen ffefrynnau pop yn eistedd yn gyfforddus yng nghanol hynny. Dyma gryfder yr albwm hwn, y modd mae’r hen a’r newydd wedi eu cyfosod i lifo fel cyfanwaith. A dyma’n union mae’r casét cyfyngedig yn ei bwysleisio, dyma fand sydd eisiau perffeithrwydd, dyma albwm sy’n haeddu gwrandawiad ar ei hyd. ‘Y Cyffro’ yw trobwynt yr albwm i mi, dyma’r seithfed dôn ag ynddi ergyd sy’n taro’n galed. Drwy gyfuniad o riffiau a rhythmau chwareus mae’n eich tynnu chi nôl am fwy. Ac mae mwy, mae dyfnderoedd o haenau i’r caneuon diweddar. Mae tyndra parhaol rhwng y trwm a’r ysgafn yn ‘O’r Tywyllwch’ yn parhau i ennyn tensiwn ac atgyfnerthu’r rhwystredigaeth fewnol a gyflwynir yn yr intro sydd hefyd yn nodedig yn ‘Hel Sibrydion’.

Cewch eich ysgwyd gan egni’r band yma, egni y gallwn ond gobeithio ei brofi’n fyw, rhywbryd, rhywle.

Aur Bleddyn

RHAID GWRANDO

Y Drefn - Mared

Os nad ydach chi wedi gwrando ar yr albwm anhygoel yma gan Mared eto... gwnewch, RWAN! Mae’n rhaid i mi gychwyn drwy siarad am y llais gwefreiddiol ’ma sy’n naturiol, yn gwneud i mi deimlo’n saff ac wedi cyffroi’n lân ar yr un pryd. Mae ganddi gymaint o reolaeth dros ei hofferyn nes nad oes to iddo fo, mae o’n dal i fynd, ac yn darganfod nodau doeddach chi ddim yn eu disgwyl... ond rydach chi mor falch o’u cael nhw ganddi.

Mae bob dim am Mared yn gwbl ddidwyll, a dyna ydi tarddiad llwyddiant yr albwm. Does ’na ddim ffys, dim gimics, dim ond talent a didwylledd sy’n gadael i ni deimlo pob cân yn bersonol. Mae ‘Y Reddf’ yn mynd i daro tant efo bob un ohonom ni ar ryw bwynt yn ein bywydau, a ‘Pontydd’ ac ‘Yr Awyr Adre’ ydi’r caneuon nes i fethu eu sgwennu droeon ar drenau yn ôl ac ymlaen rhwng Llundain ac adra. ’Da ni’n cael gymaint o ddylanwadau gwerin, pop, a jazz yn yr albwm yma ac maen nhw’n plethu efo’i gilydd yn gwbwl naturiol. ’Da ni wedi clywed beth mae Mared yn medru ei wneud hefo caneuon fel ‘Chwarae dy Gêm’ a ‘Gyda Gwên’, ac mae’r fersiwn o ‘Gwydr Glas’ sydd yn fan’ma rhywsut yn driw i’r wreiddiol ac eto’n cyfleu tristwch y gân werin dorcalonnus yma mewn ffordd fodern, emosiynol. Dyma fysa Carole King yn ei wneud efo cân werin Gymraeg beryg!

Mae hi’n gorffen yr albwm hudol yma hefo anrheg sbesial o obaith yn ‘Dal ar y Teimlad’, a’r cyffro am be’ gawn ni nesa’ gan Mared.

Elain Llwyd

Cwantwm Dub Geraint Jarman

Mae’r ffaith fod dyn 70 oed yn creu cerddoriaeth gyfoes a phoblogaidd yn anhygoel yn ei hun (beth mae eich mam-guod a thad-cuod chi’n ei wneud?!) Ond mae Jarman yn dal i arbrofi hyd yn oed.

Rydyn ni’n gyfarwydd â reggae Jarman, ond mae’r ymdriniaeth dub yma o’i albwm Cariad Cwantwm gan Krissie Jenkins yn newydd ac yn mynd â ni i rywle gwahanol o’r dechrau. Llais Jarman a’i ferched ar ‘Bywyd Dub’ sy’n agor yr albwm, rhwng yr adlais a’r ffaith ei fod yn ddigyfeiliant i ddechrau mae rhywbeth bron yn iasol amdano, yn y ffordd orau posibl. Yna, mae’r bîts ysgafn yn ymlacio rhywun.

