5 minute read
Sgwrs Sydyn - Carw
by Y Selar
Sgwrs Sydyn
Nid pêl-droediwr Cymru, Ethan Ampadu, oedd yr unig Gymro i symud i fyw i Leipzig llynedd. Yn ninas fwyaf hipster yr Almaen y mae Owain Griffiths bellach yn byw hefyd. Mae wedi parhau i greu cerddoriaeth o dan yr enw Carw ers yr adleoli, a gyda’i ail albwm yn cael ei ryddhau dros yr haf, roedd hi’n amser i Y Selar gysylltu am schnelles gespräch, neu Sgwrs Sydyn.
Advertisement
Albwm newydd, Maske allan ers mis Awst, sut ymateb hyd yma? Iawn dwi’n meddwl. Does neb ’di deud bod nhw’n ei chasáu hi eto, so ma’ hynna’n galonogol.
Lle a phryd fuest ti wrthi’n recordio? Nes i recordio popeth yn y fflat llynedd.
Ar ba fformat ac yn lle mae’r albwm ar gael? Yn ddigidol yn unig, o wefan Recordiau BLINC, Bandcamp, iTunes ayyb.
A’r cwestiwn pwysicaf, i’r rhai sydd heb wrando eto, beth all y gwrandawyr ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Eitha’ egnïol. Electronig. Ma’n albwm offerynnol felly gwahanol i Skin Shed ond mae elfennau tebyg fel y percussion a darnau arpeggiated synth.
Gair Almaeneg am fwgwd yw Maske, a ‘Mwgwd’ yw enw un o’r traciau ar y casgliad hefyd. Pwnc amserol iawn ar hyn o bryd ond roedd yr albwm yma ar y gweill cyn hynny felly eglura ychydig o arwyddocâd y thema. Mae’r albwm yn ymateb i’r teimlad o fod yn ddiarth, yn anweledig. O’n i’n gweld pobl o’n i’n meddwl ’mod i’n nabod o hyd. Ar y stryd ayyb. Yn amlwg doedden nhw ddim yn fy nabod i ac o hyn y daeth y syniad. Y teimlad ’mod i’n gwisgo mwgwd pob dydd.
Mae’r pandemig rhyngwladol wedi gorfodi cerddorion i gydweithio mewn ffyrdd gwahanol ond fel artist unigol sy’n byw mewn gwlad arall pryn bynnag, a wnaeth o effeithio ar y broses o recordio a rhyddhau i ti o gwbl? Na, ddim o gwbl. ’Oeddwn i ‘di penderfynu neud y recordio, cynhyrchu a’r cymysgu i gyd fy hun eniwe, felly dim ond yr ôl-gynhyrchu oedd angen ei anfon i Llion (Robertson). Doedd na’m deadline na dim byd felly. Fe wnes di ryddhau ‘Gorwel’ ac ‘Amrant’ fel senglau. Sut ymateb a gafodd y traciau hynny? Anodd deud. Dwi ’di cael feedback neis gan ffrindie a rhai pobl dwi’m yn nabod. A ma’ nhw ’di ymddangos ar y radio a playlists ayyb.
Wyt ti wedi cael unrhyw airplay yn yr Almaen? Dim syniad!
Roedd yna fideos i gydfynd a’r traciau hynny ac mae yna elfen weledol i gydfynd â phob trac ar Maske. Ti sy’n gyfrifol am y rheiny hefyd, sôn ychydig am y broses o’u creu. Ie, ges i’r syniad o neud visuals/fideos i fynd efo’r tracs felly es i ati i ddysgu’n hun sut i greu pethau syml ar feddalwedd animeiddio. Nes i ddysgu lot. Ma’ nhw eitha’ rough around the edges ond dwi’n hoffi hynna. Oedd y broses yn wahanol ar gyfer pob fideo. Doedd gen i ddim cynllun penodol sut ddylai’r fideos gorffenedig fod. Jest lot o arbrofi.
