5 minute read
Deud ei ddeud - Gai Toms
by Y Selar
Auteurs ac Amateurs
Gai Toms
Advertisement
Anaml fydda i’n prynu papurau newydd Prydeinig o’r siop dyddiau yma, mae popeth ar y we, a s’dim ryw lawer o gynnwys i’r seici Cymraeg beth bynnag. Ond, ar ddydd Sul Awst 30, prynais yr Observer o’r Coop lleol i gael golwg ar y byd mewn print am change! Roeddwn yn prynu’r Observer yn aml yn y coleg, ac yn cael fy herian am ei fod yn ‘bapur comiwnydd’ (LOL!). Ar dudalen 24, roedd erthygl ddifyr am Dr Didier Raoult o Marseille yn trafod Covid-19 yn Ffrainc. Yn Provence mae ganddyn nhw air i ddisgrifio sefyllfa or-ddramatig, a’r gair hwnnw yw ‘pagnolesque’. Term sy’n deyrnged i Marcel Pagnol, awdur Les Marchands de Gloire (The Merchants of Glory). Wrth bori’r we amdano dysgais ei fod yn dipyn o foi, yn awdur, nofelydd, dramodydd a gwneuthurwr ffilm. Mae rhai’n cyfeirio ato fel ‘auteur’, sef artist sy’n chwarae rhan ganolog mewn cywaith celfyddydol ac yn cyfuno, neu’n ail-adrodd, themâu yn eu gwaith. Artist aml-ddimensiwn, aml-gyfrwng sy’n blethora o ysbrydoliaethau, ymchwil, technegau dyfeisio a chyflwyno. O Bertolt Brecht i Gruff Rhys, o Eddie Ladd i Quentin Tarantino.
Do, cefais foment ‘pagnolesque’ ar Twitter eleni pan ’cyhoeddwyd rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod. Doedd fy albwm, Orig, ddim ar y rhestr fer, wedi’r holl gyfathrach greadigol trwy gydol 2019, bw hw! Y diwrnod hwnnw, cefais newyddiadurwyr yn cysylltu efo mi dros Twitter yn holi am fy safbwynt, yna mwya’ sydyn... roedd erthyglau tabloid dros y we yn deud ’mod i’n anhapus gyda’r rhestr fer. Erthyglau ‘ffwrdd a hi’ yn fy fframio fel ryw dwat blin, ac yn cynnwys barn ‘di-enw’ o safbwynt yr Eisteddfod. Roedd un cylchgrawn heb gysylltu efo mi o gwbl, ac wedi mynd ar gefn erthygl arall. Dwi ar fai yn fan hyn hefyd, yn disgyn i’r trap!
Ydw i’n beio rhywun am beidio dewis Orig i’r rhestr fer? Na. Mae gwobrau yn dipyn o roulette wrth natur, yn dibynnu’n llwyr ar chwaeth y panel. Hefyd, mae lein anfarwol Datblygu “...heb y barnu, na’r cystadlu”, yn cynnig ryw oleuni. Ond, fel artistiaid, rydym wrthi am fisoedd (blynyddoedd!) tu ôl y llenni yn hel syniadau, yn eu siapio fel cerflunwyr brwd, yn chwydu’r enaid fel shamaniaid gwallgof, ac yn pecynnu’r cyfan mewn sgwariau cardbord (a hynny mewn byd ble mae pawb yn ffrydio beth bynnag!) Oni bai eich bod yn cadw dogfen neu ffilm o’r gwaith, does neb yn gweld y gyfathrach, ac mae dehongliad panelwyr yn achos tipyn o ddirgelwch. Pwy a ŵyr os oeddynt yn gafael ar y clawr i ehangu’r profiad wrth wrando. Roedd clawr Orig wedi ei ddylunio i gynulleidfa nad oedd yn gyfarwydd â bywyd Orig Williams, yn llawn lluniau o’r archif, esboniadau mewn Saesneg a llyfryn geiriau, yn rhan o brofiad llawn yr albwm. A gafodd hynny ei ystyried? Pwy a ŵyr?! Gwrthrychedd yw’r cwbl ynde, pwy ydw i i ddweud sut i wrando ar albwm?!
