Tŷ Hafan Cwtsh Cylchlythyr Haf 2022

Page 14

cwtch

Y newyddion a’r straeon diweddaraf gan t ŷ hafan

www.tyhafan.org

rydym wedi gweld eich eisiau… …felly, roedd yn bleser llwyr croesawu pawb yn ôl i ddigwyddiadau gyda phobl eraill gyda Nadolig yn y Gadeirlan, mewn pryd i groesawu cyfnod y Nadolig.

Ymunodd y cyflwynydd teledu Lucy Owen â ni, gan gyflwyno’r noson a oedd yn cynnwys perfformiadau gwych gan Gôr Cadeirlan Metropolitanaidd Caerdydd a Chôr Meibion Treorci. Heb os nac oni bai, seren y noson oedd Seth, a oedd newydd ddod y person cyntaf sy’n defnyddio cadair olwyn i ymuno â’r Senedd fel un o’r 60 o bobl ifanc a etholwyd i Senedd Ieuenctid Cymru (gallwch ddarllen mwy am Seth ar dudalen 6). Darllenodd Seth “Christmas Wish for You” gan Kristen M Saccardi o flaen y gynulleidfa o 230 o bobl (heb gynnwys aelodau’r côr), a chafwyd darlleniad hefyd o’r gerdd, “Megan’s First Snow” gan yr Athro Tony Curtis. Mae’r gerdd yn dod o antholeg yr Athro Curtis: Where the Birds Sing Our Names: Anthology ar gyfer T ŷ Hafan, sydd ar gael i’w phrynu a’r holl elw yn mynd i Tŷ Hafan.

admiral anhygoel Roedd Tŷ Hafan yn un o naw elusen i dderbyn anrheg Nadolig gan y cwmni gwasanaethau ariannol o Gymru Admiral, sydd wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau ac elusennau yr effeithiodd y pandemig arnyn nhw. Daeth rhodd anhygoel Admiral o £38,000 i Tŷ Hafan ychydig cyn y Nadolig oherwydd i’r staff ein dewis yn un o’r elusennau a fyddai’n derbyn arian o’u Cronfa Cymorth Covid-19. Dyma a ddywedodd Nicki Burns, Cynorthwyydd Gweithredol yn Admiral am Tŷ Hafan: ‘’Rydym wrth ein bodd â’r hyn yr ydych chi’n ei wneud. Mae ein staff wedi eich enwebu chi. Rydych chi’n gwasanaethu’r ardaloedd daearyddol lle mae llawer o’n staff yn byw, ac mae ein teuluoedd wedi defnyddio eich gwasanaethau. Rydych chi’n gwneud gwaith anhygoel i gefnogi plant a’u teuluoedd yn ogystal â’r cymorth yr ydych yn ei roi i wirfoddolwyr. Mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith â’n diben.’’ Mae staff Admiral wedi cefnogi Tŷ Hafanmewn sawl ffordd dros y blynyddoedd, gan roi mwy na £250,000 i’r elusen.

Os hoffech chi a’ch cwmni gefnogi Tŷ Hafan – ewch i’n gwefan neu sganiwch y cod QR. 14

Gallwch brynu “Where the Birds Sing Our Names” yma neu ewch i’n gwefan i gael manylion

deilen arian i blair Mae gan Blair Lundie – sydd wedi bod yn cefnogi Tŷ Hafan ers i ni agor ein drysau ym 1999 – lu o syniadau ar gyfer helpu’r elusen. Cyn y Nadolig, trodd ei ddwylo talentog i saernïo a phaentio pren i greu amrywiaeth o nwyddau poblogaidd ar gyfer y Nadolig. Mae ei holl ddeunyddiau yn rhai lleol. Mae’n cerfio ac yn sgwrio’r pren, yn paentio golygfeydd Nadoligaidd gyda’i chwaer Liz, ac yna’n treulio’i amser hamdden yn gwerthu’r hyn y maen nhw wedi’i wneud mewn ffeiriau ysgol a marchnadoedd Nadolig yn y cymoedd. Mae e’ hyd yn oed yn defnyddio’r amser gyda’i gwsmeriaid i ddweud wrthyn nhw am Tŷ Hafan. Mae Blair yn dweud ei fod wedi dechrau gwneud a gwerthu crefftau fel ffordd wahanol o’n cefnogi ni ar ôl rhoi’r gorau i redeg dwy flynedd yn ôl. Mae Blair wedi cefnogi Tŷ Hafan mewn sawl ffordd dros y 25 mlynedd ddiwethaf, gan redeg rasau, gan gynnwys Marathon Llundain, a gwneud teithiau cerdded fel ein taith i Wal fawr Tsieina yn ôl yn 2017. Dros y blynyddoedd mae Blair wedi codi degau o filoedd o bunnoedd ar ein cyfer ac roeddem wrth ein bodd i gyflwyno deilen arian iddo ar ein coeden anrhegion arbennig i gydnabod ei waith codi arian a’r gefnogaeth y mae wedi’i rhoi i ni.

Cadwch lygad am grefftau Pasg cyn bo hir! Sut gallwch chi godi arian ar ein cyfer ni


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.