Chwarae dros Gymru | Hydref 2020 | 5
Hwyl yn yr ardd – adolygiad Yn y rhifyn diwethaf o Chwarae dros Gymru, fe wnaethom adrodd am lansiad ein hail lyfr stori ar gyfer plant ysgol gynradd a rheini, sy’n cefnogi plant i gael mynediad i’w hawl i chwarae ac i rieni eiriol dros chwarae’n lleol. Fe ofynnom i Flwyddyn 6 Ysgol Gynradd Tonysguboriau, Rhondda Cynon Taf, i adolygu llyfr stori Hwyl yn yr ardd. Dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud. ‘Mae’r stori yn un mor dda. Yn bendant, mae gan y bobl ysgrifennodd y stori hon ddychymyg gwych. Mae’r stori gyfan am chwarae a chael hwyl, mae'n rhaid bod yr awduron wedi chwarae pan oedden nhw’n iau.’ Roedd y mwyafrif o’r plant yn y dosbarth wrth eu bodd gyda’r llyfr a’i gymeriadau. Roedden nhw’n arbennig o hoff o’r darluniadau yn y llyfr gan eu bod yn helpu i ddod â’r stori’n fyw ac yn darlunio’n union sut oedd y cymeriadau’n teimlo trwy eu mynegiant. ‘Dwi’n credu bod y lluniau’n greadigol, yn hwyl ac yn llawen iawn. Rwy’n hoffi’r lliwiau llachar a’r emosiwn sydd ynddo. Rwy’n meddwl hefyd ei fod yn llyfr gwych i blant ei ddarllen a’i fwynhau.’ Roedd y dosbarth wrth eu bodd gyda chymeriad ^ Mam-gu ac yn credu ei bod hi’n hwyl ac yn cwl, ond fe gafon nhw eu synnu pan ddysgon nhw am ei chefndir a phwy oedd hi yn y gorffennol. Fe wnaeth y dosbarth hefyd geisio deall pam fod Miss Grizzle yn casáu chwarae ac roedden nhw’n falch ei bod hi wedi newid ei meddwl am roi stop ar chwarae erbyn diwedd y stori. ‘Mae’r darluniadau yn wych; mae’r lluniau’n glir a lliwgar. Dwi’n hoff iawn o’r darn yn y cefn ble mae rhaid ichi chwilio am Miss Grizzle.’
Roedd y dosbarth i gyd yn cytuno bod gwers y stori, bod gan blant hawl i chwarae, yn wirioneddol bwysig i blant ac oedolion wybod amdani yn ogystal â bod chwarae’n bwysig i bawb ac yn helpu gyda gwneud ffrindiau, iechyd meddwl, gwneud ichi wenu ac yn HWYL. ‘Mae’r stori’n gywir, mae gan bawb hawl i chwarae, dylai pawb gael hwyl, roedd y stori’n wych.’
‘Roeddwn i’n hoffi’r stori oherwydd roedd yn dysgu plant bod ganddyn nhw hawl i chwarae ac all neb eu stopio nhw hyd yn oed os bydd pobl yn mynd â’ch pethau chi i gyd, fe allwch chi ddal i chwarae tic a gemau eraill sydd ddim angen offer.’
Fel rhan o’n cefnogaeth yn ystod y pandemig coronafeirws, cyflwynodd Chwarae Cymru dros 6000 o gopïau o Hwyl yn yr ardd i blant a theuluoedd ledled Cymru, gyda chymorth ein cydweithwyr yn y gwasanaethau chwarae, plant a theuluoedd.