Mae bît yn amlwg iawn yn yr albwm a dyna sy’n cynnal y naws ymlaciol drwyddi. Ond dim ond un haen yw’r curiadau, mae effeithiau a cherddoriaeth electronig, yr adleisio a’r melodïau ar ben hynny, a lleisiau’n gweu drwy bopeth.

Mae’n hawdd cau eich llygaid a mynd â’ch hun i ryw draeth tawel, braf yn ‘Addewidion Dub’; i brynhawn Sul rhyw ŵyl yn ‘Strangetown Dub’ â’i melodi hynod chwareus, neu hyd yn oed i arnofio ynghanol y cymylau yn ‘Gofal Dub’.

Gallech chi’n hawdd roi hon i chwarae yn y cefndir a theimlo’ch hun yn ymlacio, ond stopio i wrando arni sydd ei angen, ac mae’r bîts yn cydio ynddoch chi i’ch arwain i rywle pleserus.

Bethan Williams

Bwncath II - Bwncath

“Mae mor braf clywed dy lais…” cana Elidyr Glyn ar un o draciau mwyaf poblogaidd Bwncath II. Wrth gydganu’r geiriau efo fo alla i ddim llai na chytuno - mae hi’n braf clywed ei lais o. Ei lais cynnes, cryg ar adegau, yw’r hyn sy’n gwneud Bwncath yn Bwncath.

Tinc unigryw ei lais sy’n cario rhai o ganeuon hawdd eu hanghofio’r albwm, fel ‘Tonnau’ ac ‘Addewidion’. Ambell dro, dwi’n teimlo bod diffyg emosiwn yn ei ddehongliad o’r caneuon er gwaethaf hyfrydwch ei lais. Dwi ddim yn coelio ei fod o’n golygu’r hyn mae o’n ei ganu ac mae hynny’n lleihau fy mwynhad o’r caneuon hynny.

Fodd bynnag, mae Bwncath yn rhagori yn y caneuon siriol a gobeithiol sydd wedi eu gwneud nhw’n un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru fel ‘Clywed dy Lais’, ’Dos yn dy Flaen’, ‘Haws i’w Ddweud’ a ‘Fel hyn ’da ni Fod’. Un o rinweddau pennaf y band yw naws storïol, lled-lenyddol a thafodieithol rhai o eiriau’r caneuon - nodwedd sy’n f’atgoffa i ar adegau o ddawn geiriol Meinir Gwilym.

Dyma albwm cryf sy’n cynnwys sawl cân fyddwn ni’n eu canu am flynyddoedd i ddod. Yn wir, ‘Fel Hyn ’da ni Fod’ yw’r gân orau i ennill Cân i Gymru ers blynyddoedd. Mae caneuon cryfaf yr albwm yn gofiadwy, yn swynol ac yn codi calon. Does dim dwywaith y bydd yr albwm yma’n byw’n hir ar ein tonfeddi.

Lois Gwenllian

Maske Carw

Fues i ’rioed yno’n hun, ond wrth ymgolli’n llwyr mewn byd o guriadau gwastadol a synths trwm, dwi’n sefyll mewn clwb nos myglyd ym 1986 yn taeru ’mod i’n gwrando ar New Order. Ond dydw’i ddim. Dwi’n gwrando ar ail albwm Carw, pair arbrofol arall gan y crefftwr o Sir Drefaldwyn, Owain Griffiths.

Mae ’na ryw ing hiraethus datblygedig yn perthyn i gynnyrch Carw ers y cychwyn. O alawon heintus Les Soeurs (2015) i fwrlwm breuddwydiol Skin Shed (2018), ro’n i ar flaen ’y nghader i glywed beth oedd gan Maske i’w gynnig. Dyma albwm offerynnol sy’n arbrofi fwyfwy â cherddoriaeth sinistr ei naws. Yn ddrych uniongyrchol i’r newid ym mywyd y cerddor tu ôl i’r cyfanwaith, mae Maske yn gofnod o emosiynau sy’n deillio o’r teimlad hwnnw o fod yn anweledig

Profiad Owain o adnabod neb yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn yr Almaen sydd o dan y chwyddwydr. Er i wynebau ar strydoedd Leipzing ymdebygu i rai ei filltir sgwâr; heb gydnabyddiaeth, cymhara’r profiad i guddio tu ôl i fwgwd, neu yn yr achos yma, Maske.

