6 minute read
Newydd ar y Sin
by Y Selar
Newyddar y Sin
Er gwaethaf y cyfnod rhyfedd diweddar yma, mae cerddorion Cymru wedi parhau’n gynhyrchiol ac mae digon yn Newydd ar y Sin. Un artist cwbl newydd, un prosiect newydd gan wynebau cyfarwydd ac un artist sefydledig wedi newid gêr sydd yn mynd a sylw Y Selar y tro hwn.
Advertisement
Teleri
Hanes
Pan ymddangosodd trac cyntaf Teleri, ‘Euraidd’ ym mis Ionawr eleni nid oedd neb yn gwybod llawer am yr artist electronig newydd. “Dwi ’di bod yn creu cerddoriaeth on and off ers fy arddegau, gan ddechrau’n cyfansoddi caneuon gitâr,” eglura. “O’n i’n arbrofi efo cyfuno geiriau a mynegi profiadau personol mewn ffordd hardd. Cafodd Willy Mason ddylanwad cryf arnaf efo’i ganeuon enigmatig a phwerus ac o’n i’n mwynhau chware efo cordiau i geisio cyfleu teimladau cymhleth.
Er iddi chwarae gyda chwpl o fandiau acwstig, un yn Norwich ac un yn lleol, cyn hynny, Gŵyl Rhif 6 2018 a oedd y trobwynt i Teleri. “Ar ôl gweld Gwenno’n chwara’n fyw roedd gen i ddiddordeb mewn cerddoriaeth electronig a’i botensial i greu sŵn epig. Ers Hydref 2019 dwi ’di bod yn dysgu sut i ddefnyddio Ableton Live ac yn ddiweddar dwi ’di prynu DJ decs cyntaf fi!”
Ddeg mis ers ‘Euraidd’ ac nid ydym yn gwybod llawer mwy am Teleri mewn gwirionedd ond mae hi wedi gadael i’w cherddoriaeth wneud y siarad. “Dwi ’di rhyddhau pum trac ers mis Ionawr ac wedi eu cyfansoddi, recordio a’u cynhyrchu o adref. Mae rhaglen radio Georgia Ruth wedi rhoi cefnogaeth gyson ac mae Dyl Mei, Bethan Elfyn, Lisa Gwilym ac Adam Walton hefyd wedi dangos cefnogaeth.”
Sŵn
Mae’n werth gwrando ar bum sengl gyntaf Teleri yn eu trefn i brofi esblygiad y sŵn, gyda’r ddau drac diweddaraf, ‘Haf’ a ‘Gola’ yn symud i gyfeiriad dawns minimalaidd. “Ers darganfod cerddoriaeth felodig deep house Lane 8, dwi ’di cael fy ysbrydoli i greu cerddoriaeth dawns. Dwi’n anelu at gyfuno steil personol hefo arddull gwrthrychol i greu profiadau sy’n codi ysbryd. Yn fy ngwaith celf dwi ’di bod yn ymchwilio sut i gyfleu elfennau therapiwtig natur er mwyn gwella lles.”
Beth nesaf?
Yn artist gweledol hefyd, gobaith Teleri yw parhau i gyfuno’r ddwy elfen wrth ddatblygu’i hun ymhellach fel artist aml-gyfrwng. “Yn y dyfodol dwi’n gobeithio creu mwy o fideos i gyd fynd efo’r traciau dwi’n eu rhyddhau er mwyn cyfleu natur aruchel Eryri. Byddaf yn rhyddhau traciau fesul un ac yn gweithio tuag at EP neu albwm. Ar ôl creu set dwi’n hapus efo, dwi’n gobeithio ei ffrydio ar-lein a’i chwarae’n fyw yn y pen draw!”
Derw
Hanes
Cân i Gymru 2018 a oedd man cychwyn Derw, gyda’r fam a mab o Ben Llŷn, Anna Georgina a Dafydd Dabson yn cystadlu gyda’i Llun: Hannah Bracher-Smith gilydd. “Gyrhaeddom ni’r wyth olaf ond dim gwell!” eglura Dafydd. “Roedd hi’n brofiad grêt gwneud rhywbeth cerddorol efo’n gilydd felly wnaethom ni benderfynu cario ’mlaen. Mam sy’n sgwennu’r geiriau a fi’r gerddoriaeth. Dwi’n rili mwynhau sgwennu efo hi, mae ganddi lawer o bethau diddorol i’w a ’da ni ’di neud sawl peth efo’n dweud.” gilydd ers hynny. O’n i’n meddwl
Elin Fouladi sy’n canu a gyda’r bysa hi’n berffaith i steil Derw. Yn ddau’n byw yng Nghaerdydd, mae ogystal â bod yn gantores anhygoel Dafydd yn hen gyfarwydd â hithau mae ganddi’r gallu i roi gymaint o hefyd. “Dwi’n ’nabod Elin ers tipyn, emosiwn mewn cân.” o’n i’n arfer chwarae gitâr iddi hi pan Rhyddhawyd y sengl gyntaf, ‘Dau oedd hi’n perfformio fel El Parisa Gam’ ym mis Ebrill, a’r ail, ‘Ble Cei
di Ddod i Lawr’ ym mis Awst ar CEG Records. Mae fideos o’r ddwy gân ar sianel YouTube Derw yn ogystal â threfniant “acwstic(ish)” Dafydd o ‘Hel Sibrydion’ gan Lewys. “Mae aildrefnu caneuon pobl eraill mewn steil hollol wahanol yn rhywbeth dwi’n rili mwynhau; ma’ gennym ni un arall ar y ffordd hefyd felly gwyliwch allan!”
Sŵn
Disgrifia Dafydd y sŵn fel chamber pop, “math o indie rock ond efo llai o gitârs distorted a mwy o piano, vocal harmonies a threfniadau mwy cymleth. Mae llawer o’r bandiau yma’n defnyddio llinynnau, offerynnau pres a sŵn eitha cerddorfaol – ’swn i’n leicio ’neud mwy o hyn ond does gennym ni ddim mo’r budget ar hyn o bryd!” Rhestra The National, Elbow, Jacob Collier ac Imogen Heap fel dylanwadau. “Mae Elin wedyn yn dod ag ochr mwy soulful i’r miwsig gyda dylanwad cantorion jazz ac artistiaid fel London Grammar. O ran stwff Cymraeg, artistiaid fel Yucatan, Cowbois a Cynefin. ’Da ni ’di cael ein cymharu efo Clannad, Coldplay, Snow Patrol a hyd yn oed Queen felly pwy a ŵyr!”
Beth nesaf?
Bydd EP cyntaf Derw, Yr Unig Rhai Sy’n Cofio, allan yn fuan, unwaith y byddant wedi llwyddo i ffilmio perfformiadau byw gyda’r band llawn. Mae albwm ar y gweill hefyd ac yn naturiol mae Dafydd yn edrych ymlaen at gigio’r caneuon. “’Da ni’n methu aros i chwarae’n fyw! Roedd ein gig cynta’ ni wedi ei fwcio dros yr haf ond, fel bob dim arall, gafodd ei ganslo. ’Da ni wedi gweithio efo grŵp gwych o gerddorion ar y miwsig yma a dwi’n methu aros nes cael bod efo’n gilydd eto yn chwarae.”
Endaf
Hanes
A fu artist mwy cynhyrchiol yn ystod y cyfnod clo nag Endaf? Y cynhyrchydd electronig o Gaernarfon oedd yn gyfrifol am rai o draciau mwyaf cofiadwy’r haf. Efallai ei fod yn wyneb newydd i lawer er ei fod wedi bod wrthi ers blynyddoedd. Does dim dwywaith iddo ddod i amlygrwydd pellach yn y deuddeg mis diwethaf ers cael ei enwi yn un o 12 Gorwelion.
“Nesh i gychwyn cynhyrchu music o dan enw iawn fi, Endaf, yn brifysgol rhyw 6 mlynedd yn ôl rŵan ar ôl dechrau arbrofi ar gwrs music tech yn Coleg Menai. Oedd tracs cyntaf Endaf yn reit chilled ac wedi’i dylanwadu gan artistiaid fel James Blake, Ifan Dafydd etc. ond tra o’n i’n cynhyrchu tracs chilled, o’n i o hyd yn DJio tracs mwy bywiog house, disco a techno mewn nightclubs ag yn rhedeg event fi sef High Grade Grooves.”
Sŵn
Wedi i Gorwelion ddadorchuddio’i botensial, aeth Endaf ati i gyfuno’r ochr DJio cerddoriaeth house a’r cynhyrchu electronig. “Dwi wedi llwyddo erbyn hyn a dwi’n perfformio live set sy’n cynnwys drum machine, sampler, synths, sequencers, FX pedals a MIDI Controllers i greu tracs hollol improvised yn fyw, a hefyd yn ailgymysgu tracs fi a pobl arall ar y spot. Mae’r set up a’r ffordd yma o berfformio wedi siapio fy sŵn newydd i; rhythms house music ac elfennau eitha jazzy fel yn ‘Dan Dy Draed’ efo Ifan Pritchard, ac mae o’i weld yn winning combination achos odd o’n Drac Yr Wythnos ar Radio Cymru.”
Ers creu’r set fyw, mae Endaf wedi perfformio yn Stiwdios Maida Vale y BBC ac wedi creu cwpwl o mixes i Radio Cymru, ble mae o’n defnyddio drum machine ar ben tracs Cymraeg i’w cymysgu nhw efo’i gilydd fel set DJ. Gwnaeth un i raglen Huw Stephens ac un arall fel rhan o’r Ŵyl AmGen. Ail-gymysgodd draciau gan Alffa, Mellt, Gwilym ac Adwaith ar gyfer Gŵyl AmGen hefyd a chyn hynny ailgymysgu tair o glasuron Endaf Emlyn. Os wnewch i un peth heddiw, ewch i wrando ar y ddau Endaf yn cyfuno ar ‘Nol i’r Fro’. Chwalu. Pen.
Beth nesaf?
Canolbwyntio ar draciau gwreiddiol yw bwriad Endaf dros y misoedd nesaf gan barhau i gydweithio efo amrywiaeth o artistiaid Cymraeg. Ac yn naturiol, ag yntau wedi creu cymaint yn y cyfnod clo, mae’n torri ei fol eisiau chwarae’n fyw eto. “Dwi’n methu disgwyl i gael chwarae gigs eto, lle fyddai’n DJ a chwarae’n live set newydd yn cynnwys yr holl content sydd wedi dod allan o’r lockdown.” Pan fydd hynny’n digwydd, ewch da chi.