4 minute read
Casi Wyn
by Y Selar
Bwriad yr eitem hon yw dysgu mwy am ysbrydoliaeth a dylanwadau rhai o wynebau cyfarwydd y sin. Pa berson, digwyddiad a lle sydd wedi eu dylanwadu? Pa gyfnod sydd wedi eu hysbrydoli? Pam eu bod yn gwneud cerddoriaeth?
Yn ymgymryd â’r her y tro hwn y mae Casi Wyn. Yr artist amryddawn yw un o’n cantorion mwyaf eithriadol. Boed yn cyfansoddi pop perffaith neu’n rhoi egni newydd i hen glasuron gyda’i threfniannau cyfoes, mae angerdd ac emosiwn yn llenwi popeth mae hi’n ei wneud.
Advertisement
Bu’n rhan o brosiect cydweithredol aml gyfrwng Codi Pais, Codi Pontydd yn ddiweddar gan brofi eto ei bod yn artist yn wir ystyr y gair. Ond beth sydd wedi ffurfio hyn, beth sydd wedi dylanwadu a llywio gyrfa gerddorol Casi Wyn?
Pwy? Llawer gormod o bobl i’w henwi. Rydw i wedi bod yn eithriadol o lwcus dros y blynyddoedd o dderbyn cefnogaeth i ’ngyrfa gerddorol ers yn ddim o beth. Mam, siŵr o fod, sydd wedi cael y dylanwad diwylliannol a cherddorol mwyaf arnaf. Pan ro’n i’n iau mi fydda hi’n fy ngyrru draw at Gwennant Pyrs i ddysgu alawon cerdd dant ar geinciau hardd a chain, a ’mharatoi i gystadlu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd gan amlaf. Ar y pryd doeddwn i’m wir yn gwybod pam mod i’n mynychu’r gwersi, jest yn mwynhau dysgu a chanu’r farddoniaeth. Yn hwyrach wedyn ro’n i’n mynd at Elen Keen pob wythnos i ganu amryw ganeuon, mae Elen yn gerddor o’r Bala ac yn bianyddes tu hwnt o ddawnus. Yn aml ro’n i’n gorfod dysgu caneuon clasurol ar gyfer yr unawdau a chystadlaethau, o adlewyrchu rŵan, rydw i’n ffodus iawn o fod wedi fy nghyflwyno i’r gweithiau hynny o oedran mor ifanc. Mae’r alawon, y farddoniaeth a’r gweithiau clasurol, a thraddodiadol, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn fy is-ymwybod bellach ac yn llunio’r ffordd dwi’n gweld a chreu.
Beth? Yr Urdd a’r Ŵyl Gerdd Dant heb os. Cyfleoedd cwbl unigryw a bisâr i fod yn rhan ohonynt tra ro’n i’n yr ysgol. Yna pan ro’n i’n tua blwyddyn 5 yn Ysgol y Garnedd mi ges i fy mhâr cyntaf o dreinyrs Nike a chychwyn gwrando ar Justin Timberlake a 50 Cent. Fe newidiodd pethau’n f’agwedd tuag at y byd yr adeg hynny. Does ’na’m geiriau i egluro’r wefr ro’n i’n deimlo tra’n fflicio drwy sianeli fideo MTV, Kiss a TMF erstalwm. Ac mae’r ffordd roedd Timbaland yn gwneud mi deimlo’n rhywbeth arall. Roedd rap, hip hop ac R ‘n’ B yn gwbl estron i’r glust bryd hynny, ond ro’n i’n uniaethu gyda’r curiadau a’r llif. Ro’n i’n teimlo’n fwy rhydd wrth ganu’r gerddoriaeth yma, er mewn rhyw ffordd anarferol roeddent yn ymdebygu i’r emynau a’r alawon gwerin roeddwn i’n eu canu. O edrych nôl, roedd hi fel taswn i’n byw dau fywyd cerddorol bryd hynny, y ddeuoliaeth honno rhwng cyfoeth traddodiad ochr yn ochr â diwylliant cyfoes, sy’n fwy arwynebol ac arloesol. Yn ystod y dydd, “tali tali tali/ bu farw’r hen Shôn Parri / wedi osod ar y sgrîn / a’i ddau benlin i fyny / tali tali tali tali tali” oedd yn cymryd fy mryd; ond o 3:30 ymlaen “ey-o I’m tired of using technologehey, won’t you sit down on top of me” oedd y dôn.