Ac wrth briodi'r hiraeth yma gyda grym electronig minimalistaidd, llwydda Carw unwaith eto i greu chwa o awyr iach wrth i’w ddawn beirianyddol lunio barddoniaeth haniaethol sy’n siarad drosto’i hun. Ac wrth uno dwy wlad, dyma ddetholiad 7 trac sy’n clymu tawelwch cefn gwlad â chynnwrf y ddinas. Ac er mor llwm ydi pethau ar y funud, dwi’n edrych ’mlaen at pan gawn i ymdrochi yng nghelf gain Carw unwaith eto mewn gig ôl-apocalyptaidd yng Ngharno lle fydd pawb yn gwisgo masg ac yn taeru eu bod mewn clwb nos myglyd ym 1986 yn gwrando ar New Order.

Ifan Prys

Yuke yl Lady LP - Eilir Pierce

Haleliwia, mae hiatws bondigrybwyll Mr Eilir Pierce wedi dod i ben. Do, ’dan ni wedi aros yn hir am gerddoriaeth newydd gan Eilir Pierce, y mab fferm gwych a gwallgo. Pan ddaeth Degawdawns allan yn 2007, roedd Eilir Pierce bendant ddwy gam ar y blaen, wrth iddo gyflwyno 10 cân ar CD, a 90 cân ychwanegol fel MP3 – cyfanswm o 6 awr o gerddoriaeth unigryw a chofiadwy. Neidiwch ymlaen i 2020, a gellid dadlau mai cymryd dwy gam yn ei ôl mae Eilir wedi’i wneud gyda’i ddewis o fformat cyhoeddi – casét!

Ond, mewn gwirionedd, mae’r fformat hwn yn addas iawn i’r albwm dwyieithog yma o hanner awr a 12 cân. Mae’r sŵn yn syml ac yn amrwd, ac yn cynnwys dau offeryn yn unig – y llais (a synnau cegaidd eraill amrywiol) ac ie, you guessed it, yr ukelele. Mae’r ddeuoliaeth hon hefyd yn addas iawn o ystyried pwnc dyrys nifer o’r caneuon – sef perthynas rhwng dau, a’r tor-cariad rhwng dau maes o law.

Gellid disgrifio’r cynnyrch fel break-up album, gyda’r dwyster yn amlwg mewn caneuon fel ‘Get Out’ sy’n erfyn ar rywun i fynd, ac i adael llonydd; ac yn ‘Break of Dawn’ sy’n cynnwys y geiriau ‘every time I hear your voice, I have no choice’ wrth i gariad droi yn hunan-dosturi. Er bo’r baledi serch yn gymysg â straeon hunllefus, mae elfen gref o hiwmor a thafod yn y boch yma, ac anodd yw gwrando ar yr albwm cyfan heb o leiaf wenu ambell i dro, yn enwedig yn ‘Ffrisian yn y cae’ sydd â buwch yn ganolbwynt i’r gân, a ‘Nes i ffindio ti’ sy’n adrodd am blentyn yn bwyta gormod o gaws. A dyna’n union sy’n gwneud yr albwm yma i weithio – mae Eilir Pierce yn llwyddo i gael y balans perffaith o’r dwys a’r doniol, gan ddefnyddio’r ukelele fel offeryn i lonni, tra bo’r geiriau’n aml yn dorcalonnus.

Nid albwm cyffredin mohono, ac nid dyna fwriad yr artist ’chwaith. Yr hyn mae Eilir Pierce yn ei wneud unwaith eto ydy gwthio’r ffiniau trwy ganeuon unigryw cwbl anghonfensiynol, ac mae cyflwyno hynny ar gasét yn elfen o hynny. Fel rhan o’r cyflwyniad, gweithiodd gyda’r artist Elin Bach ar yr ochr weledol, gan gynnwys bathodyn gyda phob tâp; ac roedd gan brynwyr brwd hefyd opsiwn i gael eu bachau ar becyn yn cynnwys llyfryn bychan o gelf gan Elin Bach mewn ymateb i’r gerddoriaeth, gan wneud yr holl gyfanwaith yn un arbennig iawn. Gobeithio’n wir na fydd hiatws hir cyn i’r clustiau gael mwynhau mwy o Eilir Pierce.

Awen Schiavone

Llyfrau Hanes Alun Gaffey

Daeth ail albwm Alun Gaffey, ei gyntaf ar label Côsh, i olau dydd mewn cyfnod fydd yn sicr yn cyrraedd y llyfrau hanes, ac yn wir dyma drac sain briodol i’r dyddiau dystopaidd hyn. Megis darn o lenyddiaeth ei hun, mae pob trac yn adrodd stori wedi’i chrefftio gan ofidion Gaffey am gyflwr y byd. Efallai mai dyma yw ei ffordd o ymdopi â’i feddyliau dirfodol: bywiogi ei eiriau anobeithiol gyda cherddoriaeth hwyliog ac arbrofol, fel yn y trac dawns ‘Cofio pan oedd adar yn canu?’.

Er gwaethaf rhinwedd mentrus yr a’r cyfarwydd. Mae traciau mwy generig fel ‘Arwydd’ a ‘Gwywa’r Gwelltyn’, gyda’u defnydd cyfarwydd o gitârs a phiano, yn teimlo fel math o deyrnged i boblogrwydd eiconig Radio Luxembourg gynt. Ond o’u cyfosod â rhai amgenach megis naws jazz ‘Glud’, mae’n anodd peidio sylwi bod rhannau o’r albwm yn peri gwrandawiad llawer dwysach nag eraill – rhywbeth na fydd at ddant

albwm, llwydda Gaffey i gyfuno’r newydd bawb.

Ond waeth os ydych chi’n mwynhau ochr arbrofol Gaffey neu beidio, ni ellir peidio parchu ei sgiliau cerddorol eclectig wrth chwarae’r offerynnau, ond hefyd yn y broses olygyddol. Mae’r defnydd o’r llais fel offeryn ar ei fwyaf gwefreiddiol yn ‘Croeso i 2009’, mewn symffoni o chwerthin, peswch a golygu’r llais i’w ymdebygu i fath o drofwrdd DJ.

Ar y pegwn arall, dangosa yn ‘Gwerddon’ ei fod yr un mor gyfforddus yn manteisio ar y byd naturiol hefyd. Y byd yw ei gerddorfa, ac mae’r trac hwn yn ddathliad ohoni gyda thrydar cynhenid yr adar yn gefndir. Yn wir, o gofio’n ôl at y cyfyngiadau mewn grym ar adeg rhyddhad Llyfrau Hanes, mor braf oedd cael dianc i wynfyd naturiol ym mhen Alun Gaffey - yn enwedig pan nad oedd hi o reidrwydd yn bosib i’w wneud go iawn. Albwm uchelgeisiol a llwyddiannus arall.

Tegwen Bruce-Deans

Map Meddwl Yr Eira

“Follow us on a journey, make sure to listen to these melodies”. Dyna gyfarwyddiadau Lewys Wyn, wrth iddo’n croesawu i’r tawch o alawon electropop sy’n addurno ail albwm Yr Eira. Taith ydy’r albwm, ac mae’r band yn addo’n tywys ar drywydd troellog ffrwyth eu meddyliau o’r pwl cyntaf un yn ‘Middle of Nowhere’, hyd at orfoledd uchafbwynt anthemig drymio Guto Howells yn niweddglo ‘Caru Cymru’.

Yn rhy aml caiff enwau mawr y sin awr eu hanterth, cyn cilio’n ôl i ddistawrwydd y cyrion. Ond wrth ryddhau Map Meddwl, neidia Yr Eira y tu hwnt i’r tuedd hwn, yn parhau i fod yn gyffrous o gynhyrchiol. Mae ganddynt lawer mwy i’w ddweud wrthym, a dyma albwm sy’n gweiddi hynny o’r copa uchaf.

O’r nodyn cyntaf, sylweddolwn nad brawd bach indie jangle Sŵnami ydy Yr Eira bellach. Cafodd y cam tuag at sŵn mwy dystopiaidd electronig ei ffurfio’n gychwynnol gyda rhyddhau eu halbwm cyntaf, Toddi. Ond yn oes orchfygol yr indie-pop Cymreig, dichon cafodd y cam hwnnw ei ddistewi gan alawon y gitârs bachog poblogaidd.

Mae Map Meddwl wedi caniatáu i’r band wedi tawelu dros y blynyddoedd, mae sŵn yr albwm hwn yn sicr yn brawf o’r modd maent yn aeddfedu. Gwelwn ym mawredd traciau fel ‘Esgidiau Newydd’ gywasgiad o sawl arddull mewn ychydig o funudau, gan ganiatáu iddo fod ar yr un pryd yn don o freuddwydio electronig moel, ac yn waedd o sicrwydd gan y drymiau roc.