Ti’n rhyddhau Maske cwpl o flynyddoedd ers albwm cyntaf Carw, Skin Shed, ydi’r hen ystrydeb am “yr ail albwm anodd” yn wir? Mae’r albwm yma ychydig yn wahanol yn y ffaith ei bod hi’n gwbl offerynnol a’r record gynta’ i mi ei chynhyrchu ar ben fy hun , felly dwi’n meddwl nes i frwydro gyda rhai agweddau a oedd yn newydd i mi ond nid achos ei bod hi’n ail albwm. Jest achos oedd rhaid i fi feddwl mwy am bethe.
Sut fyddet ti’n dweud y mae sŵn Carw wedi newid yn y cyfnod hwnnw? Llai o guitars? Mwy o cowbell?
Fe symudaist i Leipzig yn yr amser yna, sut mae byw mewn lle gwahanol, efo diwylliant gwahanol yn dylanwadu arnat ti fel artist? Mae’r holl albwm yn ymateb i’r ffaith ’mod i yma mewn lle diarth. Mae’r pace of life ychydig yn wahanol yma sydd wedi newid fy agwedd tuag at brosiectau creadigol. Ma’ cwrdd pobl newydd a gweld llefydd newydd yn beth da ar gyfer ysbrydoliaeth.
Mae Leipzing yn cael ei adnabod fel un o ganolfannau celfyddydol mwyaf blaengar Ewrop, oedd hynny’n rhan o apêl y lle? Oedd yn bendant. Ma’ ‘na dipyn yn mynd ymlaen yma o ran y celfyddydau a dydy hi ddim yn ddinas anferth felly ma’ hynna’n neis.
Gyda’i hanes cyfoethog o gerddoriaeth electronig, mae rhywun yn cysylltu electro gyda’r Almaen ac yn dychmygu ei bod hi’n sin enfawr yno. Ydi hynny’n wir o hyd neu ydi hwnnw’n dipyn o cliché? Ma’ ’na lwyth o gynhyrchwyr a DJs yma felly ma’ ‘na dipyn o gerddoriaeth electronig o gwmpas. Mae hip hop yn boblogaidd yma hefyd. Yn Leipzig be’ bynnag.
I ddychwelyd at Maske, pa fath o gerddoriaeth oeddet ti’n gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio ac oes yna rhai o’r dylanwadau hynny i’w clywed yn y cynnyrch terfynol? Bob math o bethe. House, ambient, techno, gwerin, pop, soul. Ma’n siŵr bod elfennau o’r gerddoriaeth yma wedi sleifio i mewn i’r albwm yn rhywle!
Oes gen ti hoff gân o blith y casgliad, a pham? hmmmm... ‘Hier’ wyrach? Nes i fwynhau sgwennu’r bass line.
Pa gân oedd y sialens fwyaf neu pa un wyt ti fwyaf balch ohoni? ‘SL’ oedd y sialens fwya’ os dwi’n cofio’n iawn. Oedd cael y cydbwysedd gyda’r holl synau yn broses heriol.
Yn amlwg, mae’r pandemig wedi rhoi stop ar unrhyw fath o gerddoriaeth byw am sbel ond oes yna gynlluniau o ran gigio’r deunydd newydd yma pan fydd hynny’n bosib? Gobeithio. Dwi heb chware’n fyw ers oes. Dwi angen gweithio ar sut dwi am neud yn fyw...
Lle fydd hynny? Ti’n bwriadau dychwelyd i chwarae yng Nghymru? Ma’ ’na lefydd yma yn Leipzig. Fyswn i wrth fy modd chware yng Nghymru, ond dim cynlluniau hyd yn hyn.
Beth fyddai’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar yr albwm? Dawnsio.
Gwertha’r record i ni mewn pum gair! Plîs prynwch fy albwm i. I orffen, beth yw dy hoff albyms yn y categorïau isod.
Hoff ail albwm?
Pass! Rhy anodd!
Hoff albwm ag enw Almaeneg?
Die Mensch-Maschine - Kraftwerk
Hoff albwm gan artist neu fand sydd ag anifail yn eu henw? Through The Green - Tiger & Woods