Rhif 59 // HYDREF // 2020
Mared
Dyma dy le Diwrnod Agored Ar-lein: Dydd Mercher 25 Tachwedd rhwng 10:00-12:00 a 18:00-20:00
Cofrestrwch heddiw - www.aber.ac.uk/daa
PRIFYSGOL Y FLWYDDYN YNG NGHYMRU
105210-1020
CANLLAW PRIFYSGOLION DA 2020
y Selar Rhif 59 // HYDREF // 2020
Golygyddol
cynnwys
S
u’mai, sori ein bod ni’n hwyr! Ond ’doedd yna fawr o bwynt cael rhifyn Steddfod heb Steddfod. Dim ond un o’r pethau i ddiflannu i dywyllwch y flwyddyn ryfedd hon a oedd y brifwyl yn Nhregaron. Mae pandemig Covid-19 wedi effeithio popeth a dyw cerddoriaeth Gymraeg ddim yn eithriad. Fel nifer o’r celfyddydau eraill, mae miwsig wedi ei chael hi’n galed. Mae sin fach fel yr un Gymraeg yn ddibynnol iawn ar yr ochr fyw ac mae honno wedi diflannu dros nos heb arwydd y bydd hi’n nôl yn fuan. Ond peidiwch â digalonni gormod, mae cerddorion Cymru’n griw gwydn a dyfeisgar. Maent wedi arbrofi, addasu a chydweithio, ac wedi parhau i greu gan ein diddanu ni i gyd pan yr oedd angen rhywbeth i godi calon. Fe ddaw amser i ni dalu’r ffafr yn ôl wrth fynd i gigs yn ein heidiau unwaith eto pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny. Tan hynny, parhewch i wrando ar, (a PHRYNWCH!) eu cerddoriaeth. Gwilym Dwyfor
Rhys Gwynfor
4
Sgwrs Sydyn - Carw
8
Mared
10
Newydd ar y Sin
14
Casi Wyn
16
Deud ei ddeud - Gai Toms
18 20
Adolygiadau
Llun clawr: Daf Nant
4
10
14
GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)
@y_selar
DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)
yselar.cymru
HYSBYSEBION yselar@live.co.uk CYFRANWYR Lois Gwenllian, Aur Bleddyn, Bethan Williams, Tegwen Bruce-Deans, Elain Llwyd, Awen Schiavone, Lloyd Steel, Gai Toms, Dylan Williams, Ifan Prys
26
facebook.com/cylchgrawnyselar
Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau.’
Lluniau: Daf Nant
“’Di o ddim yn dod yn naturiol i mi o gwbl ond mae o’n fater o raid.” 4
yselar.cymru
Heddiw fues i... mewn gardd ’fo
Gan wybod bod albwm ar y gweill, mae Y Selar wedi bod yn holi Rhys Gwynfor am gyfweliad ers... sbel. Pan glywsom ni felly ei fod wedi bod yn ôl i’r stiwdio’n ddiweddar a bod pethau’n dechrau symud eto, penderfynom fynd am sgwrs i weld os fyddai siarad am y peth yn rhoi’r hwb olaf hwnnw iddo! Geiriau: Gwilym Dwyfor
D
iwrnod braf o Fedi a oedd hi pan dderbyniais wahoddiad, cymdeithasol bell, i ardd gefn Rhys yn ei gartref ef a Lisa (Angharad) yn Grangetown, Caerdydd. (Oes, mae ‘gardd ar ei eiddo’!) Derbyniais y gwahoddiad am gan o lager hefyd felly dyna lle’r oeddan ni’n dau yn yfed ar bnawn dydd Llun fel dau ecstra yn y Deri Arms, a rhaid oedd dechrau gyda’r cyfarchiad newydd, “Sut locdown?” “Dwi’n gweithio o adre pryn bynnag felly wnaeth dim llawer o ddim byd newid i mi,” eglurodd y canwr sy’n wreiddiol o Glan-yr-afon ger Corwen. “Dwi wedi bod yn lwcus. Dwi wedi gwneud lot o waith ar y tŷ ac wedi cyfansoddi un gân. Dydw i ddim yn gynhyrchiol iawn pryn bynnag. Mae’r ratio wedi aros yr un fath! Ond mae’r un gân dwi wedi ei sgwennu, ‘Adar y Nos’ yn bum munud a hanner. Dwi newydd ei recordio hi yn Sain efo Osian [Williams] ac Ifan [Emlyn], a Carwyn Williams ar y drwms.” Roedd Rhys yn ffodus i wneud un peth a oedd yn ddigalon o brin yn ystod y cyfnod clo hefyd, sef chwarae set fyw, a hynny yn Tafwyl. “Fe wnaeth hynny dorri ar yr haf a golygu ein bod ni wedi cael mynd allan o’r tŷ. [Oherwydd y cyfyngiadau teithio] fe wnaeth Ifan Prys [Cledrau] chwarae gitâr i ni felly roedd o’n stripped back, fi’n canu, Lisa ar y piano ac Ifan ar gitâr. Gawsom ni ymarfer socially distanced ac wedyn chwarae. “Un peth braf amdano fo, nid fod yn well gen i chwarae i gamera na chynulleidfa o gwbl, ond pan dwi’n chwarae dwi’n dechre zone-io i mewn ar bobl sydd wedi colli diddordeb! A ti’n dechrau colli hyder yn dy hun wedyn, so do’dd hynny ddim yn digwydd, jyst
sbio i mewn i’r lens a mwynhau dy hun, ac fe wnaethon ni fwynhau hefyd. Roedd o’n braf, mor broffesiynol, o’dd pawb yn gwbod be’ oeddan nhw’n ei wneud, oeddat ti i mewn ac allan yn sydyn ac yn ôl adra o fewn hanner awr yn gwylio’r band nesa.”
Y terfyn o fewn golwg Mae Rhys eisoes wedi rhyddhau pedair sengl fydd ar yr albwm, y diweddaraf o’r rheiny, ‘Esgyrn Eira’, nôl ym mis Ionawr. “Mae hynny wedi cymryd tua dwy flynedd. Mae ’na flwyddyn ers ‘Bydd Wych’ ac roedd ‘Capten’ a ‘Canolfan Arddio’ wedi bod cyn hynny. Mae’r amserlen yn wallgo, dio’m yn wych, ond fel’na mae o’n dod ar hyn o bryd. Dwi’n wael am drefnu’n amser stiwdio, ond pan dwi wedi bod yn mynd dwi wedi bod yn recordio sengl a thrac i’r albwm hefyd. Ella fysa’r pwysau o fwcio pythefnos cyfan yn helpu ond dwi’m yn gwbod pa mor organig fysa’r caneuon wedyn. Dwi’n eithaf hapus efo’r drefn yma o weithio ar ganeuon dros gyfnod hir.” yselar.cymru
5
Y bwriad yw paratoi ychydig o ganeuon newydd erbyn ei ymweliad nesaf â’r stiwdio ac fe ddylai’r llinell derfyn fod o fewn golwg wedyn. “’Da ni’n bendant yn agosáu. Dwi ddim eisiau rhyddhau albwm sy’n llawn senglau. Dwi angen ambell drac albwm hefyd. Geith y gynulleidfa a’r radio benderfynu wedyn. Wrth i ti ddechrau llunio cân, ti’n dechrau meddwl, ydi hon yn mynd i fod yn sengl? Ydi hi ddigon catchy, ddigon difyr neu ydi hi am fod yn album track? Ti’n gwbod bod ti’n licio’i hi ond ti’n colli pob persbectif achos ti’n ei nabod hi mor dda. Mae ‘Adar y Nos’ yn gân hir self-indulgent ofnadwy ond erbyn hyd dwi’n licio hi ac yn meddwl ei bod hi’n sengl! Ma’ rhai pobl yn cytuno a lleill yn deud ceith hi fynd i chwarae!” Bu rhaid gohirio un sesiwn stiwdio o’r gwanwyn tan fis Awst oherwydd y pandemig ac mae hynny wedi gosod popeth yn ôl un cam. Er nad yw’n rhoi gormod o bwysau arno’i hun, mae’n amlwg fod Rhys yn awyddus i symud pethau ymlaen erbyn hyn a rhyddhau rhywbeth swmpus. Eglura ei fod yn gweithio’n well gyda ded-lein felly lle’n well i ymroi i ddyddiad nag mewn print rhwng cloriau’r Selar?! “Iawn,” chwardda, cyn mentro’n betrusgar... “1af... o Fedi... 2021! Na... nawn ni jyst deud flwyddyn nesaf. Dwi’n meddwl ’bydd pobl yn dechre cal llond bol o’r sengle ma’n dod allan o hyd efo hanner blwyddyn a mwy rhyngddyn nhw. Dwi’n meddwl, er mwyn pawb, ’mod i angen sortio fo rŵan!”
Canfod y steil Alawon cryf y piano sy’n rhoi hunaniaeth i ganeuon Rhys wrth i’w eiriau cofiadwy amrywio’n annisgwyl o’r dwys i’r doniol o un gân i’r llall. A mwy o hynny a fydd ar y record hir. “Mae’r sengl nesaf yn gân o’r enw ‘Freddie’ am ein cath fach ni, Freddie! Ma’ honne’n dri munud a hanner poppy. Mae ‘Adar y Nos’ wedyn yn debycach i ‘Capten’, sŵn 6
yselar.cymru
mwy trydanol, electric piano a drum pads, autotune ar y lleisiau, cychwyn a gorffen efo roc eitha’ trwm. Dwi’n licio caneuon pop ond dwi hefyd yn licio’r caneuon hirach mwy indulgent felly cymysgedd o’r ddau fydd o. O’n i’n arfer deud ’mod i’n gneud ’chydig o steils gwahanol ond roedd hynny pan o’n i ddim yn gwbod be’ odd fy steil i.” Rhan fawr o ganfod y steil hwnnw oedd perthynas dda gydag Ifan ac Osian Drwm. “Dwi’n gneud demos eitha’ gorffenedig o ran sŵn ond ddim o ran y chwarae. Dwi’m yn chwarae gitâr felly mae gitâr y demos i gyd yn gordie ar MIDI sydd ddim yn swnio’n dda iawn. Ond ma’n ddigon i roi syniad i Ifan, rhwng hynny a’i fod o’n gwbod be’ dwi’n ei licio mae o’n gallu gneud be’ dwi isho heb i mi ofyn bron. ’Da ni wedi gweithio lot dros y blynyddoedd felly ma’ ’na system dda o weithio yna. Mae Carwyn yn wych hefyd achos dwi’n gwbod llai am ddryms nag ydw i am gitârs!” Does dim syndod fod y berthynas gystal o ystyried fod Rhys yn adnabod Ifan ers Ysgol Feithrin ac Osian ers blwyddyn 7 Ysgol y Berwyn! “Mae o’n gneud pethe’n haws,” meddai. “Pan ’da ni’n mynd i’r stiwdio ’da ni’n gwbod be’ ’di diwedd y daith heb orfod gofyn gormod o gwestiyne, jyst neud o. A dwi’n meddwl ein bod ni gyd yn joio’r broses, dwi bendant yn, cael mynd i recordio’r caneuon bach gwirion ’ma dwi’n eu gneud ar keyboard MIDI yn stiwdio Sain efo’r cerddorion gwych ’ma. Er mod i’n ffrindie efo nhw ers erioed, dwi byth yn anghofio eu bod nhw’n gerddorion talentog ac yn gynhyrchwyr sy’n gwybod be’ ma’ nhw’n ei wneud. “Dwi’n lwcus iawn ohonyn nhw. Ac efo Carwyn a Lisa hefyd, dwi’n lwcus fod y band i gyd yn gerddorion proffesiynol. Fi ydi’r unig un sydd ddim yn gweithio fel cerddor proffesiynol.”
Y Perfformiwr Efallai nad canu yw bara menyn Rhys ond mae un peth yn sicr, mae’n berfformiwr heb ei ail! Roeddwn i’n feirniad Cân i Gymru yn 2013 pan enillodd Jessop a’r Sgweiri gyda ‘Mynd i Gorwen hefo Alys’ a dwi’n cofio meddwl yn union yr un peth bryd hynny ag y gwnes i saith mlynedd yn ddiweddarach wrth ei wylio yn y Dafwyl rithiol eleni. Am ffryntman. Mae o’n edrych fel ei fod yn wirioneddol mwynhau ei hun ar lwyfan. “Ydw, dwi yn mwynhau perfformio. ’Di o ddim yn dod yn naturiol i mi o gwbl ond mae o’n fater o raid achos ’mod i ddim yn chwarae offeryn ar y llwyfan. Dwi wedi gwneud gigs lle dwi wedi siomi pobl achos bod gen i ddim mo’r hyder yna i ymgolli yn y perfformiad. Mae o’n edrych yn waeth os ti ddim, dyna dwi’n gorfod ei gofio. Mae o’n help fod Osian, Ifan, Lisa a Carwyn efo fi, sy’n bedwar cyfforddus a hyderus iawn ar lwyfan. Yn enwedig Osian, sydd yn un o’r ffryntmans gorau mae Cymru erioed wedi ei gael. ’Da ni wedi treulio amser yn trafod y grefft ac mi fydd o’n fy coachio i, neu yn fy nghanmol i nes dwi’n teimlo ddigon da! Ma’r ego yna yn hiwj yndda’i ond dwi angen rhywun i’w bwydo hi! Ma’ be’ dwi’n ei wisgo yn helpu lot hefyd. Os dwi’n teimlo’n hyderus a chyfforddus yn sut dwi’n edrych mae o’n helpu lot.
