1 minute read

Rhywbryd yn Rhywle

Next Article
Dwi isio bod yn...

Dwi isio bod yn...

Lewys

Mewn blwyddyn anarferol, llithrodd ambell beth o dan y radar heb y sylw haeddiannol. Un o’r rheiny a oedd albwm cyntaf Lewys, Rhywbryd yn Rhywle, a ryddhawyd ym mis Mawrth. Rhag ofn i chi fethu’r berl yma ar y pryd, gofynnodd Y Selar i Lewys Meredydd ei hun ein hatgoffa ni i gyd. Y sialens i’r prif leisydd, mewn dim ond brawddeg yr un, cyflwyno’r albwm, Drac Wrth Drac.

Advertisement

1.Rhywbryd

Ein intro i bob gig ers ein perfformiad cyntaf yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2018; ’neud synnwyr i ddechrau efo fo.

2. Rhywle

Syniad ddaeth o jam cyntaf fi ac Iestyn nôl yn 2017. Agoriad ffrwydrol i’r albwm.

3. Yn Fy Mhen

“Tywydd gwlyb a llwm sydd yn fy mhen!”, y sengl gyntaf, lot wedi newid ers hynny!

4. Gwres

Yr ail sengl, cân hafaidd a ddaeth allan jest cyn ein gig gyntaf, dal yn ffefryn!

5. Y Cyffro

Y sengl olaf, fy hoff gân yr ar albwm ’swn i’n deud... egnïol, di-baid.

6. Camu’n Ôl

Bach o anomaly o gymharu â gweddill yr albwm, ond brêc bach chill yn ei chanol hi.

7. Dan y Tonnau

Y sengl lle gafodd sŵn y pedwar ohona ni ei glywed am y tro cyntaf; atgofion melys o Steddfod Llanrwst!

8. O’r Tywyllwch

Fy hoff drac i chwarae’n fyw; tywyll, swnllyd, bach yn ddramatig!

9. Hel Sibrydion

Y gân olaf gafodd ei sgwennu gynnon ni’n pedwar i gadw balans rhwng y caneuon trwm a mwy indie.

10. Adnabod

Y gân gyntaf i mi sgwennu nôl yn 2016; diwedd reit nostalgic (a swnllyd) i’r albwm.

This article is from: