3 minute read
Colofn Lloyd Steele
by Y Selar
Gitarydd Y Reu sy’n trafod amrywiaeth, cynrychiolaeth a chynwysoldeb yn y sin.
Mae’r llofruddiaethau hiliol gan yr heddlu yn yr UDA dros y misoedd diwethaf wedi sbarduno’r symudiad Black Lives Matter ar draws y byd, ac wedi taflu goleuni ar lawer o feysydd lle mae hiliaeth yn bodoli ond ddim yn cael ei ystyried, neu lle mae’n cael ei gymryd yn ganiataol. Un elfen o hyn yw’r diffyg cynrychiolaeth a’r diffyg amrywiaeth a welwn o ddydd i ddydd, o’n sgriniau teledu i feinciau’r Senedd.
Advertisement
Dwi’n credu bod y broblem hon yn bodoli yn y sin gerddoriaeth Gymraeg hefyd, boed o’n ddiffyg cynrychiolaeth o ran rhyweddau, rhywioldebau neu hiliau gwahanol. Mae hyn wedi’i wreiddio yn y ffaith bod cyn lleied o gynwysoldeb ar gael. Mae hon yn broblem eang iawn, sy’n lledaenu dros nifer o ffactorau gwahanol, fel yr iaith, arddull y gerddoriaeth, a’r apêl i ddenu artistiaid Cymraeg i sgwennu’n Gymraeg, felly does yna ddim un ateb syml i ddatrys hyn.
Dwi wedi clywed pobl yn deud sawl gwaith, “mae cerddoriaeth Gymraeg i gyd yn swnio’r un peth”, sydd yn amlwg ddim yn wir. Gan amlaf, mae hyn yn tarddu o ddiffyg ymchwil/ymdrech i weld cymaint o artistiaid talentog sydd yma yn barod, a’r rhagdybiaeth bod cerddoriaeth Gymraeg yn dod o dan un genre. Ond mae’r ddelwedd o’r sin yn ei gwneud hi’n anodd taclo’r stigma hwn, oherwydd y diffyg amrywiaeth, sydd hefyd yn rhoi naws exclusive i’r sin. Gall hyn fod yn frawychus i bobl o gefndiroedd gwahanol, sydd efallai yn eu hatal nhw rhag sgwennu’n Gymraeg. Felly mae gwir angen dechrau cwestiynu’r diffyg amrywiaeth hwn, a dechrau meddwl am yr hyn sydd angen ei wneud i’w ddatrys.
Nid yn unig mae angen denu artistiaid mwy amrywiol, mae angen ehangu’r gynulleidfa hefyd. Mae cynlluniau fel Gorwelion yn gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi artistiaid newydd i gael gigs da mewn llefydd gwahanol. Ond dwi’n meddwl bod cymaint mwy o botensial i ennill gwrandawyr Cymraeg i’r sin. Dwi’n nabod cymaint o bobl Cymraeg sy’n diystyru cerddoriaeth Gymraeg yn gyfan gwbl, am yr un rheswm â’r uchod. Mae angen gwneud y sin yn fwy hygyrch i’r rheini sydd ddim yn mynd i’r Eisteddfod pob blwyddyn neu’n gwrando ar Radio Cymru. Hynny ydy, mae angen normaleiddio gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg i ddenu pobl o gefndiroedd gwahanol sydd â chwaeth wahanol mewn cerddoriaeth.
Fel person hoyw o hil gymysg, yn bersonol dwi wedi teimlo fel chydig o outsider ar adegau o fewn y sin. Ond mewn gwirionedd, dydy hyn heb fod yn unrhyw fath o rwystr i mi ers bod yn aelod o fand.
Yn y bôn, mae amrywiaeth o fewn y sin am fod yn rhywbeth positif iawn er mwyn iddo dyfu. Bydd pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyflwyno arddulliau a dylanwadau gwahanol i ganeuon yn yr iaith Gymraeg, sydd am ddenu mwy o bobl ryngwladol (yn ogystal ag o Gymru) i wrando ar yr hyn sydd gennym ni i’w gynnig.
Does dim amheuaeth bod y sin Gymraeg mewn cyflwr reit iach ar hyn o bryd, ond dwi’n meddwl bod angen galw mwy ar drefnwyr gigs a labeli yng Nghymru i ymdrechu i edrych ymhellach na’u milltir sgwâr i chwilio am dalent gwahanol a chyffrous. Dydw i’m yn expert o bell ffordd, a fedrith o’m digwydd dros nos, ond yn y pen draw mae angen rhyw fath o newid i allu cynnwys pawb, beth bynnag eu cefndir, i adeiladu ar lwyddiant y sin.