“Efo rywun sy’n canu caneuon am ei gath, dwi’n meddwl bod yn rhaid i mi gymryd fy hun yn ysgafn, ar y llwyfan mewn sodle uchel. Ma’ hiwmor yn bwysig i mi, fyse jyst sefyll yno yn shoegazing yn canu am Freddie ddim yn gweithio. “Cân i Gymru oedd y tro cyntaf erioed i mi ganu ar set deledu a dwi’n cofio cael ymarfer a sylwi lle oedd y camera a meddwl mai’r camera sydd yn mynd i fod yn fôtio, nid y cant o bobl yn yr ystafell. Dwi’n cofio trafod fel band bod rhaid cael y cydbwysedd rhwng perfformio i’r gynulleidfa yn y lle ond canolbwyntio ar edrych i fyw llygaid y bobl adre hefyd. Dilyn y gole coch ’ne.” Er cystal perfformiwr ydyw, cymharol brin yw’r cyfleodd i ffans Rhys Gwynfor i brofi hynny. “Dwi’m yn gneud cymaint â hynny o gigs. Mae pethe fel Tafwyl a Steddfod yn gigs mawr neis. Hyd yn oed am 3 o’r gloch ar bnawn dydd Llun yn Steddfod Llanrwst, ma’ ’na dal ddigon o bobl yno. ’Da ni heb wneud lot o gigs bach ar y circuit fel petai ond dwi’n meddwl, os ydan ni’n rhyddhau albwm, fydd yn rhaid i ni. Dwi isho gneud gig lansio mewn rhywle cyfforddus efo cynulleidfa dda ac wedyn gigs llai ar lawr gwlad.” “Pan ddoth Yws Gwynedd o Côsh ata’i gynta odd gen i’r holl ganeuon yma yn fy mhen felly o’n i’n meddwl, reit, fe ga’i rhain allan a fydda i’n done, ga’i stopio boche efo’r busnes plant ifinc ’ma. Dwi’n hŷn erbyn hyn wrth gwrs a dwi’n ddigon hapus efo’r pace dwi’n ei osod. Ond, dwi’m yn meddwl ei fod o’n ffordd o ennyn parch na diddordeb hir dymor gan gynulleidfa. Alli di ddim jyst gneud pethe pan ti awydd, ar ryw bwynt mae’n rhaid i ti feddwl bod gen ti ddyled i’r ychydig o bobl sydd wedi dangos diddordeb yn dy ganeuon di. Amser i wneud rhywbeth. “Ond ar ôl yr albwm yma, ydw i am dreulio pum mlynedd arall yn gwneud albwm hir arall? Dwi’m yn gwbod!”
“Ma’r ego yna yn hiwj yndda’i ond dwi angen rhywun i’w bwydo hi!”
yselar.cymru
7
Sgwrs Sydyn
Nid pêl-droediwr Cymru, Ethan Ampadu, oedd yr unig Gymro i symud i fyw i Leipzig llynedd. Yn ninas fwyaf hipster yr Almaen y mae Owain Griffiths bellach yn byw hefyd. Mae wedi parhau i greu cerddoriaeth o dan yr enw Carw ers yr adleoli, a gyda’i ail albwm yn cael ei ryddhau dros yr haf, roedd hi’n amser i Y Selar gysylltu am schnelles gespräch, neu Sgwrs Sydyn. Albwm newydd, Maske allan ers mis Awst, sut ymateb hyd yma? Iawn dwi’n meddwl. Does neb ’di deud bod nhw’n ei chasáu hi eto, so ma’ hynna’n galonogol. Lle a phryd fuest ti wrthi’n recordio? Nes i recordio popeth yn y fflat llynedd. Ar ba fformat ac yn lle mae’r albwm ar gael? Yn ddigidol yn unig, o wefan Recordiau BLINC, Bandcamp, iTunes ayyb. A’r cwestiwn pwysicaf, i’r rhai sydd heb wrando eto, beth all y gwrandawyr ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Eitha’ egnïol. Electronig. Ma’n albwm offerynnol felly gwahanol i Skin Shed ond mae elfennau tebyg fel y percussion a darnau arpeggiated synth. Gair Almaeneg am fwgwd yw Maske, a ‘Mwgwd’ yw enw un o’r traciau ar y casgliad hefyd. Pwnc amserol iawn ar hyn o bryd ond roedd yr albwm yma ar y gweill cyn hynny felly eglura ychydig o arwyddocâd y thema. Mae’r albwm yn ymateb i’r teimlad o fod yn ddiarth, yn anweledig. O’n i’n gweld pobl o’n i’n meddwl ’mod i’n nabod o hyd. Ar y stryd ayyb. Yn amlwg doedden nhw ddim yn fy nabod i ac o hyn y daeth y syniad. Y teimlad ’mod i’n gwisgo mwgwd pob dydd. Mae’r pandemig rhyngwladol wedi gorfodi cerddorion i gydweithio mewn ffyrdd gwahanol ond fel artist unigol sy’n byw mewn gwlad arall pryn bynnag, a wnaeth o effeithio ar y broses o recordio a rhyddhau i ti o gwbl? Na, ddim o gwbl. ’Oeddwn i ‘di penderfynu neud y recordio, cynhyrchu a’r cymysgu i gyd fy hun eniwe, felly dim ond yr ôl-gynhyrchu oedd angen ei anfon i Llion (Robertson). Doedd na’m deadline na dim byd felly.
8
yselar.cymru
Fe wnes di ryddhau ‘Gorwel’ ac ‘Amrant’ fel senglau. Sut ymateb a gafodd y traciau hynny? Anodd deud. Dwi ’di cael feedback neis gan ffrindie a rhai pobl dwi’m yn nabod. A ma’ nhw ’di ymddangos ar y radio a playlists ayyb. Wyt ti wedi cael unrhyw airplay yn yr Almaen? Dim syniad! Roedd yna fideos i gydfynd a’r traciau hynny ac mae yna elfen weledol i gydfynd â phob trac ar Maske. Ti sy’n gyfrifol am y rheiny hefyd, sôn ychydig am y broses o’u creu. Ie, ges i’r syniad o neud visuals/fideos i fynd efo’r tracs felly es i ati i ddysgu’n hun sut i greu pethau syml ar feddalwedd animeiddio. Nes i ddysgu lot. Ma’ nhw eitha’ rough around the edges ond dwi’n hoffi hynna. Oedd y broses yn wahanol ar gyfer pob fideo. Doedd gen i ddim cynllun penodol sut ddylai’r fideos gorffenedig fod. Jest lot o arbrofi. Ti’n rhyddhau Maske cwpl o flynyddoedd ers albwm cyntaf Carw, Skin Shed, ydi’r hen ystrydeb am “yr ail albwm anodd” yn wir? Mae’r albwm yma ychydig yn wahanol yn y ffaith ei bod hi’n gwbl offerynnol a’r record gynta’ i mi ei chynhyrchu ar ben fy hun , felly dwi’n meddwl nes i frwydro gyda rhai agweddau a oedd yn newydd i mi ond nid achos ei bod hi’n ail albwm. Jest achos oedd rhaid i fi feddwl mwy am bethe. Sut fyddet ti’n dweud y mae sŵn Carw wedi newid yn y cyfnod hwnnw? Llai o guitars? Mwy o cowbell? Fe symudaist i Leipzig yn yr amser yna, sut mae byw mewn lle gwahanol, efo diwylliant gwahanol yn dylanwadu arnat ti fel artist? Mae’r holl albwm yn ymateb i’r ffaith ’mod i yma mewn lle diarth. Mae’r pace of life ychydig yn wahanol yma sydd wedi newid fy agwedd tuag at brosiectau creadigol. Ma’ cwrdd pobl newydd a gweld llefydd newydd yn beth da ar gyfer ysbrydoliaeth.
Mae Leipzing yn cael ei adnabod fel un o ganolfannau celfyddydol mwyaf blaengar Ewrop, oedd hynny’n rhan o apêl y lle? Oedd yn bendant. Ma’ ‘na dipyn yn mynd ymlaen yma o ran y celfyddydau a dydy hi ddim yn ddinas anferth felly ma’ hynna’n neis. Gyda’i hanes cyfoethog o gerddoriaeth electronig, mae rhywun yn cysylltu electro gyda’r Almaen ac yn dychmygu ei bod hi’n sin enfawr yno. Ydi hynny’n wir o hyd neu ydi hwnnw’n dipyn o cliché? Ma’ ’na lwyth o gynhyrchwyr a DJs yma felly ma’ ‘na dipyn o gerddoriaeth electronig o gwmpas. Mae hip hop yn boblogaidd yma hefyd. Yn Leipzig be’ bynnag.
Hoff albyms I orffen, beth yw dy hoff albyms yn y categorïau isod. Hoff ail albwm? Pass! Rhy anodd! Hoff albwm ag enw Almaeneg? Die Mensch-Maschine - Kraftwerk Hoff albwm gan artist neu fand sydd ag anifail yn eu henw? Through The Green - Tiger & Woods
I ddychwelyd at Maske, pa fath o gerddoriaeth oeddet ti’n gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio ac oes yna rhai o’r dylanwadau hynny i’w clywed yn y cynnyrch terfynol? Bob math o bethe. House, ambient, techno, gwerin, pop, soul. Ma’n siŵr bod elfennau o’r gerddoriaeth yma wedi sleifio i mewn i’r albwm yn rhywle! Oes gen ti hoff gân o blith y casgliad, a pham? hmmmm... ‘Hier’ wyrach? Nes i fwynhau sgwennu’r bass line. Pa gân oedd y sialens fwyaf neu pa un wyt ti fwyaf balch ohoni? ‘SL’ oedd y sialens fwya’ os dwi’n cofio’n iawn. Oedd cael y cydbwysedd gyda’r holl synau yn broses heriol. Yn amlwg, mae’r pandemig wedi rhoi stop ar unrhyw fath o gerddoriaeth byw am sbel ond oes yna gynlluniau o ran gigio’r deunydd newydd yma pan fydd hynny’n bosib? Gobeithio. Dwi heb chware’n fyw ers oes. Dwi angen gweithio ar sut dwi am neud yn fyw... Lle fydd hynny? Ti’n bwriadau dychwelyd i chwarae yng Nghymru? Ma’ ’na lefydd yma yn Leipzig. Fyswn i wrth fy modd chware yng Nghymru, ond dim cynlluniau hyd yn hyn. Beth fyddai’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar yr albwm? Dawnsio.
Llun: Dana Ersing
Gwertha’r record i ni mewn pum gair! Plîs prynwch fy albwm i.
Mae Y Selar wedi bod yn dilyn gyrfa Mared Williams ers y dyddiau cynnar gyda’r Trwbz a theg dweud ein bod ni, fel pawb arall, wedi gwirioni gyda llais aruthrol y gantores o Lannefydd. Y Drefn, heb os, oedd albwm yr haf a Lois Gwenllian a fu’n holi Mared am ei champwaith.
D
wi’n cofio sefyll yn nhywyllwch Clwb Ifor Bach ym mis Hydref llynedd yn geg agored pan glywais i Mared yn perfformio. Dyna’r tro cyntaf i mi ei chlywed yn fyw a chefais fy syfrdanu ganddi. Mared oedd yn cefnogi Blodau Papur ar eu taith yn hyrwyddo eu halbwm nhw. Yr hyn a’m trawodd i amdani oedd y gwir angerdd yn ei chân, rhywbeth sy’n gallu bod yn brin mewn perfformiadau gan lawer o artistiaid sy’n perfformio’r un set o noson i noson ar daith. Efallai bod hyn yn sgil sydd ganddi fel perfformwraig West End lle mae’n rhaid teimlo’r gân bob dydd, weithiau ddwywaith y dydd a hynny am fisoedd ar y tro. Roedd ei hemosiwn yn ddiffuant, doedd dim yn artiffisial amdano, roedd hi’n gwbl wefreiddiol. Ychydig dros fis yn ddiweddarach cefais ei gweld yn perfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Pontio mewn cyngerdd yn dathlu 50 mlynedd o Sain. Yno benthycodd ei llais i rai o’n caneuon Cymraeg mwyaf poblogaidd fel ‘Môr O Gariad’, ‘Dŵr’, ‘Mistar Duw’, ‘Gyda Gwên’ a chlasur Anweledig ‘Chwarae Dy Gêm’. Cododd groen gŵydd arnaf i a’r gynulleidfa gyda’i dehongliadau unigryw o’r clasuron hyn. Ond rŵan, mae Mared yn cyflawni carreg filltir bwysig i unrhyw artist sef rhyddhau ei halbwm cyntaf. Cafodd Y Drefn ei ryddhau ym mis Awst gyda’r sengl ‘Pontydd’ yn arwain yr ymgyrch. Cefais sgwrs gyda Mared am fynd ati i greu’r albwm. “Nes i orffen recordio ym mis Hydref llynedd. Mae’n gasgliad o ganeuon sy’ wedi’u cyfansoddi dros gyfnod o chwe blynedd. Rhai pan o’n i dal yn ’rysgol. Wedyn pan ddaeth lockdown do’n i ddim yn siŵr pryd i’w rhyddhau hi. A’r gwir ydy does ’na ddim amser iawn achos mae pobl adre wastad yn barod i wrando ar fiwsig, lockdown neu ddim.” Rhyddhawyd yr albwm gydag I KA CHING ar ôl gweithio yn y stiwdio gyda’r “dream-team” roc-pop a gwerin, Branwen Williams, Osian Huw Williams ac Aled Hughes. “O’n i ddim yn siŵr sut sŵn oedd gen i felly roedd y profiad o drefnu’r caneuon ar gyfer band yn ffordd dda o wneud i mi feddwl am hynny. Roedd o’n brofiad newydd i mi ond nes i ei fwynhau a dysgu llawer o’r profiad.”