Y peth pwysig yn hyn i gyd wrth gwrs yw perthynas yr artist a’i g/chynulleidfa, ond mae cyfrifoldeb ar y wasg/ cyfryngau yma hefyd. Heb y dogfennu, y cyfweliadau, y lluniau, y fideos, yr adolygiadau gonest, segur yw’r diwylliant a’r diwydiant. Y wasg/cyfryngau yw’r ŵy yn y gacen fel petai. Cefais ambell stori dda pan ddaeth Orig allan chwarae teg, a diolchgar wyf am hynny. Ond, daeth r’un adolygydd i weld y sioe byw, bechod! Ar y llaw arall, mae’r we yn cynnig ryw fath o oleuni tydi, lle gall bobl drydar eu barn, gall artistiaid rannu cynnwys heb sensoriaeth ac mae modd cyrraedd cynulleidfa newydd dros y byd. Ond mae llinell nad allwch ei groesi yn does? E.e. tydi artistiaid methu adolygu gwaith ei gilydd ayyb. A job ddrud ydi talu plygar i roi sylw i chi yn y wasg Brydeinig a chitha’n gorfod rhoi bwyd ar y bwrdd. (Oni bai eich bo’ chi’n graff efo ffurflen grant wrth gwrs!)
Mae cerddoriaeth Cymraeg yn dibynnu ar lond llaw o newyddiadurwyr cyflogedig ac annibynnol i adlewyrchu cyfoeth ein diwylliant, a hynny i gynulleidfa fach iawn. Gyda S4C yn esblygu/dadfeilio’n (?!) araf bach, a diffyg datganoli darlledu, mae’n heriol dros ben. Rwy’n deall ac yn gwerthfawrogi hynny. Ond, mae safon newyddiadurol yn fater arall, ac ambell gerddor yn mynnu mwy nag ymholiad dros Twitter, neu alwad ffôn i ofyn, “albwm am be’ ydi hwn?” neu “be’ ydi’r ysbrydoliaeth?”. Mae hyn awgrymu i mi nad ydi’r bobl ‘ma wedi darllen y datganiad i’r wasg na gwrando ar y record. Diogrwydd newyddiadurol! Be’ ddigwyddodd i newyddiadurwyr yn dod draw efo camera am baned a sgwrs ar dictaphone?! Y ‘rock n roll journalist’! Diffyg cyllid? Diffyg dychymyg?! Diogi?! Amser?! Cyfleustra’r we?! Dwn’im!
Mae newyddiadurwyr Cymraeg angen deall bod rhai artistiaid yn fwy na jest ‘cerddor’, yn enwedig yr artistiaid hŷn. Yr artistiaid sydd bellach rhy hen i fod yn ‘artist cyffrous ifanc’, ac yn rhy ifanc i fod yn ‘legend’. Yr artistiaid sydd yn aml yn gorfod jyglo cyfrifoldebau gwaith a rhiantu, tra’n dal i gredu yn yr ysbryd rhydd creadigol. Artistiaid sydd yn mynd tu hwnt i’r caneuon, ac yn cyflwyno’r gwaith mewn dulliau amgen a difyr (beth bynnag yr arddull gerddorol), artistiaid sy’n aml ar eu gorau yn y cyfnod yma o’u bywyd. Auteurs yr SRG!? Amateurs?! Yn aml, mae’r stori yn cael ei cholli, a tydi pobl ddim yn gweld y graen tu ôl y gân. Ydi auteurs yr SRG angen erthyglau neu adolygiadau yn yr Observer i fesur gwir lwyddiant?! ‘Ta oes golau ar ddiwedd y twnel newyddiadurol cerddorol Cymraeg yma?
Mae’r byd llenyddol i’w weld yn trafod barddoniaeth a llyfrau yn gynhwysfawr a thrylwyr tydi? Ydi hyn gan fod newyddiadurwyr llenyddol yn feirdd a llenorion eu hunain, gyda golygyddion efo gwir ddiddordeb yn y pwnc? Oes mwy o arian mewn llenyddiaeth? Mwy o gynulleidfa?! I atal ‘pagnolesque moment’ arall, ydi’n amser i gerddorion fynnu darpariaeth well o safbwynt mewnwelediad i’r gwaith? ‘Ta ydan ni’n setlo ar ‘digon da’? Ydi artistiaid yr SRG eisiau mewnwelediad creadigol i’w gwaith? Dwnim. Efallai bod cerddorion dan felltith wedi’r cyfan, y ‘neccessarry evils’. Digon da ar gyfer gig elusen, ond ddim digon da ar gyfer stori ddifyr, edgy, dychmygus a pherthnasol.
Yn y bon, y cwestiwn rwy’n ei ofyn ydi; oni bai am lenwi gigs byw, sut mae mesur llwyddiant? Oes rhaid i bopeth fod am y ‘band ifanc o Llandosbarthcanol’ neu’r ‘athrylith o Gaerdyddiauda’?! Ydi hyn yn gwestiwn teg? ‘Ta ydi Gai Toms jest yn cael ‘pagnolesque moment’ arall?! (LOL!).