Lle? Mae Bangor yn agos iawn at fy nghalon ac felly’n fangre bwysig iawn imi! O’r addysg werthfawr imi ei derbyn gan athrawon y Garnedd ac Ysgol Tryfan i’m hatgofion o Ysgol Sul Capel y Graig a Berea Newydd, dyma ardal sydd wedi fy siapio ym mhob agwedd. Ma’ Bangor yn gyffredinol yn cael ei hesgeuluso dwi’n teimlo, dwi’n meddwl achos mai Caernarfon sy’n cael ei chydnabod fel yr ardal bennaf ddiwylliannol Gymreig, mae dinas Bangor a’r amrywiaeth a’r difyrrwch mae hi’n ei gynnig yn cael ei anghofio! Ar ôl y cyfnod clo yn ddiweddar mi ddychwelais adref ar ôl dros bedwar mis o fod ffwrdd ac roedd hynny i mi’n dipyn o beth. Mae’r stryd fawr yn teimlo mor gynnes i mi rwan, er bod siopau’n cau yno ac yn ôl rhai ei bod hi’n teimlo’n reit dlotaidd, i mi mae’r ardal yn un sinema o ddelweddau. Mi ges i amser mor dda gyda fy ffrindiau chweched dosbarth ym Mangor Uchaf, a’r criw olaf i berfformio yn Theatr Gwynedd hefyd, fel ’mod i’n gweld trysor ym mhob congl o’r ddinas.
Pryd? Cwestiwn difyr. Pan ro’n i’n tua 16 oed, ro’n i newydd gwblhau cwrs haf gyda National Youth Theatre of Wales ac ar drothwy fy addysg chweched dosbarth ac mi ges i wahoddiad i glyweld am ran Dorothy gyda rhaglen Andrew Lloyd Webber (Over the Rainbow, BBC). Es i lawr o tua deng mil o Ddorotheiaid i’r 40 terfynol, ac roedd y profiad yma’n ryw fath o drobwynt cyffredinol o wybod fy mod i eisiau cychwyn ysgrifennu a chyfansoddi pethau gwreiddiol. Un o’r heriau inni eu derbyn fel rhan o’r rowndiau olaf oedd darllen rhan Dorothy yn siarad gyda’r ci Toto ac roedd pawb o ’nghwmpas yn dynwared acen Americanaidd drom y ffilm wreiddiol, a dwi’n cofio darllen y sgript yn f’acen fy hun a phawb o ’nghwmpas yn ymateb yn gymharol chwithig i ’mherfformiad. Ond ia, dyna drobwynt, pan ddywedodd Graham Norton “Will Dorothy be Welsh speaking like Casi from Bangor?” Wel, mwy na thebyg ddim Graham, gan fod angen i’r cynhyrchiad werthu miloedd o docynnau i gynulleidfaoedd anglo-americanaidd 7 gwaith yr wythnos yn y West End. Tro bwynt.
Pam? Does gen i’m syniad. Pam bod dafad yn brefu? Pam bod dail yn disgyn? Pam bod siocled yn blasu cystal? Tydw i ddim yn gymwys i ateb y cwestiwn. Pe bawn i’n byw bywyd arall, neu os i mi fyw unrhyw fywyd cyn yr un yma, does dim amheuaeth yn fy nghalon mai cantores fyswn i ym mhob un.