Mae ei sŵn yn cyfuno dylanwadau jazz a roc piano. Ar adegau, mae’n f’atgoffa i o gerddoriaeth Sara Bareilles, artist sydd hefyd â’i throed ym myd y sioeau cerdd. Holais Mared pwy yw ei dylanwadau hi pan mae’n dod i gyfansoddi a chanu? “O ran cantorion, bendant pobl fel Ella Fitzgerald ac Eva Cassidy. Wedyn o ran pobl sy’n sgwennu, yn fwy diweddar ’wrach, dwi wrth fy modd efo rhywun o’r enw Madison Cunningham, mae hi’n gwneud stwff lot mwy country. Dwi’n licio pobl fath â Emily King a Lianne La Havas. Mae ’na gymaint o bobl. Fyswn i ddim yn dweud fod ’na un teip o fiwsig. Dwi jest yn constantly gwrando ar gymaint o range, rili.”
Benthyg diwylliant Mae’r dylanwad jazz i’w glywed yn gryf ar y sengl ‘Pontydd’ sydd wedi bod yn ganolog yn yr ymgyrch i hyrwyddo’r albwm. Mae’r ymateb iddi wedi bod yn gadarnhaol iawn. Efallai bod hynny i wneud efo llawer o’r problemau cymdeithasol a gwleidyddol sy’n llethu’r newyddion ar hyn o bryd a phobl yn uniaethu. “Mae’r gân, basically, am godi pontydd rhwng diwyllianne a chymunede a’r celfyddydau gwahanol sy’n fwy pwysig nag erioed rŵan. Am ryw reswm, mae’r gân wedi gwneud lot mwy o synnwyr i mi yn lockdown na wnaeth hi pan nes i ei sgwennu haf diwetha’. Mae hi’n gân jazz a dwi’n meddwl ei bod hi mor bwysig ein bod ni’n cydnabod ein bod ni’n benthyg diwyllianne pobl eraill a bod pobl eraill yn benthyg ein diwylliant ni. Ac mae’n bwysig cofio o le mae hynny wedi dod, am hynny mae’r gân basically.
“Mae pobl adre wastad yn barod i wrando ar fiwsig, lockdown neu ddim.”
yselar.cymru
11
“Yn y fideo oeddan ni eisiau rhywbeth oedd yn creu pont rhwng celfyddydau i ddechrau efo fo, so dyna pam mae’r dawnsio yne. Ac oedden ni eisiau i’r dawnswyr fod yn based yng Nghymru hefyd. Felly mae’r ddwy ddawnswraig yn byw yng Nghaerdydd.” Cafodd y fideo i ‘Pontydd’ ei ryddhau ochr yn ochr â’r sengl ac ynddo mae dwy ddawnswraig, Faye Tan ac Aisha Naamani yn llafnrolio a dawnsio ar gwrt pêlfasged mewn parc dinesig. “’Naeth Branwen a fi ofyn am advice Griff Lynch, sy’n ffilmio stwff anyway, ac mi oedd o’n digwydd ’nabod Faye, un o’r dawnswyr. Wedyn aethon ni ati i greu naratif a ffeindio lleoliadau. Felly o’n i’n sbïo am leoliadau yng Nghaerdydd, parcie lle fysen nhw’n gallu rollerblade-io. Cafodd Parc Lydstep yn ardal Gabalfa ei ddewis ar gyfer ffiilmio. Wedyn ’naethon ni gael galwad Zoom fel bod pawb yn dallt be’ oedd y gân am a rhoi ein syniade at ei gilydd. “Wedyn, wnaeth Griff a’r dawnswyr drefnu diwrnod a jest mynd a ffilmio fo. Ar y pryd, roedd y rheol pum milltir dal yn bodoli felly do’n i’m yn cael mynd lawr i Gaerdydd. Cwbl o’n i’n gallu gwneud oedd cael cyfarfoddydd a chael reference videos at ei gilydd i ddangos y math o beth o’n i isio. Oedd hi’n broses rili neis cael cyd-weithio efo rhywun do’n i ddim yn ’nabod cynt yn ystod lockdown. Felly, mewn ffordd, dwi ddim yn meddwl y bysa hynna wedi digwydd heb law am lockdown.”
Cyfleodd Cyfnod Clo Mae’r cyfnod clo wedi gorfodi pawb, ond yn enwedig y diwydiannau creadigol, i feddwl am ffyrdd amgen o greu. Ro’n i’n awyddus i wybod a oedd Mared yn teimlo fod y cyfnod clo wedi dod â chyfleoedd newydd ac nid dim ond rhwystredigaethau a phroblemau. “Yn bendant mae ’na ddwy ochr iddo fo, ond mae’r ochrau ’bach yn imbalanced. Ond o ran edrych ar ochr bositif i bethau dwi wedi dysgu pethau newydd, dwi wedi sgwennu caneuon newydd a fyswn i ddim wedi cael yr amser i wneud hynny fel arall achos fyswn i yn Llundain.” Mae Mared yn aelod o gast Les Misérables yn y West End. “Dwi wedi cael canolbwyntio ar hyrwyddo a rhyddhau’r albwm hefyd ac wedi cael mwy o amser i feddwl mwy am hynny a chael gweithio efo I KA CHING. Maen nhw wedi gwneud gymaint. Mae Branwen, Elin a finna wedi bod yn casglu syniadau trwy gydol y cyfnod, ac mae o wedi bod yn brofiad rili neis.” Anfonodd I KA CHING gopi o albwm Mared i ferched blaenllaw eraill y sin er mwyn cael eu hymateb nhw i’r record. Ac fe ddaeth y clod yn fynych. O Siân James i Ani Glass i Lisa Angharad roedd yr ymateb yn unfrydol ganmoliaethus.
“Trefniannau celfydd… didwylledd yn treiddio’r cwbl lot.” Siân James “Gwefreiddiol a naturiol. Fel tase’i ’di bodoli erioed.” Marged, Y Cledrau “Fel lapio’ch clustiau mewn blanced felfed cynnes” Elin, Thallo “Mae [ei llais] yn gallu mynd i rwla a ti’n trystio eith o byth i’r lle rong.” Lisa Jên, 9Bach “Artist i’w thrysori.” Lleuwen
“Mae hi mor bwysig ein bod ni’n cydnabod ein bod ni’n benthyg diwyllianne.” 12
yselar.cymru
Pan welais i’r dyfyniadau hyn wedi’u gwasgaru yma ac acw ar gyfrifon Instagram Mared ac I KA CHING gwnaethant argraff arna’ i ond ar yr un pryd roeddwn i’n bryderus y byddai fy nisgwyliadau o’r albwm yn rhy uchel o’u herwydd. Ond, diolch i’r Drefn (winc winc) maen nhw’n wir bob un. Ffiw! Ei llais hi yw seren y sioe, mae’n ddigyfaddawd yn ei rym emosiynol. Gall fynd o bwnsh yn eich perfedd i goflaid gynnes, feddal mewn mater o eiliadau. Mae’r casgliad o ganeuon yn amrywiol ac yn arddangos gymnasteg lleisiol Mared yn rheolaidd a hynny heb amharu ar naws hamddenol y cyfanwaith. Dyma obeithio, felly, y ca’ i fynd yn ôl i dywyllwch Clwb Ifor Bach yn fuan ond y tro hwn i’w gwylio yn hedleinio.
N ear w y yd dSin Teleri Hanes Pan ymddangosodd trac cyntaf Teleri, ‘Euraidd’ ym mis Ionawr eleni nid oedd neb yn gwybod llawer am yr artist electronig newydd. “Dwi ’di bod yn creu cerddoriaeth on and off ers fy arddegau, gan ddechrau’n cyfansoddi caneuon gitâr,” eglura. “O’n i’n arbrofi efo cyfuno geiriau a mynegi profiadau personol mewn ffordd hardd. Cafodd Willy Mason ddylanwad cryf arnaf efo’i ganeuon enigmatig a phwerus ac o’n i’n mwynhau chware efo cordiau i geisio cyfleu teimladau cymhleth. Er iddi chwarae gyda chwpl o fandiau acwstig, un yn Norwich ac un yn lleol, cyn hynny, Gŵyl Rhif 6 2018 a oedd y trobwynt i Teleri. “Ar ôl gweld Gwenno’n chwara’n fyw roedd gen i ddiddordeb mewn cerddoriaeth electronig a’i botensial i greu sŵn epig. Ers Hydref 2019 dwi ’di bod yn dysgu sut i ddefnyddio Ableton Live ac yn ddiweddar dwi ’di prynu DJ decs cyntaf fi!” Ddeg mis ers ‘Euraidd’ ac nid ydym yn gwybod llawer mwy am Teleri mewn gwirionedd ond mae hi wedi gadael i’w cherddoriaeth wneud y siarad. “Dwi ’di rhyddhau pum trac ers mis Ionawr ac wedi
Hanes Cân i Gymru 2018 a oedd man cychwyn Derw, gyda’r fam a mab o Ben Llŷn, Anna Georgina a Dafydd Dabson yn cystadlu gyda’i gilydd. “Gyrhaeddom ni’r wyth olaf ond dim gwell!” eglura Dafydd. “Roedd hi’n brofiad grêt gwneud rhywbeth cerddorol efo’n gilydd felly wnaethom ni benderfynu cario ’mlaen. Mam sy’n sgwennu’r geiriau a fi’r gerddoriaeth. Dwi’n rili mwynhau sgwennu efo hi, mae ganddi lawer o bethau diddorol i’w dweud.” Elin Fouladi sy’n canu a gyda’r ddau’n byw yng Nghaerdydd, mae Dafydd yn hen gyfarwydd â hithau hefyd. “Dwi’n ’nabod Elin ers tipyn, o’n i’n arfer chwarae gitâr iddi hi pan oedd hi’n perfformio fel El Parisa 14
yselar.cymru
mae cerddorion Cymru wedi parhau’n gynhyrchiol ac mae digon yn Newydd ar y Sin. Un artist cwbl newydd, un prosiect newydd gan wynebau cyfarwydd ac un artist sefydledig wedi newid gêr sydd yn mynd a sylw Y Selar y tro hwn.
eu cyfansoddi, recordio a’u cynhyrchu o adref. Mae rhaglen radio Georgia Ruth wedi rhoi cefnogaeth gyson ac mae Dyl Mei, Bethan Elfyn, Lisa Gwilym ac Adam Walton hefyd wedi dangos cefnogaeth.” Sŵn Mae’n werth gwrando ar bum sengl gyntaf Teleri yn eu trefn i brofi esblygiad y sŵn, gyda’r ddau drac diweddaraf, ‘Haf’ a ‘Gola’ yn symud i gyfeiriad dawns minimalaidd. “Ers darganfod cerddoriaeth felodig deep house Lane 8, dwi ’di cael fy ysbrydoli i greu cerddoriaeth dawns. Dwi’n anelu at gyfuno steil personol hefo arddull gwrthrychol i greu profiadau sy’n codi ysbryd. Yn fy ngwaith celf dwi ’di bod yn ymchwilio sut i gyfleu elfennau therapiwtig natur er mwyn gwella lles.” Beth nesaf? Yn artist gweledol hefyd, gobaith Teleri yw parhau i gyfuno’r ddwy elfen wrth ddatblygu’i hun ymhellach fel artist aml-gyfrwng. “Yn y dyfodol dwi’n gobeithio creu mwy o fideos i gyd fynd efo’r traciau dwi’n eu rhyddhau er mwyn cyfleu natur aruchel Eryri. Byddaf yn rhyddhau traciau fesul un ac yn gweithio tuag at EP neu albwm. Ar ôl creu set dwi’n hapus efo, dwi’n gobeithio ei ffrydio ar-lein a’i chwarae’n fyw yn y pen draw!”
di Ddod i Lawr’ ym mis Awst ar CEG Records. Mae fideos o’r ddwy gân ar sianel YouTube Derw yn ogystal â threfniant “acwstic(ish)” Dafydd o ‘Hel Sibrydion’ gan Lewys. “Mae aildrefnu caneuon pobl eraill mewn steil hollol wahanol yn rhywbeth dwi’n rili mwynhau; ma’ gennym ni un arall ar y ffordd hefyd felly gwyliwch allan!”
Llun: Hannah Bracher-Smith
Derw
Er gwaethaf y cyfnod rhyfedd diweddar yma,
a ’da ni ’di neud sawl peth efo’n gilydd ers hynny. O’n i’n meddwl bysa hi’n berffaith i steil Derw. Yn ogystal â bod yn gantores anhygoel mae ganddi’r gallu i roi gymaint o emosiwn mewn cân.” Rhyddhawyd y sengl gyntaf, ‘Dau Gam’ ym mis Ebrill, a’r ail, ‘Ble Cei
Sŵn Disgrifia Dafydd y sŵn fel chamber pop, “math o indie rock ond efo llai o gitârs distorted a mwy o piano, vocal harmonies a threfniadau mwy cymleth. Mae llawer o’r bandiau yma’n defnyddio llinynnau, offerynnau pres a sŵn eitha cerddorfaol – ’swn i’n leicio ’neud mwy o hyn ond does gennym ni ddim mo’r budget ar hyn o bryd!” Rhestra The National, Elbow, Jacob Collier ac Imogen Heap fel dylanwadau. “Mae Elin wedyn yn
Endaf Hanes A fu artist mwy cynhyrchiol yn ystod y cyfnod clo nag Endaf? Y cynhyrchydd electronig o Gaernarfon oedd yn gyfrifol am rai o draciau mwyaf cofiadwy’r haf. Efallai ei fod yn wyneb newydd i lawer er ei fod wedi bod wrthi ers blynyddoedd. Does dim dwywaith iddo ddod i amlygrwydd pellach yn y deuddeg mis diwethaf ers cael ei enwi yn un o 12 Gorwelion. “Nesh i gychwyn cynhyrchu music o dan enw iawn fi, Endaf, yn brifysgol rhyw 6 mlynedd yn ôl rŵan ar ôl dechrau arbrofi ar gwrs music tech yn Coleg Menai. Oedd tracs cyntaf Endaf yn reit chilled ac wedi’i dylanwadu gan artistiaid fel James Blake, Ifan Dafydd etc. ond tra o’n i’n cynhyrchu tracs chilled, o’n i o hyd yn DJio tracs mwy bywiog house, disco a techno mewn nightclubs ag yn rhedeg event fi sef High Grade Grooves.” Sŵn Wedi i Gorwelion ddadorchuddio’i botensial, aeth Endaf ati i gyfuno’r ochr DJio cerddoriaeth house a’r cynhyrchu electronig. “Dwi wedi llwyddo erbyn hyn a dwi’n perfformio live set sy’n cynnwys drum machine, sampler, synths, sequencers, FX pedals a MIDI Controllers i greu tracs hollol improvised yn fyw, a hefyd yn ailgymysgu tracs fi a pobl arall ar y spot. Mae’r set up a’r ffordd yma o berfformio wedi siapio fy sŵn newydd i; rhythms house music ac elfennau eitha jazzy fel yn ‘Dan Dy Draed’ efo Ifan Pritchard, ac mae o’i weld yn winning combination achos odd o’n Drac Yr Wythnos ar Radio Cymru.” Ers creu’r set fyw, mae Endaf wedi perfformio yn Stiwdios Maida Vale y BBC ac wedi creu cwpwl o mixes i Radio Cymru, ble mae o’n defnyddio drum machine ar ben tracs Cymraeg i’w cymysgu nhw efo’i gilydd fel set DJ. Gwnaeth un i raglen Huw Stephens ac un arall fel rhan o’r Ŵyl AmGen. Ail-gymysgodd draciau gan Alffa, Mellt, Gwilym ac Adwaith ar gyfer Gŵyl AmGen hefyd a chyn hynny ailgymysgu tair o glasuron Endaf Emlyn. Os wnewch i un peth heddiw, ewch i wrando ar y ddau Endaf yn cyfuno ar ‘Nol i’r Fro’. Chwalu. Pen.
dod ag ochr mwy soulful i’r miwsig gyda dylanwad cantorion jazz ac artistiaid fel London Grammar. O ran stwff Cymraeg, artistiaid fel Yucatan, Cowbois a Cynefin. ’Da ni ’di cael ein cymharu efo Clannad, Coldplay, Snow Patrol a hyd yn oed Queen felly pwy a ŵyr!” Beth nesaf? Bydd EP cyntaf Derw, Yr Unig Rhai Sy’n Cofio, allan yn fuan, unwaith y byddant wedi llwyddo i ffilmio perfformiadau byw gyda’r band llawn. Mae albwm ar y gweill hefyd ac yn naturiol mae Dafydd yn edrych ymlaen at gigio’r caneuon. “’Da ni’n methu aros i chwarae’n fyw! Roedd ein gig cynta’ ni wedi ei fwcio dros yr haf ond, fel bob dim arall, gafodd ei ganslo. ’Da ni wedi gweithio efo grŵp gwych o gerddorion ar y miwsig yma a dwi’n methu aros nes cael bod efo’n gilydd eto yn chwarae.”
Beth nesaf? Canolbwyntio ar draciau gwreiddiol yw bwriad Endaf dros y misoedd nesaf gan barhau i gydweithio efo amrywiaeth o artistiaid Cymraeg. Ac yn naturiol, ag yntau wedi creu cymaint yn y cyfnod clo, mae’n torri ei fol eisiau chwarae’n fyw eto. “Dwi’n methu disgwyl i gael chwarae gigs eto, lle fyddai’n DJ a chwarae’n live set newydd yn cynnwys yr holl content sydd wedi dod allan o’r lockdown.” Pan fydd hynny’n digwydd, ewch da chi.
yselar.cymru
15
Casi Wyn Bwriad yr eitem hon yw dysgu mwy am ysbrydoliaeth a dylanwadau rhai o wynebau cyfarwydd y sin. Pa berson, digwyddiad a lle sydd wedi eu dylanwadu? Pa gyfnod sydd wedi eu hysbrydoli? Pam eu bod yn gwneud cerddoriaeth? Yn ymgymryd â’r her y tro hwn y mae Casi Wyn. Yr artist amryddawn yw un o’n cantorion mwyaf eithriadol. Boed yn cyfansoddi pop perffaith neu’n rhoi egni newydd i hen glasuron gyda’i threfniannau cyfoes, mae angerdd ac emosiwn yn llenwi popeth mae hi’n ei wneud. Bu’n rhan o brosiect cydweithredol aml gyfrwng Codi Pais, Codi Pontydd yn ddiweddar gan brofi eto ei bod yn artist yn wir ystyr y gair. Ond beth sydd wedi ffurfio hyn, beth sydd wedi dylanwadu a llywio gyrfa gerddorol Casi Wyn?
Pwy? Llawer gormod o bobl i’w henwi. Rydw i wedi bod yn eithriadol o lwcus dros y blynyddoedd o dderbyn cefnogaeth i ’ngyrfa gerddorol ers yn ddim o beth. Mam, siŵr o fod, sydd wedi cael y dylanwad diwylliannol a cherddorol mwyaf arnaf. Pan ro’n i’n iau mi fydda hi’n fy ngyrru draw at Gwennant Pyrs i ddysgu alawon cerdd dant ar geinciau hardd a chain, a ’mharatoi i gystadlu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd gan amlaf. Ar y pryd doeddwn i’m wir yn gwybod pam mod i’n mynychu’r gwersi, jest yn mwynhau dysgu a chanu’r farddoniaeth. Yn hwyrach wedyn ro’n i’n mynd at Elen Keen pob wythnos i ganu amryw ganeuon, mae Elen yn gerddor o’r Bala ac yn bianyddes tu hwnt o ddawnus. Yn aml ro’n i’n gorfod dysgu caneuon clasurol ar gyfer yr unawdau a chystadlaethau, o adlewyrchu rŵan, rydw i’n ffodus iawn o fod wedi fy nghyflwyno i’r gweithiau hynny o oedran mor ifanc. Mae’r alawon, y farddoniaeth a’r gweithiau clasurol, a thraddodiadol, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn fy is-ymwybod bellach ac yn llunio’r ffordd dwi’n gweld a chreu.
Beth? Yr Urdd a’r Ŵyl Gerdd Dant heb os. Cyfleoedd cwbl unigryw a bisâr i fod yn rhan ohonynt tra ro’n i’n yr ysgol. Yna pan ro’n i’n tua blwyddyn 5 yn Ysgol y Garnedd mi ges i fy mhâr cyntaf o dreinyrs Nike a chychwyn gwrando ar Justin Timberlake a 50 Cent. Fe newidiodd pethau’n f’agwedd tuag at y byd yr adeg hynny. Does ’na’m geiriau i egluro’r wefr ro’n i’n deimlo tra’n fflicio drwy sianeli fideo MTV, Kiss a TMF erstalwm. Ac mae’r ffordd roedd Timbaland yn gwneud mi deimlo’n rhywbeth arall. Roedd rap, hip hop ac R ‘n’ B yn gwbl estron i’r glust bryd hynny, ond ro’n i’n uniaethu gyda’r curiadau a’r llif. Ro’n i’n teimlo’n fwy rhydd wrth ganu’r gerddoriaeth yma, er mewn rhyw ffordd anarferol roeddent yn ymdebygu i’r emynau a’r alawon gwerin roeddwn i’n eu canu. O edrych nôl, roedd hi fel taswn i’n byw dau fywyd cerddorol bryd hynny, y ddeuoliaeth honno rhwng cyfoeth traddodiad ochr yn ochr â diwylliant 16
yselar.cymru
cyfoes, sy’n fwy arwynebol ac arloesol. Yn ystod y dydd, “tali tali tali/ bu farw’r hen Shôn Parri / wedi osod ar y sgrîn / a’i ddau benlin i fyny / tali tali tali tali tali” oedd yn cymryd fy mryd; ond o 3:30 ymlaen “ey-o I’m tired of using technologehey, won’t you sit down on top of me” oedd y dôn.
Lle? Mae Bangor yn agos iawn at fy nghalon ac felly’n fangre bwysig iawn imi! O’r addysg werthfawr imi ei derbyn gan athrawon y Garnedd ac Ysgol Tryfan i’m hatgofion o Ysgol Sul Capel y Graig a Berea Newydd, dyma ardal sydd wedi fy siapio ym mhob agwedd. Ma’ Bangor yn gyffredinol yn cael ei hesgeuluso dwi’n teimlo, dwi’n meddwl achos mai Caernarfon sy’n cael ei chydnabod fel yr ardal bennaf ddiwylliannol Gymreig, mae dinas Bangor a’r amrywiaeth a’r difyrrwch mae hi’n ei gynnig yn cael ei anghofio! Ar ôl y cyfnod clo yn ddiweddar mi ddychwelais adref ar ôl dros bedwar mis o fod ffwrdd ac roedd hynny i mi’n dipyn o beth. Mae’r stryd fawr yn teimlo mor gynnes i mi rwan, er bod siopau’n cau yno ac yn ôl rhai ei bod hi’n teimlo’n reit dlotaidd, i mi mae’r ardal yn un sinema o ddelweddau. Mi ges i amser mor dda gyda fy ffrindiau chweched dosbarth ym Mangor Uchaf, a’r criw olaf i berfformio yn Theatr Gwynedd hefyd, fel ’mod i’n gweld trysor ym mhob congl o’r ddinas.
Pryd? Cwestiwn difyr. Pan ro’n i’n tua 16 oed, ro’n i newydd gwblhau cwrs haf gyda National Youth Theatre of Wales ac ar drothwy fy addysg chweched dosbarth ac mi ges i wahoddiad i glyweld am ran Dorothy gyda rhaglen Andrew Lloyd Webber (Over the Rainbow, BBC). Es i lawr o tua deng mil o Ddorotheiaid i’r 40 terfynol, ac roedd y profiad yma’n ryw fath o drobwynt cyffredinol o wybod fy mod i eisiau cychwyn ysgrifennu a chyfansoddi pethau gwreiddiol. Un o’r heriau inni eu derbyn fel rhan o’r rowndiau olaf oedd darllen rhan Dorothy yn siarad gyda’r ci Toto ac roedd pawb o ’nghwmpas yn dynwared acen Americanaidd drom y ffilm wreiddiol, a dwi’n cofio darllen y sgript yn f’acen fy hun a phawb o ’nghwmpas yn ymateb yn gymharol chwithig i ’mherfformiad. Ond ia, dyna drobwynt, pan ddywedodd Graham Norton “Will Dorothy be Welsh speaking like Casi from Bangor?” Wel, mwy na thebyg ddim Graham, gan fod angen i’r cynhyrchiad werthu miloedd o docynnau i gynulleidfaoedd anglo-americanaidd 7 gwaith yr wythnos yn y West End. Tro bwynt.
Pam? Does gen i’m syniad. Pam bod dafad yn brefu? Pam bod dail yn disgyn? Pam bod siocled yn blasu cystal? Tydw i ddim yn gymwys i ateb y cwestiwn. Pe bawn i’n byw bywyd arall, neu os i mi fyw unrhyw fywyd cyn yr un yma, does dim amheuaeth yn fy nghalon mai cantores fyswn i ym mhob un.
Llun: Kristina Banholzer
Auteurs ac Amateurs Gai Toms
A
naml fydda i’n prynu papurau newydd Prydeinig o’r siop dyddiau yma, mae popeth ar y we, a s’dim ryw lawer o gynnwys i’r seici Cymraeg beth bynnag. Ond, ar ddydd Sul Awst 30, prynais yr Observer o’r Coop lleol i gael golwg ar y byd mewn print am change! Roeddwn yn prynu’r Observer yn aml yn y coleg, ac yn cael fy herian am ei fod yn ‘bapur comiwnydd’ (LOL!). Ar dudalen 24, roedd erthygl ddifyr am Dr Didier Raoult o Marseille yn trafod Covid-19 yn Ffrainc. Yn Provence mae ganddyn nhw air i ddisgrifio sefyllfa or-ddramatig, a’r gair hwnnw yw ‘pagnolesque’. Term sy’n deyrnged i Marcel Pagnol, awdur Les Marchands de Gloire (The Merchants of Glory). Wrth bori’r we amdano dysgais ei fod yn dipyn o foi, yn awdur, nofelydd, dramodydd a gwneuthurwr ffilm. Mae rhai’n cyfeirio ato fel ‘auteur’, sef artist sy’n chwarae rhan ganolog mewn cywaith celfyddydol ac yn cyfuno, neu’n ail-adrodd, themâu yn eu gwaith. Artist aml-ddimensiwn, aml-gyfrwng sy’n blethora o ysbrydoliaethau, ymchwil, technegau dyfeisio a chyflwyno. O Bertolt Brecht i Gruff Rhys, o Eddie Ladd i Quentin Tarantino. Do, cefais foment ‘pagnolesque’ ar Twitter eleni pan ’cyhoeddwyd rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod. Doedd fy albwm, Orig, ddim ar y rhestr fer, wedi’r holl gyfathrach greadigol trwy gydol 2019, bw hw! Y diwrnod hwnnw, cefais newyddiadurwyr yn cysylltu efo mi dros Twitter yn holi am fy safbwynt, yna mwya’ sydyn... roedd erthyglau tabloid dros y we yn deud ’mod i’n anhapus gyda’r rhestr fer. Erthyglau ‘ffwrdd a hi’ yn fy fframio fel ryw dwat blin, ac yn cynnwys barn ‘di-enw’ o safbwynt yr Eisteddfod. Roedd un cylchgrawn heb gysylltu efo mi o gwbl, ac wedi mynd ar gefn erthygl arall. Dwi ar fai yn fan hyn hefyd, yn disgyn i’r trap! Ydw i’n beio rhywun am beidio dewis Orig i’r rhestr fer? Na. Mae gwobrau yn dipyn o roulette wrth natur, yn dibynnu’n llwyr ar chwaeth y panel. Hefyd, mae lein anfarwol Datblygu “...heb y barnu, na’r cystadlu”, yn cynnig ryw oleuni. Ond, fel artistiaid, rydym wrthi am fisoedd (blynyddoedd!) tu ôl y llenni yn hel syniadau, yn eu siapio fel cerflunwyr brwd, yn chwydu’r enaid fel shamaniaid gwallgof, ac yn pecynnu’r cyfan mewn sgwariau cardbord (a hynny mewn byd ble mae pawb yn ffrydio beth bynnag!) Oni bai eich bod yn cadw dogfen neu ffilm o’r gwaith, does neb yn gweld y gyfathrach, ac mae dehongliad panelwyr yn achos tipyn o ddirgelwch. Pwy a ŵyr os oeddynt yn gafael ar y clawr i ehangu’r profiad wrth wrando. Roedd clawr Orig 18
yselar.cymru
wedi ei ddylunio i gynulleidfa nad oedd yn gyfarwydd â bywyd Orig Williams, yn llawn lluniau o’r archif, esboniadau mewn Saesneg a llyfryn geiriau, yn rhan o brofiad llawn yr albwm. A gafodd hynny ei ystyried? Pwy a ŵyr?! Gwrthrychedd yw’r cwbl ynde, pwy ydw i i ddweud sut i wrando ar albwm?! Y peth pwysig yn hyn i gyd wrth gwrs yw perthynas yr artist a’i g/chynulleidfa, ond mae cyfrifoldeb ar y wasg/ cyfryngau yma hefyd. Heb y dogfennu, y cyfweliadau, y lluniau, y fideos, yr adolygiadau gonest, segur yw’r diwylliant a’r diwydiant. Y wasg/cyfryngau yw’r ŵy yn y gacen fel petai. Cefais ambell stori dda pan ddaeth Orig allan chwarae teg, a diolchgar wyf am hynny. Ond, daeth r’un adolygydd i weld y sioe byw, bechod! Ar y llaw arall, mae’r we yn cynnig ryw fath o oleuni tydi, lle
Mae cerddoriaeth Cymraeg yn dibynnu ar lond llaw o newyddiadurwyr cyflogedig ac annibynnol i adlewyrchu cyfoeth ein diwylliant, a hynny i gynulleidfa fach iawn. Gyda S4C yn esblygu/dadfeilio’n (?!) araf bach, a diffyg datganoli darlledu, mae’n heriol dros ben. Rwy’n deall ac yn gwerthfawrogi hynny. Ond, mae safon newyddiadurol yn fater arall, ac ambell gerddor yn mynnu mwy nag ymholiad dros Twitter, neu alwad ffôn i ofyn, “albwm am be’ ydi hwn?” neu “be’ ydi’r ysbrydoliaeth?”. Mae hyn awgrymu i mi nad ydi’r bobl ‘ma wedi darllen y datganiad i’r wasg na gwrando ar y record. Diogrwydd newyddiadurol! Be’ ddigwyddodd i newyddiadurwyr yn dod draw efo camera am baned a sgwrs ar dictaphone?! Y ‘rock n roll journalist’! Diffyg cyllid? Diffyg dychymyg?! Diogi?! Amser?! Cyfleustra’r we?! Dwn’im! Mae newyddiadurwyr Cymraeg angen deall bod rhai artistiaid yn fwy na jest ‘cerddor’, yn enwedig yr artistiaid hŷn. Yr artistiaid sydd bellach rhy hen i fod yn ‘artist cyffrous ifanc’, ac yn rhy ifanc i fod yn ‘legend’. Yr artistiaid sydd yn aml yn gorfod jyglo cyfrifoldebau gwaith a rhiantu, tra’n dal i gredu yn yr ysbryd rhydd creadigol. Artistiaid sydd yn mynd tu hwnt i’r caneuon, ac yn cyflwyno’r gwaith mewn dulliau amgen a difyr (beth bynnag yr arddull gerddorol), artistiaid sy’n aml ar eu gorau yn y cyfnod yma o’u bywyd. Auteurs yr SRG!? Amateurs?! Yn aml, mae’r stori yn cael ei cholli, a tydi pobl ddim yn gweld y graen tu ôl y gân. Ydi auteurs yr SRG angen erthyglau neu adolygiadau yn yr Observer i fesur gwir lwyddiant?! ‘Ta oes golau ar ddiwedd y twnel newyddiadurol cerddorol Cymraeg yma?
gall bobl drydar eu barn, gall artistiaid rannu cynnwys heb sensoriaeth ac mae modd cyrraedd cynulleidfa newydd dros y byd. Ond mae llinell nad allwch ei groesi yn does? E.e. tydi artistiaid methu adolygu gwaith ei gilydd ayyb. A job ddrud ydi talu plygar i roi sylw i chi yn y wasg Brydeinig a chitha’n gorfod rhoi bwyd ar y bwrdd. (Oni bai eich bo’ chi’n graff efo ffurflen grant wrth gwrs!)
“Do, cefais foment ‘pagnolesque’ ar Twitter eleni”
Mae’r byd llenyddol i’w weld yn trafod barddoniaeth a llyfrau yn gynhwysfawr a thrylwyr tydi? Ydi hyn gan fod newyddiadurwyr llenyddol yn feirdd a llenorion eu hunain, gyda golygyddion efo gwir ddiddordeb yn y pwnc? Oes mwy o arian mewn llenyddiaeth? Mwy o gynulleidfa?! I atal ‘pagnolesque moment’ arall, ydi’n amser i gerddorion fynnu darpariaeth well o safbwynt mewnwelediad i’r gwaith? ‘Ta ydan ni’n setlo ar ‘digon da’? Ydi artistiaid yr SRG eisiau mewnwelediad creadigol i’w gwaith? Dwnim. Efallai bod cerddorion dan felltith wedi’r cyfan, y ‘neccessarry evils’. Digon da ar gyfer gig elusen, ond ddim digon da ar gyfer stori ddifyr, edgy, dychmygus a pherthnasol. Yn y bon, y cwestiwn rwy’n ei ofyn ydi; oni bai am lenwi gigs byw, sut mae mesur llwyddiant? Oes rhaid i bopeth fod am y ‘band ifanc o Llandosbarthcanol’ neu’r ‘athrylith o Gaerdyddiauda’?! Ydi hyn yn gwestiwn teg? ‘Ta ydi Gai Toms jest yn cael ‘pagnolesque moment’ arall?! (LOL!). yselar.cymru
19
adolygiadau
Rhywbryd yn Rhywle Lewys Mae Rhywbryd yn Rhywle yn gampwaith ymysg y genhedlaeth goll o albyms a ddiflanodd i niwl y cyfnod clo. Er chwith oedd tyrchu drwy’r pentwr i ddadorchuddio albwm 6 mis oed, mae elfen o ffawd fod yr albwm newydd anedig wedi cropian i dymor y gaeaf gan ategu’r modd mae’n cydymffurfio â delweddau o natur. Yn gyflwyniad i’r albwm a’n flas o’r band a’i ddatblygiad, mae’r trac dwbl ‘Rhywbryd’ a ‘Rhywle’ yn gosod stamp cryf o’r llwybr mae’r grŵp wedi’i gymryd. Mae datblygiad amlwg i’r sŵn, ond mae’r hen ffefrynnau pop yn eistedd yn gyfforddus yng nghanol hynny. Dyma gryfder yr albwm hwn, y modd mae’r hen a’r newydd wedi eu
cyfosod i lifo fel cyfanwaith. A dyma’n union mae’r casét cyfyngedig yn ei bwysleisio, dyma fand sydd eisiau perffeithrwydd, dyma albwm sy’n haeddu gwrandawiad ar ei hyd. ‘Y Cyffro’ yw trobwynt yr albwm i mi, dyma’r seithfed dôn ag ynddi ergyd sy’n taro’n galed. Drwy gyfuniad o riffiau a rhythmau chwareus mae’n eich tynnu chi nôl am fwy. Ac mae mwy, mae dyfnderoedd o haenau i’r caneuon diweddar. Mae tyndra parhaol rhwng y trwm a’r ysgafn yn ‘O’r Tywyllwch’ yn parhau i ennyn tensiwn ac atgyfnerthu’r rhwystredigaeth fewnol a gyflwynir yn yr intro sydd hefyd yn nodedig yn ‘Hel Sibrydion’. Cewch eich ysgwyd gan egni’r band yma, egni y gallwn ond gobeithio ei brofi’n fyw, rhywbryd, rhywle. Aur Bleddyn
Cwantwm Dub Geraint Jarman
RH GWR AID AND O
Y Drefn Mared Os nad ydach chi wedi gwrando ar yr albwm anhygoel yma gan Mared eto... gwnewch, RWAN! Mae’n rhaid i mi gychwyn drwy siarad am y llais gwefreiddiol ’ma sy’n naturiol, yn gwneud i mi deimlo’n saff ac wedi cyffroi’n lân ar yr un pryd. Mae ganddi gymaint o reolaeth dros ei hofferyn nes nad oes to iddo fo, mae o’n dal i fynd, ac yn darganfod nodau doeddach chi ddim yn eu disgwyl... ond rydach chi mor falch o’u cael nhw ganddi. Mae bob dim am Mared yn gwbl ddidwyll, a dyna ydi tarddiad llwyddiant yr albwm. Does ’na ddim ffys, dim gimics, dim ond talent a didwylledd sy’n gadael i ni deimlo pob cân yn bersonol. Mae ‘Y Reddf’ yn mynd i daro tant efo bob un ohonom ni ar ryw bwynt yn ein bywydau, a ‘Pontydd’ ac ‘Yr Awyr Adre’ ydi’r caneuon nes i fethu eu sgwennu droeon ar drenau yn ôl ac ymlaen rhwng Llundain ac adra. ’Da ni’n cael gymaint o ddylanwadau gwerin, pop, a jazz yn yr albwm yma ac maen nhw’n plethu efo’i gilydd yn gwbwl naturiol. ’Da ni wedi clywed beth mae Mared yn medru ei wneud hefo caneuon fel ‘Chwarae dy Gêm’ a ‘Gyda Gwên’, ac mae’r fersiwn o ‘Gwydr Glas’ sydd yn fan’ma rhywsut yn driw i’r wreiddiol ac eto’n cyfleu tristwch y gân werin dorcalonnus yma mewn ffordd fodern, emosiynol. Dyma fysa Carole King yn ei wneud efo cân werin Gymraeg beryg! Mae hi’n gorffen yr albwm hudol yma hefo anrheg sbesial o obaith yn ‘Dal ar y Teimlad’, a’r cyffro am be’ gawn ni nesa’ gan Mared. Elain Llwyd 20
yselar.cymru
Mae’r ffaith fod dyn 70 oed yn creu cerddoriaeth gyfoes a phoblogaidd yn anhygoel yn ei hun (beth mae eich mam-guod a thad-cuod chi’n ei wneud?!) Ond mae Jarman yn dal i arbrofi hyd yn oed. Rydyn ni’n gyfarwydd â reggae Jarman, ond mae’r ymdriniaeth dub yma o’i albwm Cariad Cwantwm gan Krissie Jenkins yn newydd ac yn mynd â ni i rywle gwahanol o’r dechrau. Llais Jarman a’i ferched ar ‘Bywyd Dub’ sy’n agor yr albwm, rhwng yr adlais a’r ffaith ei fod yn ddigyfeiliant i ddechrau mae rhywbeth bron yn iasol amdano, yn y ffordd orau posibl. Yna, mae’r bîts ysgafn yn ymlacio rhywun. Mae bît yn amlwg iawn yn yr albwm a dyna sy’n cynnal y naws ymlaciol drwyddi. Ond dim ond un haen yw’r curiadau, mae effeithiau a cherddoriaeth electronig, yr adleisio a’r melodïau ar ben hynny, a lleisiau’n gweu drwy bopeth. Mae’n hawdd cau eich llygaid a mynd â’ch hun i ryw draeth tawel, braf yn ‘Addewidion Dub’; i brynhawn Sul rhyw ŵyl yn ‘Strangetown Dub’ â’i melodi hynod chwareus, neu hyd yn oed i arnofio ynghanol y cymylau yn ‘Gofal Dub’. Gallech chi’n hawdd roi hon i chwarae yn y cefndir a theimlo’ch hun yn ymlacio, ond stopio i wrando arni sydd ei angen, ac mae’r bîts yn cydio ynddoch chi i’ch arwain i rywle pleserus. Bethan Williams
Yuke yl Lady LP Eilir Pierce
“Mae mor braf clywed dy lais…” cana Elidyr Glyn ar un o draciau mwyaf poblogaidd Bwncath II. Wrth gydganu’r geiriau efo fo alla i ddim llai na chytuno - mae hi’n braf clywed ei lais o. Ei lais cynnes, cryg ar adegau, yw’r hyn sy’n gwneud Bwncath yn Bwncath. Tinc unigryw ei lais sy’n cario rhai o ganeuon hawdd eu hanghofio’r albwm, fel ‘Tonnau’ ac ‘Addewidion’. Ambell dro, dwi’n teimlo bod diffyg emosiwn yn ei ddehongliad o’r caneuon er gwaethaf hyfrydwch ei lais. Dwi ddim yn coelio ei fod o’n golygu’r hyn mae o’n ei ganu ac mae hynny’n lleihau fy mwynhad o’r caneuon hynny. Fodd bynnag, mae Bwncath yn rhagori yn y caneuon siriol a gobeithiol sydd wedi eu gwneud nhw’n un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru fel ‘Clywed dy Lais’, ’Dos yn dy Flaen’, ‘Haws i’w Ddweud’ a ‘Fel hyn ’da ni Fod’. Un o rinweddau pennaf y band yw naws storïol, lled-lenyddol a thafodieithol rhai o eiriau’r caneuon - nodwedd sy’n f’atgoffa i ar adegau o ddawn geiriol Meinir Gwilym. Dyma albwm cryf sy’n cynnwys sawl cân fyddwn ni’n eu canu am flynyddoedd i ddod. Yn wir, ‘Fel Hyn ’da ni Fod’ yw’r gân orau i ennill Cân i Gymru ers blynyddoedd. Mae caneuon cryfaf yr albwm yn gofiadwy, yn swynol ac yn codi calon. Does dim dwywaith y bydd yr albwm yma’n byw’n hir ar ein tonfeddi. Lois Gwenllian
Haleliwia, mae hiatws bondigrybwyll Mr Eilir Pierce wedi dod i ben. Do, ’dan ni wedi aros yn hir am gerddoriaeth newydd gan Eilir Pierce, y mab fferm gwych a gwallgo. Pan ddaeth Degawdawns allan yn 2007, roedd Eilir Pierce bendant ddwy gam ar y blaen, wrth iddo gyflwyno 10 cân ar CD, a 90 cân ychwanegol fel MP3 – cyfanswm o 6 awr o gerddoriaeth unigryw a chofiadwy. Neidiwch ymlaen i 2020, a gellid dadlau mai cymryd dwy gam yn ei ôl mae Eilir wedi’i wneud gyda’i ddewis o fformat cyhoeddi – casét! Ond, mewn gwirionedd, mae’r fformat hwn yn addas iawn i’r albwm dwyieithog yma o hanner awr a 12 cân. Mae’r sŵn yn syml ac yn amrwd, ac yn cynnwys dau offeryn yn unig – y llais (a synnau cegaidd eraill amrywiol) ac ie, you guessed it, yr ukelele. Mae’r ddeuoliaeth hon hefyd yn addas iawn o ystyried pwnc dyrys nifer o’r caneuon – sef perthynas rhwng dau, a’r tor-cariad rhwng dau maes o law. Gellid disgrifio’r cynnyrch fel break-up album, gyda’r dwyster yn amlwg mewn caneuon fel ‘Get Out’ sy’n erfyn ar rywun i fynd, ac i adael llonydd; ac yn ‘Break of Dawn’ sy’n cynnwys y geiriau ‘every time I hear your voice, I
Maske Carw Fues i ’rioed yno’n hun, ond wrth ymgolli’n llwyr mewn byd o guriadau gwastadol a synths trwm, dwi’n sefyll mewn clwb nos myglyd ym 1986 yn taeru ’mod i’n gwrando ar New Order. Ond dydw’i ddim. Dwi’n gwrando ar ail albwm Carw, pair arbrofol arall gan y crefftwr o Sir Drefaldwyn, Owain Griffiths. Mae ’na ryw ing hiraethus datblygedig yn perthyn i gynnyrch Carw ers y cychwyn. O alawon heintus Les Soeurs (2015) i fwrlwm breuddwydiol Skin Shed (2018), ro’n i ar flaen ’y nghader i
glywed beth oedd gan Maske i’w gynnig. Dyma albwm offerynnol sy’n arbrofi fwyfwy â cherddoriaeth sinistr ei naws. Yn ddrych uniongyrchol i’r newid ym mywyd y cerddor tu ôl i’r cyfanwaith, mae Maske yn gofnod o emosiynau sy’n deillio o’r teimlad hwnnw o fod yn anweledig. Profiad Owain o adnabod neb yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn yr Almaen sydd o dan y chwyddwydr. Er i wynebau ar strydoedd Leipzing ymdebygu i rai ei filltir sgwâr; heb gydnabyddiaeth, cymhara’r profiad i guddio tu ôl i fwgwd, neu yn yr achos yma, Maske. Ac wrth briodi’r hiraeth yma gyda
adolygiadau
Bwncath II Bwncath
break down, I have no choice’ wrth i gariad droi yn hunan-dosturi. Er bo’r baledi serch yn gymysg â straeon hunllefus, mae elfen gref o hiwmor a thafod yn y boch yma, ac anodd yw gwrando ar yr albwm cyfan heb o leiaf wenu ambell i dro, yn enwedig yn ‘Ffrisian yn y cae’ sydd â buwch yn ganolbwynt i’r gân, a ‘Nes i ffindio ti’ sy’n adrodd am blentyn yn bwyta gormod o gaws. A dyna’n union sy’n gwneud yr albwm yma i weithio – mae Eilir Pierce yn llwyddo i gael y balans perffaith o’r dwys a’r doniol, gan ddefnyddio’r ukelele fel offeryn i lonni, tra bo’r geiriau’n aml yn dorcalonnus. Nid albwm cyffredin mohono, ac nid dyna fwriad yr artist ’chwaith. Yr hyn mae Eilir Pierce yn ei wneud unwaith eto ydy gwthio’r ffiniau trwy ganeuon unigryw cwbl anghonfensiynol, ac mae cyflwyno hynny ar gasét yn elfen o hynny. Fel rhan o’r cyflwyniad, gweithiodd gyda’r artist Elin Bach ar yr ochr weledol, gan gynnwys bathodyn gyda phob tâp; ac roedd gan brynwyr brwd hefyd opsiwn i gael eu bachau ar becyn yn cynnwys llyfryn bychan o gelf gan Elin Bach mewn ymateb i’r gerddoriaeth, gan wneud yr holl gyfanwaith yn un arbennig iawn. Gobeithio’n wir na fydd hiatws hir cyn i’r clustiau gael mwynhau mwy o Eilir Pierce. Awen Schiavone
grym electronig minimalistaidd, llwydda Carw unwaith eto i greu chwa o awyr iach wrth i’w ddawn beirianyddol lunio barddoniaeth haniaethol sy’n siarad drosto’i hun. Ac wrth uno dwy wlad, dyma ddetholiad 7 trac sy’n clymu tawelwch cefn gwlad â chynnwrf y ddinas. Ac er mor llwm ydi pethau ar y funud, dwi’n edrych ’mlaen at pan gawn i ymdrochi yng nghelf gain Carw unwaith eto mewn gig ôl-apocalyptaidd yng Ngharno lle fydd pawb yn gwisgo masg ac yn taeru eu bod mewn clwb nos myglyd ym 1986 yn gwrando ar New Order. Ifan Prys yselar.cymru
21
adolygiadau
Llyfrau Hanes Alun Gaffey Daeth ail albwm Alun Gaffey, ei gyntaf ar label Côsh, i olau dydd mewn cyfnod fydd yn sicr yn cyrraedd y llyfrau hanes, ac yn wir dyma drac sain briodol i’r dyddiau dystopaidd hyn. Megis darn o lenyddiaeth ei hun, mae pob trac yn adrodd stori wedi’i chrefftio gan ofidion Gaffey am gyflwr y byd. Efallai mai dyma yw ei ffordd o ymdopi â’i feddyliau dirfodol: bywiogi ei eiriau anobeithiol gyda cherddoriaeth hwyliog ac arbrofol, fel yn y trac dawns ‘Cofio pan oedd adar yn canu?’. Er gwaethaf rhinwedd mentrus yr albwm, llwydda Gaffey i gyfuno’r newydd a’r cyfarwydd. Mae traciau mwy generig fel ‘Arwydd’ a ‘Gwywa’r Gwelltyn’, gyda’u defnydd cyfarwydd o gitârs a phiano, yn teimlo fel math o deyrnged i boblogrwydd eiconig Radio Luxembourg gynt. Ond o’u cyfosod â rhai amgenach megis naws jazz ‘Glud’, mae’n anodd peidio sylwi bod rhannau o’r albwm yn peri gwrandawiad
Map Meddwl Yr Eira “Follow us on a journey, make sure to listen to these melodies”. Dyna gyfarwyddiadau Lewys Wyn, wrth iddo’n croesawu i’r tawch o alawon electropop sy’n addurno ail albwm Yr Eira. Taith ydy’r albwm, ac mae’r band yn addo’n tywys ar drywydd troellog ffrwyth eu meddyliau o’r pwl cyntaf un yn ‘Middle of Nowhere’, hyd at orfoledd uchafbwynt anthemig drymio Guto Howells yn niweddglo ‘Caru Cymru’. Yn rhy aml caiff enwau mawr y sin awr eu hanterth, cyn cilio’n ôl i ddistawrwydd y cyrion. Ond wrth ryddhau Map Meddwl, neidia Yr Eira y tu hwnt i’r tuedd hwn, yn parhau i fod yn gyffrous o gynhyrchiol. Mae ganddynt lawer mwy i’w ddweud wrthym, a dyma albwm sy’n gweiddi hynny o’r copa uchaf. O’r nodyn cyntaf, sylweddolwn nad brawd bach indie jangle Sŵnami ydy Yr Eira bellach. Cafodd y cam tuag at sŵn mwy dystopiaidd electronig ei ffurfio’n gychwynnol gyda rhyddhau eu halbwm cyntaf, Toddi. Ond yn oes orchfygol yr indie-pop Cymreig, dichon cafodd y cam hwnnw ei ddistewi gan alawon y gitârs bachog poblogaidd. Mae Map Meddwl wedi caniatáu i’r band gerfio a diffinio eu hunaniaeth
llawer dwysach nag eraill – rhywbeth na fydd at ddant bawb. Ond waeth os ydych chi’n mwynhau ochr arbrofol Gaffey neu beidio, ni ellir peidio parchu ei sgiliau cerddorol eclectig wrth chwarae’r offerynnau, ond hefyd yn y broses olygyddol. Mae’r defnydd o’r llais fel offeryn ar ei fwyaf gwefreiddiol yn ‘Croeso i 2009’, mewn symffoni o chwerthin, peswch a golygu’r llais i’w ymdebygu i fath o drofwrdd DJ. Ar y pegwn arall, dangosa yn ‘Gwerddon’ ei fod yr un mor gyfforddus yn manteisio ar y byd naturiol hefyd. Y byd yw ei gerddorfa, ac mae’r trac hwn yn ddathliad ohoni gyda thrydar cynhenid yr adar yn gefndir. Yn wir, o gofio’n ôl at y cyfyngiadau mewn grym ar adeg rhyddhad Llyfrau Hanes, mor braf oedd cael dianc i wynfyd naturiol ym mhen Alun Gaffey - yn enwedig pan nad oedd hi o reidrwydd yn bosib i’w wneud go iawn. Albwm uchelgeisiol a llwyddiannus arall. Tegwen Bruce-Deans
unigryw. Er nad yw’r band wedi tawelu dros y blynyddoedd, mae sŵn yr albwm hwn yn sicr yn brawf o’r modd maent yn aeddfedu. Gwelwn ym mawredd traciau fel ‘Esgidiau Newydd’ gywasgiad o sawl arddull mewn ychydig o funudau, gan ganiatáu iddo fod ar yr un pryd yn don o freuddwydio electronig moel, ac yn waedd o sicrwydd gan y drymiau roc. Wrth i’r band daflu helaethder o syniadau amrywiol at bob un trac, gallwn weld sut y mae map meddwl yr albwm yn ffurfio yn yr alawon – boed yn amrywiaeth gerddorol rhwng cymysgedd Stokes-aidd y synths a gwreiddiau’r gitâr indiepop, neu’n eiriol wrth i Lewys fynegi emosiynau sydd ar yr un pryd yn bersonol o deimladwy fel yn ‘Pob Nos’, ond hefyd yn cael eu rhannu’n genedlaethol. Casgliad yn sicr ydy Map Meddwl, a cheir y synnwyr gan segway rhythmig y gitâr yn y diweddglo epic ‘Corporal’, ‘Caru Cymru’, mai’r bwriad ydy rhoi profiad i’r gwrandäwr wrth wrando ar yr albwm yn ei gyfanrwydd. Tegwen Bruce-Deans
Darn estynedig:
Machynlleth Sound Machine Machynlleth Sound Machine Os yn chwilio am dro rhyngalaethol yna edrychwch ddim pellach na chynnig Machynlleth Sound Machine i’r byd. Mae’n ein gwahodd i edrych ar yr arallfyd, drwy delesgop wedi’i blannu rhywle ym Machynlleth, ac yn estyn llaw i’n tywys ni ar lwybr i alaeth y smoke machines a’r ystafelloedd tywyll. Cynigia MSM 9 trac cyhyrog, electronig, minimalaidd sy’n bachu’r glust o’r cychwyn. Dechreuai gyda ‘Detroit Chicago New York Machynlleth’ sy’n gosod awyrgylch gyffredinol yr albwm o beth y dychmygaf fyddai canlyniad dilyn rysáit lobsgows ar-y-cyd Steve Reich a Derrick Carter. Ond nid homage mo hwn, ond yn hytrach cornel Machynlleth o deyrnas Belleville, ble y ganwyd techno. Profiad pleserus oedd dysgu fod y ddau le’n efeilliaid trefol, ’rôl pori tudalen bandcamp MSM. Ie, cawl o ddylanwadau America a Chymru sydd yma. Mae synau cyfarwydd Detroit y 90au yn codi llaw nawr ac yn y man ac yn plethu’n ddi-drafferth gyda
Hunanladdiad Atlas Dafydd Hedd Mae’n anodd peidio â chynhesu at frwdfrydedd afieithus Dafydd Hedd. Dyma i chi foi dwy ar bymtheg oed sydd wedi cyfansoddi, recordio a rhyddhau dau albwm ei hun o fewn blwyddyn! Yn naturiol, mae’r naws amrwd homemade hwnnw y byddech yn ei ddisgwyl gan rywun mor ifanc yn rhyddhau’n annibynnol yn perthyn i Hunanladdiad Atlas, fel ei albwm cyntaf, Y Cyhuddiadau. Ond peidiwch â chamgymryd hynny am anaeddfedrwydd, yn sicr o ran geiriau. Mae gan Hedd bethau i’w dweud a chawn wybod hynny o’r ddechrau’r deg wrth iddo samplo un o areithiau’r ymgyrchydd amgylcheddol, Greta Thunberg, ar ddechrau’r trac agoriadol, ‘Fflamdy’. Cytgan y gân werdd yma
sy’n benthyg yr enw i’r albwm ac mae’r ddelwedd o’r byd yn cyflawni hunanladdiad yn un syml ond hynod effeithiol. Caiff themâu amgylcheddol a sosiowleidyddol eu cynnal trwy’r casgliad, gyda’r uchafbwyntiau’n cynnwys ‘Craith Weledol’ sy’n bortread o ardal ôl-ddiwydiannol (daw Dafydd o Fethesda) a ‘Heddiw’ – “Dwi’n ennill cyflog ond yn colli fy nghalon, yn gyrru Mercedes ac yn teimlo’n ddigalon”. Testun y caneuon heb os sydd yn rhoi’r cysyniad a’r hunaniaeth i’r casgliad. Mae’r gerddoriaeth ar y llaw arall yn eithaf amrywiol, gyda chwpl o draciau blŵs yn torri ar y pop ysgafn. Un o’r rheiny, ‘North Pole’, yw un o fy hoff ganeuon ar y casgliad, gyda llais graeanog Dafydd Hedd yn canfod ei gartref ysbrydol yn yr arddull hwnnw. Gwilym Dwyfor
Cwm Gwagle Datblygu
samplau llais o Gymru, gyda llais nodweddiadol yr hanesydd Dr John Davies yn toddi i mewn i ddrôr hi hats a synths ‘Strata Florida’. Camp glodwiw MSM yw’r gallu i ddod â’r ddau begwn yma at ei gilydd yn grefftus, camp dechnegol heriol, tra hefyd yn creu cerddoriaeth sy’n werth gwrando arno. ‘Machynlleth Techno Soul’ yw’r un rwy’ wedi gweld fy hun yn mynd yn ôl ato dro ar ôl tro. Trac sydd â bas cynllwyngar, clyfar, sy’n gwthio drwy gydol gydag ysbeidiau poliffonaidd bob yn hyn i roi cyfle i ddal anadl. Mewn geiriau eraill, mae’n haeddu’r sticer banger. Ni fyddai’n swnio allan o le mewn unrhyw glwb nos gwerth ei halen. MSM: Ar gyfer ffans Burial, Paleman, a’r rhai sy’n hoffi aros ar ddihun wedi amser gwely. Dylan Williams
Bum mlynedd yn ôl fe ddyfarnwyd gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar am y tro cyntaf, a’i gyflwyno i Datblygu. Roedd dau brif reswm am hynny - yn bennaf gan eu bod nhw’n gyson wedi gwthio ffiniau cerddoriaeth Gymraeg ers ffurfio ar ddechrau’r 1980au, ond hefyd gan eu bod nhw hefyd wedi rhyddhau eu record ddiweddaraf oedd yn gwneud hynny, Porwr Trallod, yn ystod 2015. Bum mlynedd yn ddiweddarach, dyma ryddhau eu cynnyrch cyntaf ers hynny ar ffurf y record Cwm Gwagle. Dwi bron yn gyndyn i adolygu albwm Datblygu oherwydd mae gwrandawyr yn debygol o gwympo i un o ddau gategori: ar y naill law, y rhai sy’n ‘cael’ cerddoriaeth y grwp ac yn ei garu o’r herwydd, ac ar y llall y rhai sydd ddim, ac yn debygol o’i gasau. Ag eithrio ambell gân, tydi cerddoriaeth Datblygu erioed wedi bod yn wrando hawdd, ac efallai bydd rhaid i chi fuddsoddi rhywfaint er mwyn canfod eich hun yn y categori cyntaf yma, ond unwaith y gwnewch chi hynny mae’n bur anhebygol y byddwch chi’n gadael.
Mae llawer o themâu Cwm Gwagle yn rai cyfarwydd i ffans Datblygu, ond mae rhyw ffresni i’r casgliad hefyd. Dwi’n teimlo i raddau helaeth mai dylanwad cynyddol amlwg Pat sy’n gyfrifol am hyn, ac yn ogystal â’i chyfraniad offerynnol, sydd bob amser wedi bod yn allweddol i’r grŵp, rydym yn clywed ei llais yn amlach nag erioed ar yr albwm newydd. Mae’r casgliad yn agor mewn ffordd drawiadol gyda ‘Cariad Ceredigion’, sydd â geiriau lleddf a hallt yn trafod cariad, iselder, colled ac alcoholiaeth ond gan wrthgyferbynnu ag alaw emynol ddigon llon. Mae’r deg trac sy’n dilyn yn cynnwys tipyn o amrywiaeth cerddorol - o arddull dawns ‘Cymryd y Cyfan’, i ymdeithgan Affricanaidd ei naws ‘Y Purdeb Noeth’ a balad ddigyfeiliant, plygain bron, ‘123 Dim Byd’. Mae ‘na rywbeth am y trac olaf hefyd, ‘Bwrlwm Bro’ - efallai mai dyma’r trac sy’n cynrychioli partneriaeth presennol Dave a Pat orau ar y casgliad. Does dim amheuaeth na fydd pawb yn ‘cael’ Cwm Gwagle, ond i ddefnyddio’r dywediad poblogaidd hwnnw yn yr iaith fain, ‘if you know, you know’. Owain Schiavone
yselar.cymru
23
Dwi isio bod yn... Ag yntau’n un o gerddorion ‘pop’ cyfoes cynnar Cymru ar ddiwedd y 1960au, fe adawodd Huw Jones ei farc ar hanes y sin gerddoriaeth Gymraeg gyda’i gân brotest enwog, ‘Dŵr’, ac fel un o sylfaenwyr cwmni Recordiau Sain. Cyhoeddwyd ei hunangofiant gan wasg Y Lolfa ym mis Hydref, a dyma ambell gymal difyr i roi blas i chi.
Pinaclau Pop Pontrhydfendigaid Tua diwedd y 1960au y dechreuwyd clywed y term ‘y byd pop Cymraeg’ am y tro cyntaf ond yn fy meddwl i, fe anwyd y byd pop Cymraeg yn swyddogol ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ym mis Gorffennaf 1968... Mae Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn adeilad anferth, wedi’i godi gan Syr David James i hyrwyddo eisteddfodau’r ardal. Yn 1968 roedd yn dal rhyw dair mil o bobl ac ar y 29ain o Fehefin roedd pob tocyn wedi’i werthu. Mae’r poster ar gyfer Pinaclau Pop Pontrhydfendigaid 1968 yn glasur hanner seicedelig gyda’r enwau mawr fel Dafydd Iwan, Y Pelydrau a Hogia Llandegai ar y top, ac ambell i enw llai adnabyddus ar gynffon y rhestr. Cyn bo hir, dyma sylwi ar sŵn anhygoel oedd yn dod o’r gynulleidfa – ymateb ar raddfa hollol wahanol i unrhyw beth oedd wedi cael ei glywed cynt. A dweud y gwir, roedd y gynulleidfa’n mynd yn boncyrs. Dyma fi’n troi’n ôl at ymyl y llwyfan i geisio gweld be ar y ddaear oedd wedi denu’r fath ymateb – a dyna pryd y gwelais i Tony ac Aloma am y tro cyntaf. Roedden nhw newydd orffen canu ‘Wedi Colli Rhywbeth Sy’n Annwyl’ ac roedd y gynulleidfa wedi gwirioni’n lân. Dwi’n cofio meddwl yn syn braidd – pwy ar wyneb y ddaear oedd rhain a be oedd ganddyn nhw oedd yn denu’r fath ymateb? 24
yselar.cymru
Y noson honno, mi gymerodd oriau i’r holl geir ffeindio eu ffordd o’r Bont ar hyd y lôn gul i Dregaron ac oddi yno i bob cornel o’r gorllewin, y de a’r gogledd. Hwn oedd ein Woodstock ni, a Tony ac Aloma oedd ein Jimi Hendrix.