Wrth i’r band daflu helaethder o syniadau amrywiol at bob un trac, gallwn weld sut y mae map meddwl yr albwm yn ffurfio yn yr alawon – boed yn amrywiaeth gerddorol rhwng cymysgedd Stokes-aidd y synths a gwreiddiau’r gitâr indiepop, neu’n eiriol wrth i Lewys fynegi emosiynau sydd ar yr un pryd yn bersonol o deimladwy fel yn ‘Pob Nos’, ond hefyd yn cael eu rhannu’n genedlaethol.

Casgliad yn sicr ydy Map Meddwl, a cheir y synnwyr gan segway rhythmig y gitâr yn y diweddglo epic ‘Corporal’, ‘Caru Cymru’, mai’r bwriad ydy rhoi profiad i’r gwrandäwr wrth wrando ar yr albwm yn ei gyfanrwydd.

Tegwen Bruce-Deans

Machynlleth Sound Machine - Machynlleth Sound Machine

Os yn chwilio am dro rhyngalaethol yna edrychwch ddim pellach na chynnig Machynlleth Sound Machine i’r byd. Mae’n ein gwahodd i edrych ar yr arallfyd, drwy delesgop wedi’i blannu rhywle ym Machynlleth, ac yn estyn llaw i’n tywys ni ar lwybr i alaeth y smoke machines a’r ystafelloedd tywyll.

Cynigia MSM 9 trac cyhyrog, electronig, minimalaidd sy’n bachu’r glust o’r cychwyn. Dechreuai gyda ‘Detroit Chicago New York Machynlleth’ sy’n gosod awyrgylch gyffredinol yr albwm o beth y dychmygaf fyddai canlyniad dilyn rysáit lobsgows ar-y-cyd Steve Reich a Derrick Carter. Ond nid homage mo hwn, ond yn hytrach cornel Machynlleth o deyrnas Belleville, ble y ganwyd techno. Profiad pleserus oedd dysgu fod y ddau le’n efeilliaid trefol, ’rôl pori tudalen bandcamp MSM.

Ie, cawl o ddylanwadau America a Chymru sydd yma. Mae synau cyfarwydd Detroit y 90au yn codi llaw nawr ac yn y man ac yn plethu’n ddi-drafferth gyda samplau llais o Gymru, gyda llais nodweddiadol yr hanesydd Dr John Davies yn toddi i mewn i ddrôr hi hats a synths ‘Strata Florida’. Camp glodwiw MSM yw’r gallu i ddod â’r ddau begwn yma at ei gilydd yn grefftus, camp dechnegol heriol, tra hefyd yn creu cerddoriaeth sy’n werth gwrando arno.

‘Machynlleth Techno Soul’ yw’r un rwy’ wedi gweld fy hun yn mynd yn ôl ato dro ar ôl tro. Trac sydd â bas cynllwyngar, clyfar, sy’n gwthio drwy gydol gydag ysbeidiau poliffonaidd bob yn hyn i roi cyfle i ddal anadl. Mewn geiriau eraill, mae’n haeddu’r sticer banger. Ni fyddai’n swnio allan o le mewn unrhyw glwb nos gwerth ei halen.

MSM: Ar gyfer ffans Burial, Paleman, a’r rhai sy’n hoffi aros ar ddihun wedi amser gwely.

Dylan Williams

Hunanladdiad Atlas Dafydd Hedd

Mae’n anodd peidio â chynhesu at frwdfrydedd afieithus Dafydd Hedd. Dyma i chi foi dwy ar bymtheg oed sydd wedi cyfansoddi, recordio a rhyddhau dau albwm ei hun o fewn blwyddyn! Yn naturiol, mae’r naws amrwd homemade hwnnw y byddech yn ei ddisgwyl gan rywun mor ifanc yn rhyddhau’n annibynnol yn perthyn i Hunanladdiad Atlas, fel ei albwm cyntaf, Y Cyhuddiadau.