Recordio ‘Dŵr’ efo Meic Stevens Mi wnes i gyfarfod Meic Stevens gyntaf mewn cyngerdd yn y Drenewydd. Roedd Meic wedi clywed ‘Dŵr’ a dyma’n dweud, ‘I could help you make a good recording of that, man’ (yn Saesneg roedd pawb yn tueddu i siarad efo Meic bryd hynny). Roedd Meic yn byw rhyw ddau fywyd ar y pryd – wedi treulio cyfnod yn Llundain ac yn dal â chysylltiadau yno a arweiniodd cyn bo hir at gytundeb hefo cwmni Warner Brothers. Cynnyrch y cytundeb hwnnw oedd ei albwm enwog Outlander. Roedd Meic wedi arfer gweithio mewn stiwdios recordio; roedd yn adnabod llawer iawn o gerddorion talentog o bob math ac roedd ei awydd i gynnig help, i rannu o’i brofiad, yn un cwbl ddidwyll... Fe gynigiodd i Meic wneud sesiwn recordio gyda’r nos yn HTV ac fe gynigiodd Meic i minnau ddefnyddio’r sesiwn honno i recordio ‘Dŵr’. Erbyn hynny roedd Meic wedi bod yn cyfeilio i mi ar lwyfan ar gyfer y gân honno bob tro y byddem yn digwydd bod yn cymryd rhan yn yr un noson ac felly roedd o’n eithaf cyfarwydd â’r gân. Awgrymodd y
byddai lleisiau merched yn ychwanegiad da ac fe drefnwyd i Heather Jones ac un o’i ffrindiau, Ann Morgan, a aeth ymlaen i fod yn gantores opera yn yr Iseldiroedd, i ddod draw i Bontcanna ryw gyda’r nos yn y gwanwyn. Daethom o’r stiwdio gyda fersiwn ddigon taclus o’r gân ond wrth wrando arni dros y dyddiau canlynol, fe ddois i i’r casgliad nad oeddwn yn gwbl fodlon ei bod wedi dal y cynnwrf roeddwn i’n credu oedd yn sylfaenol i’r gân. Os rhywbeth roedd yn recordiad rhy lân, rhy neis, rhy feddal a gyda rhywfaint o swildod, dyma fynegi hyn. Dyma Mike Gore wedyn yn sôn fod ganddo gyfaill yn gweithio mewn stiwdio recordio fawr yn Llundain. Roedd ar hwnnw ffafr i Mike Gore ac fe gynigiodd ofyn i’r cyfaill a fyddai o’n fodlon trefnu sesiwn recordio am ddim i’w gyfeillion o Gaerdydd. Dyma felly drefnu i fynd i Lundain gyda Meic a Heather, gyda Geraint Jarman yn gwmni, ar gyfer sesiwn fore dydd Sul yn gynnar yn yr haf, ar ôl diwedd y tymor coleg. Y noson cyn y recordiad roedd Meic i fod i ganu mewn clwb gwerin yn Fairford ger Caerloyw a dyma’r pedwar ohonom, a dwy gitâr, yn gwasgu i mewn i nghar i i fynd â Meic i Fairford gyda’r bwriad o godi’n fore y diwrnod canlynol a chyrraedd Llundain erbyn 10 yn unol â’r trefniant. Wel, fe aeth hi’n noson hwyr yn y clwb gwerin a bu cryn dipyn o yfed a hyn a’r llall ar ôl y canu. Cysgu ar lawr yn rhywle wnaethon ni – dwi’n meddwl fod gen i sach gysgu barhaol yn y car y dyddiau hynny – ac er i ni i gyd gytuno y bydden ni ar ein ffordd erbyn 8 o’r gloch, nid felly y bu. Roedd fy nghar mini erbyn y cyfnod yma wedi cyfarfod â’i wneuthurwr ar ffurf lori fawr a fethodd â stopio. Roeddwn innau wedi uwchraddio i MG 1100, car bach reit handi ond bod yna rywbeth o’i le ar yr egsôst a oedd yn golygu fod yna ychydig o oglau drwg yn treiddio i’r car bob hyn a hyn. Cychwynnwyd yn y diwedd ryw hanner awr yn hwyr ond rywle tua Swindon dyma Heather yn teimlo awydd taflu i fyny. Bu’n rhaid stopio a phwyllo a gyrru ychydig yn llai cyflym o hynny ’mlaen... Pan gyrhaeddon ni yn y diwedd, rhyw dri chwarter awr yn hwyr, roedd yna gymysgedd o brysurdeb teledol ac o laidbackness cerddorol o gwmpas y lle yn ogystal â pheiriannydd tawel, cwrtais ond ychydig yn amheus. Yn y diwedd, dyma benderfynu fod gennym ddigon o hyder i roi’r trac sylfaenol i lawr. Un o’r pethau oedd yn arbennig am y stiwdio a’r sesiwn yma oedd y ffaith ein bod yn defnyddio peiriant 4 trac. Roedd hyn yn beth cymharol newydd ond roedd yn eich galluogi i roi gwahanol offerynnau neu leisiau ar draciau unigol a’u cymysgu wedyn i gael y sŵn gorau posibl. Dyma hanfod egwyddor recordio aml-drac sydd yn dal yn weithredol heddiw. Ond gyda dim ond pedwar trac ar gael, y dechneg oedd recordio trac offerynnol ar dri thrac, cymysgu’r seiniau yna i lawr ar un o’r pedwar trac gan adael y tri arall yn rhydd unwaith eto ar gyfer recordio pethau ychwanegol gan gynnwys y llais. A dyna a wnaed. Ar ôl bodloni fod y mix cyntaf yma’n iawn, dyma ychwanegu lleisiau Heather a minnau ac wedyn rhoddwyd cynnig ar ychwanegu’r Mellotron... Wn i ddim lle wnaethon ni gysgu’r noson honno. Rhyw westy rhad yn Paddington mae’n debyg, a’r bore
wedyn dyma Meic yn trefnu i ni fynd i stiwdio oedd yn gwneud acetates o dapiau, sef disg caled y gallech chi fynd ag o adref hefo chi a gwrando arno ar eich chwaraewr recordiau. Fe wnaethon ni dri o’r rhain, ac mae un ohonynt wedi ffeindio’i ffordd i archif y Llyfrgell Genedlaethol... Gyda’r tâp yn fy meddiant, roeddwn yn fwy penderfynol fyth o geisio sicrhau rheolaeth dros amodau eraill cyhoeddi’r record – y clawr, hyrwyddo, dosbarthu sydyn, ac felly yn y blaen. Dafydd Iwan awgrymodd mai creu ein cwmni ein hunain oedd yr ateb...
‘Dwi isio bod yn Sais’ Yn 1971 roeddwn wedi symud i bentref Llandwrog ac roedd clywed dau fachgen ar y stryd ym Mangor yn gwneud hwyl am ben Dafydd Iwan yn Saesneg mewn acenion Cymreigaidd iawn wedi dod â’r geiriau ‘Dwi isio bod yn Sais’ i’r meddwl. Fe sticiodd y llinell ac roeddwn i ar y pryd yn dechrau dysgu tipyn am hanes Llandwrog fel pentref a grëwyd gan stad Glynllifon. Roedd gen i gymdoges oedd wedi bod yn gweini yn y plas ac yn hoff iawn o adrodd straeon am garedigrwydd yr Arglwydd a’r Arglwyddes i’r pentrefwyr tlawd; roedd Pwyllgor Bowen wrthi yn y cyfnod hwn yn ystyried a ddylid argymell arwyddion ffyrdd dwyieithog, roedd y teulu brenhinol yn y newyddion am rywbeth neu’i gilydd bob dydd, a daeth y cyfan at ei gilydd ym mhersonoliaeth ddychmygol y person yn y gân sydd am fawrygu popeth Seisnig a dirmygu’r Cymry a’r Gymraeg. Mi wnaeth daro tant o’r funud gyntaf. Roedd pawb yn deall yr ergyd, ond rhai yn cael trafferth â’r mynegiant. Byddem yn cael llythyrau yn Sain o’r De yn gofyn ‘os gwelwch yn dda gawn ni gopi o’r gân ‘Rwyf eisiau bod yn Sais’’. Dwi wedi clywed sawl person (er enghraifft Vaughan Roderick) yn cwyno pan glywant y ffurf ‘dwi isio’ yn cael ei defnyddio mor gyffredin yn y cyfryngau Cymraeg y dyddiau hyn. Wel, dwi’n meddwl mai fi wnaeth ei chyflwyno i’r genedl fel ffurf lenyddol...
Sefydlu Cwmni Recordiau Sain Roedd yna nifer o’r penderfyniadau gymeron ni wrth sefydlu’r cwmni yn adlewyrchu ymrwymiad Dafydd a minnau i egwyddorion Cymdeithas yr Iaith. I ddechrau, enw Cymraeg roddwyd i’r cwmni. Roedd hynny’n beth newydd. Fe allech chi ddadlau fod yr enw ei hun braidd yn amlwg – ond roedd o’n ddisgrifiad clir iawn o’r hyn roedd y cwmni am ei gynhyrchu. Y bwriad oedd ei alw yn syml yn Sain Cyf., ond fe gawsom neges gan Dŷ’r Cwmnïau yn dweud fod yna gwmni peirianyddol o Swydd Efrog o’r enw Sayn Ltd yn bodoli eisoes. Doedd y ffaith bod ynganiad, lleoliad a natur y busnes yn hollol wahanol yn cyfri’ dim wrth gwrs. ‘Recordiau Sain’ oedd yn rhaid iddi fod felly, ond byddai hynny’n golygu na fyddem yn dod o dan ‘S’ yn y llyfr ffôn, y lle allweddol i bobl fedru dod o hyd i ni yn y dyddiau hynny cyn dyfodiad y we. A dyna’r eglurhad am y ffurf gyfreithiol drwsgl sydd wedi bod ar y cwmni ers 50 mlynedd, sef Sain (Recordiau) Cyf. Mae’r gyfrol ‘Dwi isio bod yn...’ gan Huw Jones allan gan wasg Y Lolfa nawr am £12.99. yselar.cymru
25
Rhywbryd yn Rhywle Lewys Mewn blwyddyn anarferol, llithrodd ambell beth o dan y radar heb y sylw haeddiannol. Un o’r rheiny a oedd albwm cyntaf Lewys, Rhywbryd yn Rhywle, a ryddhawyd ym mis Mawrth. Rhag ofn i chi fethu’r berl yma ar y pryd, gofynnodd Y Selar i Lewys Meredydd ei hun ein hatgoffa ni i gyd. Y sialens i’r prif leisydd, mewn dim ond brawddeg yr un, cyflwyno’r albwm, Drac Wrth Drac. 1.Rhywbryd Ein intro i bob gig ers ein perfformiad cyntaf yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2018; ’neud synnwyr i ddechrau efo fo. 2. Rhywle Syniad ddaeth o jam cyntaf fi ac Iestyn nôl yn 2017. Agoriad ffrwydrol i’r albwm.
7. Dan y Tonnau Y sengl lle gafodd sŵn y pedwar ohona ni ei glywed am y tro cyntaf; atgofion melys o Steddfod Llanrwst!
3. Yn Fy Mhen “Tywydd gwlyb a llwm sydd yn fy mhen!”, y sengl gyntaf, lot wedi newid ers hynny!
8. O’r Tywyllwch Fy hoff drac i chwarae’n fyw; tywyll, swnllyd, bach yn ddramatig!
4. Gwres Yr ail sengl, cân hafaidd a ddaeth allan jest cyn ein gig gyntaf, dal yn ffefryn!
9. Hel Sibrydion Y gân olaf gafodd ei sgwennu gynnon ni’n pedwar i gadw balans rhwng y caneuon trwm a mwy indie.
5. Y Cyffro Y sengl olaf, fy hoff gân yr ar albwm ’swn i’n deud... egnïol, di-baid. 26
6. Camu’n Ôl Bach o anomaly o gymharu â gweddill yr albwm, ond brêc bach chill yn ei chanol hi.
yselar.cymru
10. Adnabod Y gân gyntaf i mi sgwennu nôl yn 2016; diwedd reit nostalgic (a swnllyd) i’r albwm.
Colofn Lloyd Steele Gitarydd Y Reu sy’n trafod amrywiaeth, cynrychiolaeth a chynwysoldeb yn y sin.
M
ae’r llofruddiaethau hiliol gan yr heddlu yn yr UDA dros y misoedd diwethaf wedi sbarduno’r symudiad Black Lives Matter ar draws y byd, ac wedi taflu goleuni ar lawer o feysydd lle mae hiliaeth yn bodoli ond ddim yn cael ei ystyried, neu lle mae’n cael ei gymryd yn ganiataol. Un elfen o hyn yw’r diffyg cynrychiolaeth a’r diffyg amrywiaeth a welwn o ddydd i ddydd, o’n sgriniau teledu i feinciau’r Senedd. Dwi’n credu bod y broblem hon yn bodoli yn y sin gerddoriaeth Gymraeg hefyd, boed o’n ddiffyg cynrychiolaeth o ran rhyweddau, rhywioldebau neu hiliau gwahanol. Mae hyn wedi’i wreiddio yn y ffaith bod cyn lleied o gynwysoldeb ar gael. Mae hon yn broblem eang iawn, sy’n lledaenu dros nifer o ffactorau gwahanol, fel yr iaith, arddull y gerddoriaeth, a’r apêl i ddenu artistiaid Cymraeg i sgwennu’n Gymraeg, felly does yna ddim un ateb syml i ddatrys hyn. Dwi wedi clywed pobl yn deud sawl gwaith, “mae cerddoriaeth Gymraeg i gyd yn swnio’r un peth”, sydd yn amlwg ddim yn wir. Gan amlaf, mae hyn yn tarddu o ddiffyg ymchwil/ymdrech i weld cymaint o artistiaid talentog sydd yma yn barod, a’r rhagdybiaeth bod cerddoriaeth Gymraeg yn dod o dan un genre. Ond mae’r ddelwedd o’r sin yn ei gwneud hi’n anodd taclo’r stigma hwn, oherwydd y diffyg amrywiaeth, sydd hefyd yn rhoi naws exclusive i’r sin. Gall hyn fod yn frawychus i bobl o gefndiroedd gwahanol, sydd efallai yn eu hatal nhw rhag sgwennu’n Gymraeg. Felly mae gwir angen dechrau cwestiynu’r
diffyg amrywiaeth hwn, a dechrau meddwl am yr hyn sydd angen ei wneud i’w ddatrys. Nid yn unig mae angen denu artistiaid mwy amrywiol, mae angen ehangu’r gynulleidfa hefyd. Mae cynlluniau fel Gorwelion yn gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi artistiaid newydd i gael gigs da mewn llefydd gwahanol. Ond dwi’n meddwl bod cymaint mwy o botensial i ennill gwrandawyr Cymraeg i’r sin. Dwi’n nabod cymaint o bobl Cymraeg sy’n diystyru cerddoriaeth Gymraeg yn gyfan gwbl, am yr un rheswm â’r uchod. Mae angen gwneud y sin yn fwy hygyrch i’r rheini sydd ddim yn mynd i’r Eisteddfod pob blwyddyn neu’n gwrando ar Radio Cymru. Hynny ydy, mae angen normaleiddio gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg i ddenu pobl o gefndiroedd gwahanol sydd â chwaeth wahanol mewn cerddoriaeth. Fel person hoyw o hil gymysg, yn bersonol dwi wedi teimlo fel chydig
o outsider ar adegau o fewn y sin. Ond mewn gwirionedd, dydy hyn heb fod yn unrhyw fath o rwystr i mi ers bod yn aelod o fand. Yn y bôn, mae amrywiaeth o fewn y sin am fod yn rhywbeth positif iawn er mwyn iddo dyfu. Bydd pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyflwyno arddulliau a dylanwadau gwahanol i ganeuon yn yr iaith Gymraeg, sydd am ddenu mwy o bobl ryngwladol (yn ogystal ag o Gymru) i wrando ar yr hyn sydd gennym ni i’w gynnig. Does dim amheuaeth bod y sin Gymraeg mewn cyflwr reit iach ar hyn o bryd, ond dwi’n meddwl bod angen galw mwy ar drefnwyr gigs a labeli yng Nghymru i ymdrechu i edrych ymhellach na’u milltir sgwâr i chwilio am dalent gwahanol a chyffrous. Dydw i’m yn expert o bell ffordd, a fedrith o’m digwydd dros nos, ond yn y pen draw mae angen rhyw fath o newid i allu cynnwys pawb, beth bynnag eu cefndir, i adeiladu ar lwyddiant y sin. yselar.cymru
27