Ond peidiwch â chamgymryd hynny am anaeddfedrwydd, yn sicr o ran geiriau. Mae gan Hedd bethau i’w dweud a chawn wybod hynny o’r ddechrau’r deg wrth iddo samplo un o areithiau’r ymgyrchydd amgylcheddol, Greta Thunberg, ar ddechrau’r trac agoriadol, ‘Fflamdy’. Cytgan y gân werdd yma sy’n benthyg yr enw i’r albwm ac mae’r ddelwedd o’r byd yn cyflawni hunanladdiad yn un syml ond hynod effeithiol. Caiff themâu amgylcheddol a sosiowleidyddol eu cynnal trwy’r casgliad, gyda’r uchafbwyntiau’n cynnwys ‘Craith Weledol’ sy’n bortread o ardal ôl-ddiwydiannol (daw Dafydd o Fethesda) a ‘Heddiw’ – “Dwi’n ennill cyflog ond yn colli fy nghalon, yn gyrru Mercedes ac yn teimlo’n ddigalon”.

Testun y caneuon heb os sydd yn rhoi’r cysyniad a’r hunaniaeth i’r casgliad. Mae’r gerddoriaeth ar y llaw arall yn eithaf amrywiol, gyda chwpl o draciau blŵs yn torri ar y pop ysgafn. Un o’r rheiny, ‘North Pole’, yw un o fy hoff ganeuon ar y casgliad, gyda llais graeanog Dafydd Hedd yn canfod ei gartref ysbrydol yn yr arddull hwnnw.

Gwilym Dwyfor

Cwm Gwagle Datblygu

Bum mlynedd yn ôl fe ddyfarnwyd gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar am y tro cyntaf, a’i gyflwyno i Datblygu. Roedd dau brif reswm am hynny - yn bennaf gan eu bod nhw’n gyson wedi gwthio ffiniau cerddoriaeth Gymraeg ers ffurfio ar ddechrau’r 1980au, ond hefyd gan eu bod nhw hefyd wedi rhyddhau eu record ddiweddaraf oedd yn gwneud hynny, Porwr Trallod, yn ystod 2015. Bum mlynedd yn ddiweddarach, dyma ryddhau eu cynnyrch cyntaf ers hynny ar ffurf y record Cwm Gwagle.

Dwi bron yn gyndyn i adolygu albwm Datblygu oherwydd mae gwrandawyr yn debygol o gwympo i un o ddau gategori: ar y naill law, y rhai sy’n ‘cael’ cerddoriaeth y grwp ac yn ei garu o’r herwydd, ac ar y llall y rhai sydd ddim, ac yn debygol o’i gasau. Ag eithrio ambell gân, tydi cerddoriaeth Datblygu erioed wedi bod yn wrando hawdd, ac efallai bydd rhaid i chi fuddsoddi rhywfaint er mwyn canfod eich hun yn y categori cyntaf yma, ond unwaith y gwnewch chi hynny mae’n bur anhebygol y byddwch chi’n gadael.

Mae llawer o themâu Cwm Gwagle yn rai cyfarwydd i ffans Datblygu, ond mae rhyw ffresni i’r casgliad hefyd. Dwi’n teimlo i raddau helaeth mai dylanwad cynyddol amlwg Pat sy’n gyfrifol am hyn, ac yn ogystal â’i chyfraniad offerynnol, sydd bob amser wedi bod yn allweddol i’r grŵp, rydym yn clywed ei llais yn amlach nag erioed ar yr albwm newydd.

Mae’r casgliad yn agor mewn ffordd drawiadol gyda ‘Cariad Ceredigion’, sydd â geiriau lleddf a hallt yn trafod cariad, iselder, colled ac alcoholiaeth ond gan wrthgyferbynnu ag alaw emynol ddigon llon. Mae’r deg trac sy’n dilyn yn cynnwys tipyn o amrywiaeth cerddorol - o arddull dawns ‘Cymryd y Cyfan’, i ymdeithgan Affricanaidd ei naws ‘Y Purdeb Noeth’ a balad ddigyfeiliant, plygain bron, ‘123 Dim Byd’. Mae ‘na rywbeth am y trac olaf hefyd, ‘Bwrlwm Bro’ - efallai mai dyma’r trac sy’n cynrychioli partneriaeth presennol Dave a Pat orau ar y casgliad.

Does dim amheuaeth na fydd pawb yn ‘cael’ Cwm Gwagle, ond i ddefnyddio’r dywediad poblogaidd hwnnw yn yr iaith fain, ‘if you know, you know’.

Owain Schiavone

This article is from: